{"id":4451,"date":"2026-05-06T12:11:28","date_gmt":"2026-05-06T12:11:28","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=4451"},"modified":"2026-05-06T12:11:28","modified_gmt":"2026-05-06T12:11:28","slug":"gwybodaeth-am-iechyd-meddwl-ieuenctid-y-gorffennol-y-presennol-ar-dyfodol-ysgol-haf-wolfson-2025","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/gwybodaeth-am-iechyd-meddwl-ieuenctid-y-gorffennol-y-presennol-ar-dyfodol-ysgol-haf-wolfson-2025\/","title":{"rendered":"Gwybodaeth am Iechyd Meddwl Ieuenctid: Y gorffennol, y presennol a\u2019r dyfodol &#8211; Ysgol Haf Wolfson 2025"},"content":{"rendered":"<p><em>Yn y blog hwn, mae Tasnim, un o gyfranogwyr Ysgol Haf Wolfson 2025, yn myfyrio ar ei phrofiad ac yn rhannu gwybodaeth am y gwersi a ddysgodd o&#8217;r cwrs ar-lein tridiau o hyd am ymchwil iechyd meddwl ieuenctid.<\/em><\/p>\n<p>Fy enw i yw Tasnim, a cefais fy ysbrydoli gan fy astudiaethau MSc mewn Seicoleg a Niwrowyddoniaeth Iechyd Meddwl yng Ngholeg y Brenin Llundain, ynghyd \u00e2&#8217;m chwilfrydedd cynyddol ynghylch iechyd meddwl ieuenctid, i wneud cais i Ysgol Haf Wolfson.<\/p>\n<p>Yn fy modiwl Iechyd Meddwl Plant a\u2019r Glasoed, dysgais ragor am natur gynhwysfawr y maes hwn drwy archwiliadau o safbwyntiau genetig, seicolegol, cymdeithasol a biolegol, sydd wedi bod yn ddiddorol iawn. Roeddwn i&#8217;n teimlo bod hyn yn cyd-fynd yn dda \u00e2 sut mae Canolfan Wolfson yn gweithredu mewn modd rhyngddisgyblaethol. Roedd fy niddordeb hefyd yn seiliedig ar fy mhrofiadau ymarferol o weithio mewn ysgolion gyda phobl ifanc, yn ogystal \u00e2 fy mhrofiad gwirfoddol yn fentor cymheiriaid a gwirfoddolwr argyfwng Shout UK. Felly, roedd dysgu am Ysgol Haf Wolfson yn gyffrous oherwydd ei fod yn gyfle pwrpasol i glywed gweithwyr proffesiynol yn dadansoddi materion cyfoes ac ymchwil arbenigol yn ddyfnach, a allai helpu i wneud penderfyniadau gyrfaol mwy gwybodus yn y dyfodol, megis p\u2019un ai i fentro i faes seicoleg glinigol neu bolisi.<\/p>\n<p>Roeddwn i wedi mwynhau sesiwn diwrnod un ar \u2018Dueddiadau Seciwlar mewn Iechyd Meddwl\u2019 yn arbennig, gan iddi ddatgelu pwysigrwydd cydweithio \u00e2 phobl ifanc ar y cyd \u00e2 chlinigwyr a llunwyr polis\u00efau i helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 heriau iechyd meddwl. Mewn sesiwn arall ar y diwrnod cyntaf o&#8217;r enw &#8216;Atal Iselder&#8217;, cefais ymwybyddiaeth o bwynt hollbwysig diddorol ynghylch y ffaith bod llawer o astudiaethau ymyrraeth seicolegol yn y gorffennol yn methu ystyried canlyniadau a niwed anfwriadol.<\/p>\n<p>Fe wnaeth rhai o\u2019r trafodaethau ar ddiwrnod tri sefyll allan i mi hefyd gan eu bod wedi helpu i bortreadu pa mor bwysig yw dadansoddi a chyfeirio&#8217;n \u00f4l at dystiolaeth ymchwil yn hytrach na mynd ati heb unrhyw dystiolaeth i gadarnhau\u2019r hyn mae rhywun yn meddwl dylai weithio yn seiliedig ar eu syniadau a&#8217;u credoau eu hunain am strategaethau iechyd meddwl effeithiol. Roedd y syniad hwn yn adeiladu ar rai o&#8217;r dulliau ymchwil a ddysgais wrth astudio fy ngradd Meistr, ac roedd yn pwysleisio&#8217;r angen i ymchwilwyr ystyried eu teimladau a&#8217;u safleoldeb wrth gynnal ymchwil.<\/p>\n<p>Cyfoethogodd y garfan ryngwladol yr Ysgol Haf, gan gynnig safbwyntiau amrywiol ar gyfieithu a theilwra ymchwil iechyd meddwl ieuenctid yn ddiwylliannol \u2013 sy\u2019n ein hatgoffa bod y materion hyn yn fyd-eang ac yn un o\u2019r prif resymau y byddwn ni\u2019n argymell yr ysgol i eraill.<\/p>\n<p>Ar y cyfan, dysgais fod llawer o gyflyrau iechyd meddwl yn amrywiol, er enghraifft, iselder. Felly, gallai dadansoddi grwpiau wedi\u2019u rhannu yn \u00f4l oedran yn seiliedig ar bwynt dechrau\u2019r salwch fod yn ddefnyddiol at ddibenion ymchwil a datblygu ymyriadau yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae&#8217;n bwysig ystyried bod newid systemig yn broses hir.<\/p>\n<p>Rwy\u2019n ymchwilio\u2019n ddyfnach i seicoleg, iechyd meddwl a rhagor yma: <a href=\"http:\/\/www.tasnimtayo.substack.com\">www.tasnimtayo.substack.com<\/a><\/p>\n<p><em>Diolch yn fawr iawn i Tasnim am rannu ei phrofiad gyda ni.<\/em><\/p>\n<p><strong>Ymunwch \u00e2 ni yn 2026:<\/strong><\/p>\n<p>Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno \u00e2 ni ar gyfer\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/training\/summer-school\">Ysgol Haf Wolfson 2026<\/a>? Cewch ymgeisio nawr, a bydden ni wrth ein boddau\u2019n clywed gennych.<\/p>\n<p>Cewch gofrestru i fod ar ein\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/subscribe-to-our-newsletter\">rhestr bostio<\/a>\u00a0i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gyfleoedd mae\u2019r Ganolfan yn eu cynnig, a chofiwch gadw llygad ar ein\u00a0<a href=\"https:\/\/linktr.ee\/WolfsonCentre\">sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol<\/a>\u00a0i gael gwybod rhagor am #WolfsonSummer26<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn y blog hwn, mae Tasnim, un o gyfranogwyr Ysgol Haf Wolfson 2025, yn myfyrio ar ei phrofiad ac yn rhannu gwybodaeth am y gwersi a ddysgodd o'r cwrs ar-lein [&hellip;]","protected":false},"author":6962,"featured_media":4448,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[269,155],"tags":[],"class_list":["post-4451","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ffrwd","category-ysgol-haf"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2026\/03\/summer-school-blog-feature-image-1.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4451","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4451"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4451\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4453,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4451\/revisions\/4453"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4448"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4451"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4451"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4451"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}