{"id":476,"date":"2022-05-09T08:24:42","date_gmt":"2022-05-09T08:24:42","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=476"},"modified":"2022-05-09T11:14:19","modified_gmt":"2022-05-09T11:14:19","slug":"cysylltu-yn-ol-a-chich-hun-wrth-deimlon-unig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/cysylltu-yn-ol-a-chich-hun-wrth-deimlon-unig\/","title":{"rendered":"Cysylltu yn \u00f4l \u00e2 chi&#8217;ch hun wrth deimlo&#8217;n unig"},"content":{"rendered":"<h3><em>Dyma Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd y Meddwl, ac unigrwydd yw&#8217;r thema eleni. Mae unigrwydd yn deimlad a ddaw ar bawb weithiau &#8211; gall fod yn anodd ei adnabod, ei ddisgrifio a\u2019i gydnabod.<\/em><\/h3>\n<h3>Yn y blog hwn, byddwn ni\u2019n cynnig rhai syniadau i\u2019w hystyried os ydych chi\u2019n teimlo\u2019n unig yr wythnos hon neu ar unrhyw ddiwrnod arall o\u2019r flwyddyn.<\/h3>\n<h2>Beth yw unigrwydd?<\/h2>\n<p>Bydd pawb yn teimlo&#8217;n unig o bryd i&#8217;w gilydd.<\/p>\n<p>Mae teimladau o unigrwydd yn bersonol ac, felly, bydd pawb yn profi unigrwydd mewn ffordd wahanol.<\/p>\n<p>Disgrifir unigrwydd fel arfer yn deimlad a brofwn ni pan fo angen cyswllt cymdeithasol a pherthnasoedd arnon ni heb ei ddiwallu. Dyw unigrwydd ddim yr un fath \u00e2 bod ar eich pen eich hun.<br \/>\nGallech chi ddewis bod ar eich pen eich hun a byw\u2019n fodlon heb weld llawer o bobl, er y gallai hynny achosi unigrwydd i bobl eraill.<\/p>\n<p>Gallech chi deimlo\u2019n unig er gwaethaf cymdeithasu, perthynas a theulu \u2013 yn arbennig os ydych chi o\u2019r farn nad yw\u2019r bobl sydd o\u2019ch cwmpas yn eich deall neu\u2019n eich caru.<\/p>\n<h4><em>Weithiau, gallwn ni deimlo&#8217;n unig hyd yn oed os ydyn ni yng nghwmni llawer o bobl neu os oes llawer o ffrindiau gyda ni.<\/em><\/h4>\n<p>Gall pawb deimlo\u2019n unig ar adegau am resymau gwahanol megis newidiadau anodd yn ein hoesau &#8211; symud i rywle newydd, diwedd perthynas \u00e2 chariad neu gyfaill, dechrau yn y brifysgol, newydd swydd neu brofi profedigaeth.<\/p>\n<p>Weithiau, gall cyfryngau cymdeithasol beri inni deimlo na allwn ni fod yn rhan o\u2019r \u2018bywydau perffaith\u2019 a welwn ni ar y sgr\u00een bob dydd. Gall ymddangos bod pawb arall yn cael hwyl gyda llawer o ffrindiau a pherthnasau o\u2019i gwmpas. O ganlyniad, gall ymddangos yn anos pan fyddwn ni\u2019n teimlo\u2019n unig heb wybod pwy y dylen ni droi ato i\u2019n helpu.<\/p>\n<p>Cofiwch mai uchafbwyntiau bywyd rhywun welwch chi ar gyfryngau cymdeithasol. Er y gall llun, pennawd neu fideo gyfleu argraff, nid dyna\u2019r holl hanes bob tro, ac mae\u2019ch teimladau a&#8217;ch profiadau chi yn ddilys waeth beth welwch chi gan bobl eraill.<\/p>\n<figure id=\"post-469 media-469\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2022\/05\/pexels-kerde-severin-1542252-scaled.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h2>Unigrwydd ac iechyd y meddwl<\/h2>\n<p>Er nad yw teimlo\u2019n unig yn ymwneud ag afiechyd y meddwl o reidrwydd, mae cysylltiad cryf rhwng y ddau. Gall fod yn fwy tebygol y byddwch chi\u2019n teimlo\u2019n unig os oes problem ynghylch iechyd eich meddwl. Gall afiechyd y meddwl effeithio\u2019n fawr ar fywyd rhywun ac mae\u2019n debygol y bydd llai o gyswllt cymdeithasol o ganlyniad.<\/p>\n<p>Er enghraifft, efallai na fydd rhai pobl yn deall hanfod amryw broblemau iechyd y meddwl ac, felly, gall fod yn anodd trafod eich problemau gyda nhw.