{"id":672,"date":"2023-09-19T10:00:34","date_gmt":"2023-09-19T10:00:34","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=672"},"modified":"2025-01-03T15:59:16","modified_gmt":"2025-01-03T15:59:16","slug":"diwrnod-iechyd-meddwl-ieuenctid-2023-dewrder-gan-jaden","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/diwrnod-iechyd-meddwl-ieuenctid-2023-dewrder-gan-jaden\/","title":{"rendered":"Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid 2023 &#8211; Dewrder gan Jaden"},"content":{"rendered":"<p>Rhybudd: mae cynnwys y blog hwn yn cynnwys cyfeiriadau at hunanladdiad, hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta<\/p>\n<p>Ry\u2019n ni i gyd wedi clywed y cwestiwn nodweddiadol \u2018na sy\u2019n cael ei ddefnyddio i dorri\u2019r i\u00e2\u2014 &#8220;pa un gair fyddech chi&#8217;n ei ddefnyddio i ddisgrifio&#8217;ch hun?&#8221;<\/p>\n<p>Gofynnwyd hyn i mi yn ddiweddar ym mhriodas fy nghefnder, ar \u00f4l i mi weld ambell berson yn edrych yn ddryslyd, ac anghynnil, ar fy mraich, yr oeddwn wedi ceisio ei chelu \u00e2 chuddiwr colur. Mae&#8217;n debyg na wnaeth orchuddio&#8217;r creithiau cymaint ag yr oeddwn i&#8217;n meddwl y byddai\u2019n ei wneud. Anwybyddais i\u2019r edrychiadau, oherwydd dwi\u2019n gymharol gyfarwydd \u00e2 nhw nawr. Yn lle hynny, atebais y cwestiwn, yn syml:<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;Yr un gair y byddwn i&#8217;n ei ddefnyddio i ddisgrifio fy hun yw <em>dewr.&#8221;<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Dechreuodd fy nhrafferthion iechyd meddwl pan ro\u2019n i\u2019n ifanc, pan gefais fy nghofleidio gan freichiau afiechydon parlysol, yr oeddwn i wir yn meddwl eu bod ar fy ochr i\u2014fy &#8220;ffrindiau,&#8221; fel yr oeddwn i&#8217;n arfer eu hystyried. Dim ond yn ddiweddarach y sylweddolais nad oedd fy anhwylder bwyta, fy iselder, a\u2019m gorbryder yn ddim mwy nag angenfilod difrodus a oedd yn benderfynol o rwygo\u2019m bywyd a&#8217;m perthnasoedd oddi arnaf.<\/p>\n<p>Wrth i mi suddo ymhellach i&#8217;m trafferthion, dwi\u2019n cofio sut roedd amser yn llusgo, a phopeth yn teimlo&#8217;n araf. Roedd pob symudiad; pob gair; pob ystum ro\u2019n i\u2019n ei wneud; yn cael ei guddio gan glogyn o dwyll \u2018mod i&#8217;n &#8220;iawn, wir,&#8221; a &#8220;does dim angen help arna i.&#8221; Ro\u2019n i&#8217;n credu, mor gadarn, gyda&#8217;r clogyn \u2018ma yn hongian o&#8217;m cwmpas, fy mod i&#8217;n bod yn &#8220;ddewr&#8221;. Ond mewn gwirionedd, ro\u2019n i&#8217;n blentyn dryslyd ag angenfilod yn ei phen yn cau eu crafangau amdani. A dywedais wrth neb, oherwydd ro\u2019n i eisiau bod yn &#8220;ddewr.&#8221;<\/p>\n<p>Ac ro\u2019n i <em>yn <\/em>bod yn ddewr, a dweud y gwir. Ro\u2019n i\u2019n ddewr bob eiliad ro\u2019n i\u2019n aros ar y Ddaear. Yr holl droeon y deffroais i yn y bore, cael cawod, bwyta\u2014dyna fi yn bod yn anhygoel o ddewr, er nad o\u2019n i&#8217;n sylwi hynny ar y pryd. Ro\u2019n i\u2019n meddwl \u2018mod i\u2019n bathetig. <em>Pa fath o berson sydd ddim hyd yn oed yn gallu codi o&#8217;r gwely? Pa fath o lanast o berson sydd eisiau brifo ei hun?<\/em> Nawr, dwi&#8217;n edrych yn \u00f4l ar y ferch ifanc \u2018na gyda mwy o dosturi, gan wybod bod ei hymddygiad yn sgil rhywbeth a oedd allan o&#8217;i rheolaeth yn llwyr. Nid ein bai ni yw salwch meddwl, a hoffwn i fod wedi sylweddoli hynny&#8217;n gynt. Byddai wedi arbed nosweithiau di-gwsg di-rif i mi pan fyddwn i\u2019n beio fy hun am y ffordd yr oedd fy ymennydd yn sgrechian arna i bob tro ro\u2019n i eisiau gwneud pethau &#8220;normal.&#8221; Yn rhoi llond pen i mi bob tro ro\u2019n i\u2019n ystyried fy nyfodol. Ac yn rhegi ata i pan ro\u2019n i\u2019n meddwl am aros yn fyw.<\/p>\n<p>Dwi&#8217;n edrych yn \u00f4l ar yr adegau hynny heddiw ac yn profi ystod o emosiynau na allaf egluro eu pwrpas yn llwyr. Mae \u2018na dristwch a phiti, wrth gwrs. Ond mae \u2018na hefyd hiraeth poenus, chwerwfelys pan dwi&#8217;n meddwl am y cysur paradocsaidd ro&#8217;n i&#8217;n ei deimlo yng nghanol yr holl boen \u2018na. Mae mor anhygoel o hawdd dweud wrth rywun sy&#8217;n cael trafferth gyda salwch meddwl: &#8220;Nagwyt ti\u2019n cas\u00e1u bod fel hyn? Pam na wnei di jyst ceisio gwella?&#8217; Ond dyw hi byth mor syml \u00e2 hynny. Ro\u2019n i mewn poen aruthrol, cymaint felly nes ei bod hi&#8217;n llawer haws suddo na gwneud yr ymdrech i godi \u2018n\u00f4l ar fy nhraed. Felly, ro\u2019n i\u2019n gaeth am beth oedd yn teimlo fel tragwyddoldeb.