{"id":4464,"date":"2026-08-18T08:14:31","date_gmt":"2026-08-18T08:14:31","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=4464"},"modified":"2026-08-18T08:14:45","modified_gmt":"2026-08-18T08:14:45","slug":"ailgysylltu-ar-gymuned-ymchwil-sut-y-gwnaeth-ysgol-haf-wolfson-roi-persbectif-newydd-i-mi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/ailgysylltu-ar-gymuned-ymchwil-sut-y-gwnaeth-ysgol-haf-wolfson-roi-persbectif-newydd-i-mi\/","title":{"rendered":"Ailgysylltu \u00e2&#8217;r gymuned ymchwil: sut y gwnaeth Ysgol Haf Wolfson roi persbectif newydd i mi"},"content":{"rendered":"<p><em>Yn y blog hwn mae Ella Watson, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, yn myfyrio ar sut wnaeth mynd i Ysgol Haf Wolfson 2026 ei helpu i sylweddoli mai&#8217;r ffordd orau o symud eich ymchwil ymlaen, ambell waith, yw cymryd cam yn \u00f4l.<\/em><\/p>\n<p>Mae gwneud PhD yn gyfle anhygoel, ond gall hefyd wneud i\u2019ch byd deimlo\u2019n rhyfedd o fach. Gall treulio bron bob dydd yn ymgolli yn eich prosiect ei gwneud hi\u2019n hawdd colli golwg ar yr ymdrech ymchwil ehangach a\u2019r gymuned o ymchwilwyr, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy\u2019n gweithio tuag at y nod cyffredin o wella dealltwriaeth o iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Drwy fynd i Ysgol Haf Wolfson, cefais newid persbectif nad oeddwn i\u2019n gwybod fy mod ei angen.<\/p>\n<p>Dros ychydig ddyddiau, cefais gyfle i gamu i ffwrdd o fy ymchwil fy hun ac ymgysylltu \u00e2 gr\u0175p ysbrydoledig o fyfyrwyr, academyddion a gweithwyr proffesiynol o bob cwr o&#8217;r DU a ledled y byd. Roedd sgyrsiau a chyfleoedd i gysylltu&#8217;r un mor werthfawr \u00e2 rhaglen y darlithoedd. Roedd y sgyrsiau&#8217;n canolbwyntio ar y profiad rydyn ni&#8217;n ei rannu, yr heriau rydyn ni&#8217;n eu hwynebu, ac yn cynnig rhywfaint o gipolwg unigryw ar y gwahanol lwybrau sydd wedi dod \u00e2 phobl i mewn i ymchwil. Roedd yn ein hatgoffa, er y gallai ein prosiectau fod yn wahanol, ein bod ni i gyd yn gweithio tuag at yr un pwrpas cyffredin.<\/p>\n<p>Fel rhywun sy&#8217;n gweithio ar ddata gweinyddol cysylltiedig, roedd yn ddiddorol iawn clywed am ehangder yr ymchwil sy&#8217;n cael ei chynnal. Roeddwn i&#8217;n teimlo bod y sesiynau niwrowyddoniaeth yn arbennig o ddiddorol, ac yn cynnig cipolwg ar ddisgyblaeth nad oes gen i fawr ddim profiad uniongyrchol ohoni, ond un sy&#8217;n rhannu llawer o nodau cyffredin. Roedd hi\u2019n braf cael edrych y tu hwnt i faes arbenigedd fy hun a chael fy atgoffa o ba mor gysylltiedig yw gwahanol feysydd ymchwil mewn gwirionedd. Uchafbwynt arall o&#8217;r rhaglen i mi oedd y sesiwn gr\u0175p bach yn y prynhawn a oedd yn trin a thrafod opsiynau cyllid \u00f4l-ddoethuriaeth.<\/p>\n<p>Er gwaethaf amrywiaeth y pynciau a drafodwyd, roedd hefyd yn hynod werthfawr clywed fy maes ymchwil fy hun yn cael ei gydnabod drwy gydol y rhaglen. Fe wnaeth clywed trafodaeth am ddefnyddio data cysylltiedig atgyfnerthu fy ngwerthfawrogiad o bwysigrwydd y gwaith sy&#8217;n cael ei wneud yn y maes hwn. Roedd yn atgof boddhaol bod y cwestiynau rwy\u2019n ystyried yn fy ymchwil gyfredol yn cyfrannu at sgyrsiau llawer ehangach sy\u2019n digwydd ar draws y maes, a bod gan yr ymchwil hon y potensial i gyfrannu at newid ystyrlon.<\/p>\n<p>Gwnaeth Ysgol Haf Wolfson i mi deimlo\u2019n fwy cysylltiedig, yn fwy chwilfrydig ac yn fwy brwdfrydig nag erioed. Fe wnaeth fy atgoffa, er y gall PhD weithiau deimlo fel ymdrech unigol, ei fod hefyd yn rhan o ymdrech gydweithredol lawer ehangach. Roedd camu y tu hwnt i fy mhrosiect fy hun, cwrdd \u00e2 chydweithwyr o bob cwr o&#8217;r byd a darganfod safbwyntiau newydd yn ysbrydoliaeth ar gyfer fy ymchwil, a chefais hyder o\u2019r newydd yng ngwerth y gwaith rwy\u2019n gobeithio ei gyfrannu. Yn bwysicaf oll, fe wnaeth fy atgoffa pam y dechreuais yr ymchwil hon yn y lle cyntaf.<\/p>\n<p>Cysylltwch \u00e2 fi:<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.linkedin.com\/in\/ella-watson-02588915a\">LinkedIn<\/a><\/p>\n<p><a href=\"mailto:WatsonE11@cardiff.ac.uk\">WatsonE11@caerdydd.ac.uk<\/a><\/p>\n<p><em>Diolch yn fawr iawn i Ella am rannu ei phrofiad gyda ni.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn y blog hwn mae Ella Watson, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, yn myfyrio ar sut wnaeth mynd i Ysgol Haf Wolfson 2026 ei helpu i sylweddoli mai'r ffordd orau [&hellip;]","protected":false},"author":6962,"featured_media":4466,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[269,155],"tags":[],"class_list":["post-4464","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ffrwd","category-ysgol-haf"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2026\/07\/summer-school-blog-feature-image-1.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4464","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4464"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4464\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4465,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4464\/revisions\/4465"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4466"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4464"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4464"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4464"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}