<\/p>\n<p>Ar y llaw arall, gall fod ofn cymdeithasol neu bryder arnoch chi fel y bydd gweithgareddau beunyddiol gyda phobl yn anodd, gan arwain at brinder cyswllt cymdeithasol ystyrlon ac achosi unigrwydd.<\/p>\n<p>Mae pandemig COVID-19 wedi arwain at ragor o unigrwydd ymhlith y boblogaeth, yn enwedig pawb oedd yn byw ar ei ben ei hun yn ystod cyfnod y clo heb allu cwrdd \u00e2 ffrindiau, perthnasau neu gydweithwyr yn rheolaidd.<\/p>\n<h4><em>Mae 1 o bob 14 o bobl 16 oed neu\u2019n h\u0177n yn y deyrnas hon yn dweud eu bod yn unig (<\/em><a href=\"https:\/\/www.ons.gov.uk\/peoplepopulationandcommunity\/wellbeing\/articles\/mappinglonelinessduringthecoronaviruspandemic\/2021-04-07\"><em>Swyddfa\u2019r Ystadegau Gwladol<\/em><\/a><em>)<\/em><\/h4>\n<h2>Cysylltiadau<\/h2>\n<p>Mae\u2019n hanfodol dod o hyd i&#8217;n cysylltiadau \u00e2 ni ein hunain, pobl eraill a&#8217;r byd o&#8217;n cwmpas i ddiogelu iechyd y meddwl a lleddfu teimladau o unigrwydd.<\/p>\n<p>Hanfod unigrwydd yw teimlo nad oes gyda ni\u2019r perthnasoedd ystyrlon a hoffen ni o&#8217;n cwmpas.<\/p>\n<figure id=\"post-459 media-459\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2022\/05\/pexels-cottonbro-6594305-scaled.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Mae&#8217;n arbennig o bwysig helpu pobl ifanc i wybod pan fyddan nhw\u2019n teimlo&#8217;n unig, deall eu meddyliau a&#8217;u teimladau a nodi&#8217;r cysylltiadau cefnogol sydd ar gael.<\/p>\n<h4><em>Dywedodd 69% o bobl ifanc 13-19 oed eu bod yn teimlo\u2019n unig \u201cyn aml\u201d neu \u201cweithiau\u201d dros y pythefnos diwethaf a dywedodd 59% nad oes neb i droi ato \u201cyn aml\u201d neu \u201cweithiau\u201d. (<\/em><a href=\"https:\/\/www.mentalhealth.org.uk\/coronavirus\/loneliness-during-coronavirus\"><em>YouGov<\/em><\/a><em>) <\/em><\/h4>\n<p>Mae rhai pethau isod i\u2019ch helpu i gysylltu yn \u00f4l \u00e2 chi\u2019ch hun ac eraill a theimlo\u2019n llai unig pan fyddwch chi\u2019n teimlo\u2019n isel.<\/p>\n<p><strong>Bod yn garedig i chi\u2019ch hun<\/strong><\/p>\n<p>Efallai na fydd treulio amser ar eich pen eich hun yn ymddangos yn hwyl, ond byddwch chi\u2019n fwyfwy hyderus o ganlyniad i wneud pethau rydych chi\u2019n eu mwynhau a bod yn garedig i chi\u2019ch hun. Mae&#8217;n dda neilltuo amser i fod ar eich pen eich hun ac ymlacio.<\/p>\n<p><strong>Mynegi\u2019ch teimladau<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong><\/p>\n<p>Mae&#8217;n bwysig cael cyfleoedd i fynegi\u2019ch teimladau hyd yn oed os nad oes neb i siarad ag e ar hyn o bryd. Trwy gadw dyddiadur, gallwch chi gofnodi\u2019ch hwyliau ac, o ddarllen y darnau eto, gallai fod modd gweld problemau sy\u2019n digwydd yn aml a\u2019u datrys.<\/p>\n<figure id=\"post-461 media-461\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2022\/05\/pexels-bich-tran-1059380-scaled.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Mae rhai pobl yn hoffi mynegi eu teimladau trwy arlunio, paentio, cerddoriaeth, ffasiwn neu chwaraeon. Neu, beth am roi cynnig ar wirfoddoli?<\/p>\n<p>Gall gwirfoddoli fod yn ffordd wych o ddysgu medr newydd, cyfrannu at eich cymuned, teimlo&#8217;n dda amdanoch chi&#8217;ch hun a chwrdd \u00e2 phobl sy&#8217;n frwd am yr un pethau \u00e2 chi.\u00a0Mae cyfleoedd i wirfoddoli yn eich bro ar wefan <a href=\"https:\/\/vinspired.com\/\">Vinspired<\/a>.