{"id":4473,"date":"2026-09-28T09:20:06","date_gmt":"2026-09-28T09:20:06","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=4473"},"modified":"2026-09-28T09:20:14","modified_gmt":"2026-09-28T09:20:14","slug":"deall-iechyd-meddwl-plant-mewn-gwledydd-ag-incwm-isel-a-chanolig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/deall-iechyd-meddwl-plant-mewn-gwledydd-ag-incwm-isel-a-chanolig\/","title":{"rendered":"Deall iechyd meddwl plant mewn gwledydd ag incwm isel a chanolig"},"content":{"rendered":"<p><em>Mae&#8217;r rhan fwyaf o bobl ifanc y byd yn byw mewn gwledydd ag incwm isel a chanolig (LMICs) ac efallai mai nhw sy\u2019n dioddef problemau iechyd meddwl fwyaf oherwydd bod gwybodaeth ac ymchwil yngl\u0177n \u00e2 phroblemau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn y rhanbarthau hyn yn brin iawn. <\/em><\/p>\n<p>Mae hyn yn golygu nad yw ymchwilwyr a chlinigwyr yn gwybod sut mae plant a phobl ifanc yn y rhanbarthau hyn yn datblygu problemau iechyd meddwl. Yn y blog hwn, mae Dr Olakunle Oginni o Ganolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn esbonio sut mae&#8217;n ceisio newid hynny.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Mae gwybodaeth well yn arwain at ymyriadau mwy effeithiol <\/strong><\/p>\n<p>Mae deall pam mae pobl ifanc yn datblygu problemau iechyd meddwl yn gallu ein helpu i gynllunio ymyriadau gwell i wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc mewn gwledydd ag incwm isel a chanolig.<\/p>\n<p>Gall yr ymyriadau hyn fod mor syml ag addysgu rhieni ynghylch sut y gallant gefnogi iechyd meddwl eu plant. Fodd bynnag, er mwyn gallu gwneud hyn, mae angen i ni gynnal ymchwil drylwyr ymhlith plant mewn gwledydd ag incwm isel a chanolig.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Cael mwy o ddata<\/strong><\/p>\n<p>Mae enghraifft o ddyluniadau ymchwil o&#8217;r fath yn cynnwys casglu gwybodaeth gan blant ac efeilliaid sy&#8217;n oedolion a&#8217;u rhieni neu eu plant yn y drefn honno. Gall y dyluniad hwn ddweud wrthym a yw rhieni&#8217;n trosglwyddo risg genetig ar gyfer problemau iechyd meddwl i&#8217;w plant, ac a yw problem iechyd meddwl rhiant hefyd yn gwneud yr amgylcheddau&#8217;n anodd i&#8217;r plant.<\/p>\n<p>Gan nad oedd astudiaeth o&#8217;r fath wedi&#8217;i chynnal o&#8217;r blaen mewn gwlad ag incwm a chanolig, fe wnaethom brofi a oedd yn ymarferol yn ne-orllewin Nigeria. Yn ogystal, fe wnaethom archwilio&#8217;r cysylltiadau rhwng problemau iechyd meddwl rhieni a phlant ymhlith ein cyfranogwyr.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Siarad \u00e2 chyfranogwyr yr astudiaeth<\/strong><\/p>\n<p>Fe wnaethon ni wahodd rhieni a phlant ifanc sy&#8217;n efeilliaid o 320 o deuluoedd i ddweud wrthym am eu hiechyd meddwl eu hunain ac iechyd meddwl eu plant.<\/p>\n<p>Dywedon nhw wrthym hefyd am bethau eraill sy&#8217;n effeithio ar les plentyn megis iechyd corfforol, trais domestig ac anhrefn gartref, triniaeth llym o&#8217;r plant, credoau crefyddol y teulu, perthnasoedd cynnes \u00e2 phlant a thueddiad y plant i feithrin perthnasoedd cadarnhaol (a elwir hefyd yn gymdeithasgarwch).<\/p>\n<p><em>Elfen allweddol o&#8217;r astudiaeth hon oedd cael adborth gan rieni efeilliaid, a helpodd yr awgrymiadau a roddwyd i ni i wneud y prosiect yn llwyddiannus.<\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Beth wnaethon ni ei ganfod?<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l dadansoddi&#8217;r data, gwelsom, pan oedd gan rieni yn ne-orllewin Nigeria broblemau iechyd meddwl, fod eu plant gefeilliaid hefyd yn fwy tebygol o fod \u00e2 phroblemau iechyd meddwl.<\/p>\n<p>Fe wnaethon ni hefyd ganfod bod ffactorau angenetig yn chwarae rolau pwysig yn y perthnasoedd hyn ac roedd y rhain yn cynnwys triniaeth llym o&#8217;r plant, iechyd corfforol gwael plant, cynhesrwydd rhieni isel a chymdeithasgarwch isel ymhlith y plant.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Rhoi yn \u00f4l i&#8217;r gymuned<br \/>\n<\/strong>Aethom gam ymhellach i rannu&#8217;r canfyddiadau hyn \u00e2&#8217;r rhieni a gymerodd ran yn yr astudiaeth, a dywedon nhw wrthym fod hyn wedi gwneud iddynt deimlo&#8217;n fwy abl i gefnogi eu plant.<\/p>\n<p><em>Dywedon nhw wrthym hefyd eu bod nhw a&#8217;u plant wedi mwynhau cymryd rhan yn yr astudiaeth. <\/em><\/p>\n<p>Mae rhai ystyriaethau pwysig yn cynnwys methu profi a yw problemau iechyd meddwl plant hefyd yn effeithio ar iechyd meddwl rhieni.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Y camau nesaf<br \/>\n<\/strong>Gallen ni brofi hyn yn y dyfodol drwy gynnwys efeilliaid sy&#8217;n oedolion a&#8217;u plant hefyd.