<\/p>\n<p>Ac yn hynny, roedd \u2018na ddewrder cynhenid. Mae <em>unrhyw un<\/em> sy&#8217;n ymgodymu \u00e2 chrafangau hollgynhwysol salwch meddwl yn gwisgo mantell gynhenid o ddewrder.<\/p>\n<p>Ond nid dyna pam dwi&#8217;n disgrifio fy hun yn ddewr. Dwi&#8217;n cadw&#8217;r gair hwnnw ar gyfer y foment y sylweddolais nad dewrder oedd anwybyddu\u2019r sefyllfa a thwyllo fy hun \u2018mod i\u2019n &#8220;iawn.&#8221; Yn hytrach, dwi\u2019n credu mai fy moment ddewraf oedd cydnabod \u2018mod i wedi colli rheolaeth ac estyn allan am help,\u00a0 dysgu i beidio beio fy hun am rywbeth nad oeddwn i wedi gofyn amdano,\u00a0 sylweddoli nad yw gwellhad byth yn daith linellol, yn symud mewn llinell letraws fach daclus tuag i fyny. Gwnaeth fy newrder ddweud celwydd wrtha i trwy adael i\u2019m clwyfau meddyliol a chorfforol wella, heb deimlo&#8217;r angen i&#8217;w hailagor. Dewrder oedd cydnabod nad oedd angen i mi brofi fy nhrafferthion i unrhyw un, gan eu bod yn ddilys dim ond trwy eu bodolaeth. Dyna pam dwi\u2019n fy ngalw fy hun yn ddewr.<\/p>\n<p>Ond nid dyna&#8217;r ateb roedd fy nheulu estynedig yn chwilio amdano, felly dywedais wrthynt ei fod gan \u2018mod i wedi taro fy mys troed unwaith heb grio. Wedi&#8217;r cyfan, dwi ddim yn teimlo\u2019r angen bellach i eraill gydnabod math o ddewrder na fyddent byth yn ei ddeall.<\/p>\n<p><strong>Am yr awdur:<\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-657 media-657\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 209px;height: 209px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2023\/09\/Youth-mental-health-day-JAden-2023.png\" alt=\"\" \/>Helo, fy enw i yw Jaden! Dwi&#8217;n 17 mlwydd oed ac yn wreiddiol o India ond wedi fy lleoli yn yr Emiradau Arabaidd Unedig. Mae fy iechyd meddwl yn rhywbeth dwi wedi cael trafferth ag ef ers amser maith, ac wrth i mi ddechrau codi\u2019n araf i\u2019m traed unwaith eto, dwi&#8217;n hynod angerddol am ddefnyddio fy ngorffennol fel angor i helpu a chefnogi eraill sy&#8217;n mynd trwy&#8217;r un peth, gobeithio. Ar hyn o bryd dwi yn fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol uwchradd ac yn bwriadu astudio naill ai seicoleg addysgol neu Saesneg iaith yn y brifysgol. Dwi\u2019n awdur uchelgeisiol a dwi\u2019n gobeithio gwneud gwahaniaeth yn y byd yma ryw ddydd. Dwi\u2019n caru darllen, ysgrifennu, chwarae&#8217;r piano a\u2019m c\u0175n!<\/figure>\n<figure class=\"image align-none\">Ysgrifennais yr erthygl hon ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, sy&#8217;n ein hatgoffa o&#8217;r angen dybryd i fynd i&#8217;r afael \u00e2 lles meddyliol ein cenhedlaeth iau, mewn byd lle gall pwysau a chymhlethdodau bywyd modern effeithio ar feddyliau ifanc. Mae&#8217;r diwrnod hwn yn pwysleisio arwyddoc\u00e2d deialog agored, rhwydweithiau cymorth, ac adnoddau hygyrch. Drwy gydnabod yr heriau unigryw y mae pobl ifanc yn eu hwynebu a meithrin amgylchedd o ddealltwriaeth, rydym yn cymryd cam hanfodol tuag at feithrin cenhedlaeth sy\u2019n feddyliol wydn a grymus.<\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ac ro\u2019n i yn bod yn ddewr, a dweud y gwir. Ro\u2019n i\u2019n ddewr bob eiliad ro\u2019n i\u2019n aros ar y Ddaear. Yr holl droeon y deffroais i yn y bore, cael cawod, bwyta\u2014dyna fi yn bod yn anhygoel o ddewr, er nad o\u2019n i'n sylwi hynny ar y pryd. ","protected":false},"author":6962,"featured_media":668,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[149,269,71],"tags":[188,184,182,99,180,59,186],"class_list":["post-672","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-digwyddiadau","category-ffrwd","category-lleisiau-ieuenctid","tag-adnoddau-iechyd-meddwl","tag-byddwch-yn-ddewr","tag-diwrnod-iechyd-meddwl-ieuenctid","tag-iechyd-meddwl","tag-ieuenctid","tag-lleisiau-ieuenctid","tag-testun-creadigol"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2023\/09\/bravery.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/672","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=672"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/672\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":673,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/672\/revisions\/673"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/668"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=672"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=672"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=672"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}