{"id":4445,"date":"2026-03-16T10:00:43","date_gmt":"2026-03-16T10:00:43","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=4445"},"modified":"2026-03-16T12:23:32","modified_gmt":"2026-03-16T12:23:32","slug":"profiad-dysgu-ysbrydoledig-cipolwg-ar-ysgol-haf-wolfson","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/profiad-dysgu-ysbrydoledig-cipolwg-ar-ysgol-haf-wolfson\/","title":{"rendered":"Profiad dysgu ysbrydoledig: cipolwg ar Ysgol Haf Wolfson"},"content":{"rendered":"<p>Mae Ay\u015fim Alpman yn feddyg arbenigol mewn Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc yn Istanbwl. Yn y blog hwn, mae Ay\u015fim yn rhannu ei phrofiad o fynd i Ysgol Haf Canolfan Wolfson 2025 a\u2019i hysbrydolodd i roi ei syniadau ar waith.<\/p>\n<p>Yr haf diwethaf, cefais gyfle i fynd i Ysgol Haf Wolfson, rhaglen a welais i wrth sgrolio ar Instagram. Trodd chwilfrydedd syml i ddechrau yn brofiad dysgu gwerthfawr.<\/p>\n<p>Roedd y rhaglen tri diwrnod yn ymdrochol ac yn ddiddorol. Clywais gan gyflwynwyr o wahanol gefndiroedd proffesiynol a rannodd eu harbenigedd ar ymchwil iechyd meddwl plant. A minnau\u2019n feddyg preswyl mewn Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc, rwy\u2019n ymwybodol nad oes modd i un proffesiwn yn unig reoli gofal iechyd meddwl. Mae angen nifer o randdeiliaid \u2013 seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, addysgwyr, llunwyr polis\u00efau, a theuluoedd. Gwnaeth dysgu am sut mae pob un yn cyfrannu at les plant fy helpu i werthfawrogi pwysigrwydd gofal rhynddisgyblaethol yn fwy.<\/p>\n<p>Y tu hwnt i\u2019r darlithoedd, cynigiodd yr ysgol haf gyfleoedd anffurfiol i gysylltu. Mwynheais y sesiynau coffi rhithwir yn benodol, gan fy mod i wedi cael cyfle i gwrdd \u00e2 chyfoedion ledled y byd, rhannu profiadau, a chlywed am wahanol ddulliau o ymdrin ag iechyd meddwl.<\/p>\n<p>Gwnaeth y sgyrsiau hyn ehangu fy rhwydwaith a\u2019m hannog i feddwl am agweddau ar ymarfer ac ymchwil nad oeddwn i wedi\u2019u hystyried o\u2019r blaen.<\/p>\n<p>Cefais fy nghyflwyno i weithgareddau academaidd ehangach Canolfan Wolfson drwy\u2019r rhaglen yn ogystal. Dechreuais edrych ar adnoddau a darlithoedd eraill ar \u00f4l y sesiynau, a wnaeth fy annog i barhau i ddysgu y tu hwnt i\u2019r ysgol haf ei hun. Cefais fy atgoffa bod modd i addysg ddechrau mewn ffyrdd annisgwyl, o neges syml ar y cyfryngau cymdeithasol hyd yn oed.<\/p>\n<p>Yn bwysicaf oll, ar \u00f4l cymryd rhan yn y rhaglen tri diwrnod hwn, teimlais fy mod yn cael fy annog i ddatblygu ac arwain fy ymchwil fy hun. Rhoddodd yr wybodaeth a gefais, ynghyd \u00e2\u2019r awyrgylch cefnogol a\u2019r cysylltiadau newydd y cymhelliant i mi gymryd camau pellach yn fy ngyrfa.<\/p>\n<p>I mi, nid cwrs ar-lein yn unig oedd hwn, ond cyfle i ddysgu, myfyrio a chysylltu ag eraill.<\/p>\n<p>Dangosodd i mi werth cydweithio, manteision deialog fyd-eang, a sut gall gwybodaeth a rennir ddylanwadu ar ddatblygiad gweithwyr proffesiynol ifanc.<\/p>\n<p>Cysylltwch \u00e2 mi ar LinkedIn: www.linkedin.com\/in\/ay\u015fim-alpman-9809a1384<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><em>Diolch yn fawr iawn i Ay\u015fim am rannu ei phrofiad gyda ni.<\/em><\/p>\n<p><strong>Ymunwch \u00e2 ni yn 2026:<\/strong><\/p>\n<p>Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno \u00e2 ni ar gyfer <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/training\/summer-school\">Ysgol Haf Wolfson 2026<\/a>? Cewch ymgeisio nawr, a bydden ni wrth ein boddau\u2019n clywed gennych.<\/p>\n<p>Cewch gofrestru i fod ar ein <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/subscribe-to-our-newsletter\">rhestr bostio<\/a> i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gyfleoedd mae&#8217;r Ganolfan yn eu cynnig, a chofiwch gadw llygad ar ein <a href=\"https:\/\/linktr.ee\/WolfsonCentre\">sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol<\/a> i gael gwybod rhagor am #WolfsonSummer26<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Ay\u015fim Alpman yn feddyg arbenigol mewn Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc yn Istanbwl. Yn y blog hwn, mae Ay\u015fim yn rhannu ei phrofiad o fynd i Ysgol Haf Canolfan [&hellip;]","protected":false},"author":6962,"featured_media":4443,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[269,155],"tags":[],"class_list":["post-4445","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ffrwd","category-ysgol-haf"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2026\/03\/summer-school-blog-feature-image.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4445","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4445"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4445\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4446,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4445\/revisions\/4446"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4443"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4445"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4445"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4445"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}