<\/p>\n<p>Yn y pen draw, rydym yn edrych ymlaen at droi ein canfyddiadau yn weithgareddau addysg gyhoeddus i gynyddu&#8217;r wybodaeth gywir am broblemau iechyd meddwl plant yn Nigeria a gwledydd eraill ag incwm isel a chanolog.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Dysgu mwy<\/strong><\/p>\n<p>Er mwyn helpu i wneud canfyddiadau&#8217;r ymchwil yn hygyrch i&#8217;r teuluoedd a gymerodd ran, fe wnaethon ni greu tri fideo byr yn esbonio&#8217;r astudiaeth a&#8217;i chanfyddiadau. Datblygwyd y fideos yn wreiddiol fel rhan o weithgaredd i rannu&#8217;r canlyniadau&#8217;n uniongyrchol \u00e2 theuluoedd a gymerodd ran ac maent bellach ar gael i&#8217;w gwylio ar YouTube:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fyoutu.be%2FY9rzS_MXv7U&amp;data=05%7C02%7COginniO%40cardiff.ac.uk%7C6a2194a923964c2ab4f408df156b7f4e%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1%7C0%7C639253223568663115%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJFbXB0eU1hcGkiOnRydWUsIlYiOiIwLjAuMDAwMCIsIlAiOiJXaW4zMiIsIkFOIjoiTWFpbCIsIldUIjoyfQ%3D%3D%7C0%7C%7C%7C&amp;sdata=G5EfM7SzyUpVsOalYyB35zcMVqonJ412QfDtYFYBo7w%3D&amp;reserved=0\">Gweithgaredd lledaenu ac adborth gan rieni i efeilliaid<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fyoutu.be%2Fts_czctwvBE&amp;data=05%7C02%7COginniO%40cardiff.ac.uk%7C6a2194a923964c2ab4f408df156b7f4e%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1%7C0%7C639253223568709497%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJFbXB0eU1hcGkiOnRydWUsIlYiOiIwLjAuMDAwMCIsIlAiOiJXaW4zMiIsIkFOIjoiTWFpbCIsIldUIjoyfQ%3D%3D%7C0%7C%7C%7C&amp;sdata=tjSPkT8PBJ%2FoIxrt8A6vfF56PZxDgpAtOUwBMs6lDDs%3D&amp;reserved=0\">Profiad cynorthwy-ydd ymchwil o weithio ar y prosiect<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fyoutu.be%2FGqI0PN3xcJ4&amp;data=05%7C02%7COginniO%40cardiff.ac.uk%7C6a2194a923964c2ab4f408df156b7f4e%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1%7C0%7C639253223568746610%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJFbXB0eU1hcGkiOnRydWUsIlYiOiIwLjAuMDAwMCIsIlAiOiJXaW4zMiIsIkFOIjoiTWFpbCIsIldUIjoyfQ%3D%3D%7C0%7C%7C%7C&amp;sdata=j73XhPGJmhGTZfpltgy750mgf3vLznwxqmOCZekeseQ%3D&amp;reserved=0\">Trosolwg byr o&#8217;r prosiect ymchwil<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p>Os gwnaethoch chi fwynhau&#8217;r fideos ac os hoffech ddysgu mwy am ymchwil i efeilliaid yn Nigeria, dilynwch y prosiect ar <a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.facebook.com%2Fp%2FEjire-Ola-61567643412387%2F&amp;data=05%7C02%7COginniO%40cardiff.ac.uk%7C6a2194a923964c2ab4f408df156b7f4e%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1%7C0%7C639253223568771784%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJFbXB0eU1hcGkiOnRydWUsIlYiOiIwLjAuMDAwMCIsIlAiOiJXaW4zMiIsIkFOIjoiTWFpbCIsIldUIjoyfQ%3D%3D%7C0%7C%7C%7C&amp;sdata=6bomMxPhmHhO8gKmMESw%2FepdPiq44AAZFyBiV3pi3xY%3D&amp;reserved=0\">Facebook<\/a> neu <a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fuk.linkedin.com%2Fin%2Folakunle-oginni-5032a163&amp;data=05%7C02%7COginniO%40cardiff.ac.uk%7C6a2194a923964c2ab4f408df156b7f4e%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1%7C0%7C639253223568800253%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJFbXB0eU1hcGkiOnRydWUsIlYiOiIwLjAuMDAwMCIsIlAiOiJXaW4zMiIsIkFOIjoiTWFpbCIsIldUIjoyfQ%3D%3D%7C0%7C%7C%7C&amp;sdata=GYkXfSfZ0XMTnKMF%2F8rd4xBiPF6f0lQjr2w%2BIxPXsiw%3D&amp;reserved=0\">LinkedIn<\/a> .<\/p>\n<p>Os ydych chi&#8217;n efell, neu os oes gennych chi blant neu frodyr a chwiorydd sy\u2019n efeilliaid ac yn byw yn Nhalaith Osun, Nigeria ac mae gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn ymchwil i efeilliaid yn y dyfodol, mae croeso i chi gysylltu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc y byd yn byw mewn gwledydd ag incwm isel a chanolig (LMICs) ac efallai mai nhw sy\u2019n dioddef problemau iechyd meddwl fwyaf oherwydd bod [&hellip;]","protected":false},"author":6962,"featured_media":4480,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[269,84],"tags":[],"class_list":["post-4473","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ffrwd","category-ymchwil"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2026\/09\/blog-banners.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4473","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4473"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4473\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4477,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4473\/revisions\/4477"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4480"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4473"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4473"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4473"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}