<\/p>\n<p><strong>Dod o hyd i\u2019r hyn sy\u2019n sbarduno llawenydd ynoch chi<\/strong><\/p>\n<p>Does dim rhaid ichi fod yn fedrus i roi cynnig ar rywbeth a&#8217;i fwynhau. Gallwch chi ymuno \u00e2 chlwb hob\u00efau, t\u00eem neu gylch lleol i\u2019ch helpu i gwrdd \u00e2 phobl, hel ffrindiau a chael hwyl.<\/p>\n<p>Gall mynd i rywle newydd wneud ichi deimlo\u2019n nerfus, yn enwedig os yw\u2019r bobl yno yn adnabod ei gilydd yn barod, ond mae\u2019n debygol y byddan nhw\u2019n fodlon eich helpu i gael eich traed tanoch.<\/p>\n<p>Os oes rhywbeth rydych chi\u2019n ei hoffi\u2019n fawr, bydd pobl eraill yn y byd o\u2019r un farn.<\/p>\n<p><strong>Cadw golwg ar iechyd eich meddwl<\/strong><\/p>\n<p>Os ydych chi yng Nghymru, mae dulliau hunangymorth am ddim trwy <a href=\"https:\/\/nhswales.silvercloudhealth.com\/signup\/\">Silvercloud<\/a>. Diben y rhaglenni rhyngweithiol, hawdd eu defnyddio, ar y we yw cryfhau iechyd eich meddwl a&#8217;ch llesiant. Mae cymorth ar gyfer gorbryder, iselder, straen, anawsterau cysgu, problemau ariannol ac ati.<\/p>\n<p><strong>Peidiwch \u00e2 dioddef ar eich pen eich hun.<\/strong><\/p>\n<p>Cofiwch ofyn am gymorth os ydych chi\u2019n teimlo\u2019n unig. Mae pobl yno i&#8217;ch helpu chi a gwrando pan fyddwch chi&#8217;n barod. Mae rhestr o fudiadau cymorth isod y gallwch chi gysylltu \u00e2 nhw trwy ff\u00f4n neu neges destun.<\/p>\n<h2><\/h2>\n<h2>Cymorth<\/h2>\n<ul>\n<li><a href=\"http:\/\/www.ageuk.org.uk\/\">Age UK<\/a><br \/>\nCyngor: 0800 169 65 65<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.thecalmzone.net\/\">Campaign Against Living Miserably (CALM)<\/a><br \/>\nCyngor: 0800 58 58 58<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cruse.org.uk\/\">Cruse Bereavement Care<\/a><strong><br \/>\n<\/strong>Cyngor: 0808 808 1677<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.mind.org.uk\/\">Mind\u00a0<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.samaritans.org\/\">Samaritans<\/a><br \/>\nCyngor: 116 123<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.scope.org.uk\/\">Scope<\/a><br \/>\nCyngor: 0808 800 3333<br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.stonewall.org.uk\/\">Stonewall<\/a><br \/>\nCyngor: 0800 0502020<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dyma Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd y Meddwl, ac unigrwydd yw'r thema eleni. Mae unigrwydd yn deimlad a ddaw ar bawb weithiau - gall fod yn anodd ei adnabod, ei ddisgrifio [&hellip;]","protected":false},"author":6846,"featured_media":455,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[69,82],"tags":[142],"class_list":["post-476","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-meddwl-a-lles","category-newyddion","tag-unigrwydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2022\/05\/kyle-gregory-devaras-6RTM8EsD1T8-unsplash-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/476","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6846"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=476"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/476\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":486,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/476\/revisions\/486"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/455"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=476"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=476"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=476"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}