{"id":4467,"date":"2026-08-06T13:08:01","date_gmt":"2026-08-06T13:08:01","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=4467"},"modified":"2026-08-06T13:08:01","modified_gmt":"2026-08-06T13:08:01","slug":"glud-anweledig-cipolwg-ar-ein-profiad-cyntaf-gyda-grwp-cynghori-ieuenctid-wolfson","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/glud-anweledig-cipolwg-ar-ein-profiad-cyntaf-gyda-grwp-cynghori-ieuenctid-wolfson\/","title":{"rendered":"&#8216;Glud anweledig&#8217;: Cipolwg ar ein profiad cyntaf gyda Gr\u0175p Cynghori Ieuenctid Wolfson"},"content":{"rendered":"<p><em>Yn y blog hwn, mae Sarah a Sophie, myfyrwyr ar leoliad o astudiaeth flaenllaw Canolfan Wolfson ar <\/em><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/take-part\/ws3-clinical-trial\"><em>Sgiliau ar gyfer Lles Pobl Ifanc (SWELL),<\/em><\/a> <em>yn myfyrio ar ddigwyddiad aethon nhw iddo gyda <\/em><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/take-part\/youth-advisory-group\"><em>Gr\u0175p Cynghori Ieuenctid (YAG) Canolfan Wolfson<\/em><\/a>.<\/p>\n<p>Ar 18 Ebrill, cawson ni gyfle i fynd i ddigwyddiad dathlu Gr\u0175p Cynghori Ieuenctid Canolfan Wolfson, rhywbeth roedden ni wedi bod yn edrych ymlaen ato ers clywed amdano ar ddechrau ein lleoliad gwaith.<\/p>\n<p>Cyn hyn, roedd ein dealltwriaeth o gynnwys y cyhoedd yn weddol sylfaenol: cyfranogiad gweithredol y cyhoedd yn y broses ymchwil. Yng Nghanolfan Wolfson, mae hyn ar ffurf y Gr\u0175p Cynghori Ieuenctid \u2013 sef gr\u0175p o bobl ifanc sydd \u00e2 phrofiad byw o anawsterau iechyd meddwl sy&#8217;n cynghori ar ymchwil; o lunio terminoleg i arwain nodau ymchwil.\u00a0 Er ein bod yn deall ei bwysigrwydd mewn theori, drwy ein profiad uniongyrchol \u00e2\u2019r Gr\u0175p Cynghori daeth y peth yn hollol fyw i ni.<\/p>\n<figure id=\"post-4455 media-4455\" class=\"image align-center\"><\/figure>\n<p><strong>Y disgwyliadau a\u2019r realiti<\/strong><\/p>\n<p>Wrth fynd i\u2019r sesiwn, doedden ni ddim yn hollol si\u0175r beth i&#8217;w ddisgwyl. Cyn hynny, roedden ni wedi cael cyflwyniad byr i&#8217;r Gr\u0175p Cynghori Ieuenctid yn ystod yr hyfforddiant ac roedden ni wedi clywed am sesiwn yn trafod iaith ynghylch y risg o ddatblygu iselder. Serch hynny, doedd gan yr un ohonon ni ddim profiad cynnwys y cyhoedd blaenorol, felly roedd y sesiwn gyntaf hon yn mynd i fod yn brofiad newydd i&#8217;r ddwy ohonon ni.<\/p>\n<p>Roedden ni wedi dychmygu rhywbeth eithaf ffurfiol \u2013 gyda chanllawiau pwnc clir a chwestiynau gosod. Wrth edrych yn \u00f4l efallai bod y disgwyliad hwn braidd yn na\u00eff, wedi&#8217;i seilio ar ein profiad yn y lleoliad gwaith lle rydyn ni\u2019n cynnal cyfweliadau strwythuredig gyda theuluoedd gan ddilyn cwestiynau penodol. Roedden ni hefyd yn cymryd yn ganiataol y gallai&#8217;r gr\u0175p fod yn dawel ac yn nerfus i rannu\/siarad. Oherwydd ein profiad yn cyd-hwyluso grwpiau CBT i bobl ifanc ar leoliad, mae ystod o amrywiaeth yn y graddau mae pobl ifanc yn cyfrannu, gyda rhai yn dewis diffodd eu camera. Roedd realiti Gr\u0175p Cynghori Ieuenctid Wolfson mor wahanol a all fod.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Deinamig gr\u0175p unigryw <\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-4459 media-4459\" class=\"image align-center\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2026\/07\/Screenshot-2026-07-21-131253.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Un o&#8217;r pethau cyntaf wnaeth ein taro oedd deinamig neilltuol y gr\u0175p. Mae&#8217;n anodd cyfleu mewn geiriau mor gydlynus oedd y gr\u0175p. Roedd yr aelodau\u2019n dangos caredigrwydd a pharch mawr tuag at ei gilydd, gan roi lle i&#8217;w gilydd flodeuo. Hefyd, roedd y Gr\u0175p fel petaen nhw\u2019n gwthio ei gilydd i ddatblygu eu bywydau a&#8217;u gyrfaoedd trwy annog a dathlu ei gilydd a&#8217;u cyflawniadau. Roedd y rhythm naturiol yn y ffordd roedd y gr\u0175p yn rhyngweithio yn amlwg \u2013 bron fel petai &#8216;glud anweledig&#8217; yn eu dal at ei gilydd. Aeth y gr\u0175p ymlaen i nodi eu gwerthoedd craidd, gan gynnwys <strong>caredigrwydd, chwilfrydedd a gwaith t\u00eem,<\/strong> ac roedd yn amlwg bod y rhain yn cael eu gwehyddu i bob sgwrs. Roedd hefyd yn amlwg bod y bobl ifanc yn teimlo eu bod wir yn cael eu gwerthfawrogi gan yr ymchwilwyr. Roedd yn hyfryd gweld eu bod nhw\u2019n gwybod bod eu cyfraniadau&#8217;n cael eu hymgorffori yn yr ymchwil ac roedd yn ymddangos bod yr ymdeimlad hwn o gael eu cymryd o ddifrif yn sail i rywfaint o&#8217;r hyder a welwyd yn yr ystafell. At hynny, drwy dalu\u2019r Gr\u0175p am eu hamser, mae&#8217;n symbolaidd o&#8217;r modd y mae canolfan Wolfson yn dangos gwerthfawrogiad dwfn o brofiad byw wrth siapio ymchwil.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Herio camsyniadau<\/strong><\/p>\n<p>Un o\u2019r camsyniadau ynghylch cynnwys y cyhoedd yw mai ychwanegiad sy\u2019n braf i&#8217;w gael yw e, neu rywbeth sy\u2019n ticio bocs. Roedd yr hyn welon ni yn dangos yn glir ei fod yn llawer mwy na hynny. Mae&#8217;n hanfodol. Mae pobl ifanc yn cynnig safbwyntiau unigryw na all neb arall eu darparu. Mae bywyd yn newid yn gyflym ar hyn o bryd, felly mae profiadau pobl ifanc yn newid yn gyson a gallent fod yn wahanol iawn i&#8217;r hyn fyddai&#8217;r ymchwilwyr wedi&#8217;i brofi. Er enghraifft, bu\u2019r Gr\u0175p yn trafod y chwyldro digidol, nid yn unig ei effeithiau ar bobl ifanc ond hefyd y modd y gallan nhw helpu ymchwilwyr i&#8217;w gynnwys yn eu gwaith.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Beth wnaeth ein synnu<\/strong><\/p>\n<p>Er ein bod yn disgwyl y byddai\u2019r gr\u0175p yn ddefnyddiol iawn ar gyfer ymchwil, doedden ni heb ragweld dyfnder yr effaith y byddai&#8217;r gr\u0175p yn ei chael ar y bobl ifanc eu hunain. Siaradodd nifer o aelodau am sut roedd bod yn rhan o&#8217;r Gr\u0175p wedi siapio eu hunaniaeth mewn ffordd gadarnhaol, gan helpu i newid eu barn ar salwch meddwl. Disgrifiodd rhai nad oedden nhw bellach yn teimlo fel nad oedden nhw\u2019n perthyn, a oedd yn wirioneddol bwerus i&#8217;w glywed. Soniodd eraill fod y Gr\u0175p wedi hwyluso gwell sgyrsiau am iechyd meddwl yn eu teuluoedd, sgyrsiau nad oedden nhw\u2019n teimlo y gallen nhw eu cael o\u2019r blaen. Roedd hi&#8217;n amlwg hefyd mai dim ond ciplun o&#8217;r Gr\u0175p welon ni, a bod hyder y bobl ifanc hyn dros y blynyddoedd wedi tyfu a thyfu \u2013 gyda diolch mawr i&#8217;r gr\u0175p am hynny.<\/p>\n<p>Un rhagdybiaeth arall hefyd yw mai unig nod Gr\u0175p Cynghori Ieuenctid Wolfson yw llywio a chydgynhyrchu ymchwil. Roedd yn anhygoel gweld Emma \u2013 Arweinydd Cynnwys y Cyhoedd Wolfson \u2013 yn mynd yr ail filltir i sicrhau bod y gr\u0175p yn fuddiol i&#8217;w aelodau hefyd. Er enghraifft, mae Canolfan Wolfson yn darparu cyfleoedd gyrfa anhygoel i\u2019r gr\u0175p, gan gynnwys cyfleoedd siarad cyhoeddus a theithiau i ddigwyddiadau yng Nghaeredin! At hynny, trafododd y Gr\u0175p y ffaith fod Emma wedi gwneud iddyn nhw deimlo mor gyfforddus yn y gr\u0175p, ac mai hi yw un o\u2019r prif resymau mae eu deinamig yn gweithio mor dda. Hefyd, dywedodd y rhai a oedd mewn Grwpiau Cynghori Ieuenctid eraill fod Gr\u0175p Wolfson yn unigryw, a bod y ffaith bod Emma yn creu lle diogel ac amgylchedd cyfforddus yn dylanwadu\u2019n fawr ar hyn.<\/p>\n<p>Un peth arbennig o ddiddorol oedd mor ofalus mae&#8217;r gr\u0175p yn trafod iaith. Roedd y sgyrsiau\u2019n mynd y tu hwnt i ddewisiadau geiriau syml, gan archwilio&#8217;r gwahaniaeth rhwng termau fel \u201cpenderfynol\u201d, \u201cchwilfrydig\u201d a \u201cmeddwl agored\u201d. Amlygodd hyn mor arwyddocaol gallai gwahanol iaith fod wrth drafod iechyd meddwl pobl ifanc \u2013 a pha mor gynnil mae angen i&#8217;r trafodaethau hyn fod. Amlygwyd hefyd fod y Gr\u0175p yn fwy nag ychwanegiad &#8216;neis&#8217;, ond ei fod yn hanfodol er mwyn llywio&#8217;r modd gorau o weithredu ymchwil mewn ymarfer.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Yr hyn ddysgon ni<\/strong><\/p>\n<p>Fe ddysgon ni lawer trwy\u2019r profiad hwn, a llwyddodd i ail-siapio ein barn am gynnwys y cyhoedd ac atgyfnerthu angerdd i weithio yn y maes yn y dyfodol. Y prif wersi ddysgon ni oedd:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Mae cynnwys y cyhoedd yn rhywbeth hanfodol, nid dewisol.<\/strong> Mae\u2019n gwella ansawdd a pherthnasedd ymchwil.<\/li>\n<li><strong>Mae iaith yn hynod bwysig.<\/strong> Gall y ffordd rydyn ni\u2019n siarad am iechyd meddwl siapio sut mae pobl yn ei ddeall a&#8217;i brofi.<\/li>\n<li><strong>Mae&#8217;r effaith yn ddeublyg. <\/strong>Er bod yr ymchwil yn elwa, mae&#8217;r bobl ifanc yn elwa hefyd \u2013 gyda mwy o hyder, cysylltiad ac ymdeimlad cryfach o hunaniaeth gadarnhaol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Safbwynt gwahanol<\/strong><\/p>\n<p>Yn ein lleoliad gwaith, rydyn ni\u2019n aml yn siarad \u00e2 phobl ifanc sy&#8217;n cael trafferth gyda&#8217;u hiechyd meddwl ar y pryd. Er bod y gwaith hwn yn hynod bwysig, weithiau gall deimlo&#8217;n drwm. Roedd arsylwi ar Gr\u0175p Cynghori Ieuenctid Wolfson yn wahanol. Roedd yn codi calon. Roedd yn dangos i ni beth all ddigwydd pan mae pobl ifanc yn fwy na chyfranogwyr i ymchwil, ond yn gydweithwyr gweithredol. Mae&#8217;r gr\u0175p yn creu gofod lle nad yw profiad byw yn rhywbeth negyddol, ond yn hytrach mae\u2019n cael ei werthfawrogi \u2013 a lle gellid trawsnewid y profiad yn rhywbeth ystyrlon ac effeithiol.<\/p>\n<p><strong>Bywgraffiadau\u2019r awduron:<\/strong><\/p>\n<p><strong>Sarah \u2013 Fy enw i yw Sarah ac rydw i ar leoliad gyda&#8217;r Astudiaeth Sgiliau ar gyfer Lles Pobl Ifanc (SWELL) ar hyn o bryd. Mae fy niddordebau wedi&#8217;u gwreiddio&#8217;n ddwfn mewn iechyd meddwl pobl ifanc, hyrwyddo lles a lleihau anghydraddoldebau.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Sophie \u2013 Fy enw i yw Sophie ac rwy&#8217;n fyfyriwr ar leoliad ar yr astudiaeth Sgiliau ar gyfer Lles Pobl Ifanc yng Nghanolfan Wolfson. Mae gen i ddiddordeb mewn Seicoleg Glinigol, yn enwedig mewn anhwylderau fel sgitsoffrenia a seicosis.<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><em>Diolch i Sarah a Sophie am ysgrifennu&#8217;r darn hwn.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn y blog hwn, mae Sarah a Sophie, myfyrwyr ar leoliad o astudiaeth flaenllaw Canolfan Wolfson ar Sgiliau ar gyfer Lles Pobl Ifanc (SWELL), yn myfyrio ar ddigwyddiad aethon nhw [&hellip;]","protected":false},"author":6962,"featured_media":4455,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[269,71],"tags":[],"class_list":["post-4467","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ffrwd","category-lleisiau-ieuenctid"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2026\/07\/Screenshot-2026-07-21-130953.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4467","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4467"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4467\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4468,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4467\/revisions\/4468"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4455"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4467"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4467"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4467"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}