{"id":4438,"date":"2025-10-23T11:53:23","date_gmt":"2025-10-23T11:53:23","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=4438"},"modified":"2025-10-23T11:53:47","modified_gmt":"2025-10-23T11:53:47","slug":"chwalu-saith-camsyniad-cyffredin-am-adhd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/chwalu-saith-camsyniad-cyffredin-am-adhd\/","title":{"rendered":"Chwalu saith camsyniad cyffredin am ADHD"},"content":{"rendered":"<p><em>Yn y blog hwn mae <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/honorary\/aghas10\">Dr Sharifah Syed Salim Agha<\/a>, darlithiwr yn yr Adran Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc ac ymchwilydd yng Nghanolfan Wolfsonlin ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, yn ceisio chwalu rhai camsyniadau cyffredin am ADHD sydd i\u2019w gweld ar gyfryngau cymdeithasol.<\/em><\/p>\n<p><strong>Gadewch i ni ystyried y ffeithiau<\/strong><\/p>\n<p>Mwy na thebyg rydych chi wedi clywed am Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), yn enwedig gan ei fod wedi dod i\u2019r amlwg yn fwy dros y blynyddoedd diwethaf. Cyflwr niwroddatblygiadol yw ADHD sy\u2019n cynnwys anawsterau rhoi sylw, gorfywiogrwydd ac ymddygiad byrbwyll.<\/p>\n<p>Mae ADHD yn gyffredin, gan effeithio ar 3-5% o bobl. Er gwaethaf hyn, mae llawer o gamsyniadau amdano sy\u2019n cyfrannu at stigma ac yn ei gwneud yn anoddach i\u2019r rhai ag ADHD gael y cymorth mae ei angen arnynt.<\/p>\n<p>Fel rhan o Fis Ymwybyddiaeth o ADHD y mis Hydref hwn, gadewch i ni ystyried y camsyniadau mwyaf cyffredin a\u2019r hyn mae\u2019r ymchwil yn ei ddweud mewn gwirionedd.<\/p>\n<p><strong>1. Mae pawb yn meddwl bod ganddyn nhw ADHD nawr, dim ond tuedd yw hi<\/strong><\/p>\n<p>Nid tuedd yw ADHD. Efallai bod y cynnydd yn swm y cynnwys am ADHD ar gyfryngau cymdeithasol wedi arwain i fwy o bobl yn ceisio asesiadau, ond nid yw ymchwil yn cefnogi\u2019r syniad bod gormod o bobl yn cael diagnosis ADHD.<\/p>\n<p>Er bod mwy o bobl yn cael y diagnosis hwn, mae\u2019r nifer yn dal yn is na nifer amcangyfrifedig y bobl yn y DU y mae\u2019n debygol bod ganddynt ADHD. Mae\u2019r cynnydd yn nifer y diagnosisau yn adlewyrchu gwell ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o\u2019r cyflwr, nid gorddiagnosio.<\/p>\n<p>Mae mwy o ymwybyddiaeth yn helpu i leihau stigma ac yn annog pobl i geisio cymorth. Fodd bynnag, mae ADHD yn gyflwr cymhleth nad oes modd ei esbonio\u2019n llawn mewn postiadau neu fideos byr ar gyfryngau cymdeithasol. Dim ond ymarferwyr proffesiynol cymwys sy\u2019n gallu gwneud diagnosis ffurfiol, ac mae llawer o ffynonellau gwybodaeth dibynadwy ar gael (gweler y dolenni isod).<br \/>\n<strong><em><br \/>\n<\/em>2. Does dim modd bod gennych ADHD a gorbryder neu iselder<\/strong><\/p>\n<p>Oes, mae modd. Yn wir, mae pobl ag ADHD yn fwy tebygol o brofi gorbryder neu iselder &#8211; mae\u2019r rhain yn cael eu galw\u2019n gyflyrau sy\u2019n cyd-ddigwydd. Mae cyfradd y cyflyrau hyn sy\u2019n cyd-ddigwydd yn amrywio fesul oedran.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cyflyrau ychwanegol hyn yn gallu effeithio ar ba symptomau ADHD sydd gan rywun a sut mae\u2019n effeithio ar fywyd rhywun. Mae adnabod ac ymateb i gyflyrau sy\u2019n cyd-ddigwydd yn bwysig er mwyn sicrhau triniaeth a chymorth effeithiol.<\/p>\n<p><strong>3. Meddyginiaeth yw\u2019r unig ffordd o reoli ADHD.<\/strong><\/p>\n<p>Nage, nid yw diagnosis ADHD o anghenraid yn golygu y byddwch yn cael presgripsiwn am feddyginiaeth. Ar \u00f4l diagnosis, byddwch chi a\u2019ch meddyg arbenigol yn trafod opsiynau triniaeth ar sail eich anghenion.<\/p>\n<p>Yn y DU, mae canllawiau\u2019n argymell dull cynhwysfawr o gefnogi plant ag ADHD. Mae hyn yn cynnwys addysg a gwybodaeth am ADHD, gwneud yr amgylchedd (e.e. yn y cartref a\u2019r ysgol) yn dda i bobl ag ADHD a rhoi cyngor ar strategaethau rhianta.<\/p>\n<p>Bydd meddyginiaeth yn cael ei defnyddio pan fo symptomau ADHD yn ddifrifol ac yn achosi anawsterau mawr.<\/p>\n<p><strong>4. Mae pobl ag ADHD bob amser yn orfywiog neu\u2019n tarfu. <\/strong><\/p>\n<p>Nid yw pob person ag ADHD yn orfywiog. Mae gan ADHD dri phrif symptom.<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Diffyg canolbwyntio yn bennaf <\/strong>\u2013 anawsterau o ran sylw, trefniadaeth a chwblhau tasgau yn bennaf.<\/li>\n<li><strong>Gorfywiogrwydd-byrbwylledd yn benna<\/strong>f \u2013yn aflonydd ac yn fyrbwyll yn bennaf.<\/li>\n<li><strong>Symptomau Cyfunol <\/strong>\u2013 cymysgedd o\u2019r ddau fath o symptomau.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae ADHD yn gallu amrywio\u2019n fawr o berson i berson a hyd yn oed ar wahanol adegau bywyd. Mae\u2019r amrywiadau hyn mewn symptomau, heriau a phrofiadau yn gallu ei gwneud hyd yn oed yn anoddach ei adnabod.<\/p>\n<p><strong><br \/>\n5. Bydd ADHD yn diflannu ar \u00f4l i chi ddod yn oedolyn neu dim ond plant sy\u2019n gallu cael diagnosis<\/strong><\/p>\n<p>Nid yw hyn yn wir, ni fydd ADHD yn diflannu ar \u00f4l dod yn oedolyn. Efallai y bydd rhai nodweddion craidd, megis gorfywiogrwydd, yn lleihau wrth heneiddio,ond yn aml bydd symptomau eraill megis diffyg canolbwyntio yn parhau.<\/p>\n<p>Mae hynt ADHD yn amrywiol iawn. Er bydd symptomau ADHD yn dod i ben i rai unigolion pan fyddan nhw\u2019n oedolion, bydd llawer o bobl yn parhau i brofi ADHD. Er gwaethaf hyn, mae rhai unigolion yn dod o hyd i ffyrdd i ddygymod \u00e2\u2019u hanawsterau ac yn manteisio ar eu cryfderau.<\/p>\n<p>Mae rhywun yn gallu cael diagnosis ADHD ar unrhyw oedran, ond fel arfer mae\u2019r symptomau\u2019n dechrau yn ystod plentyndod.\u00a0 Er bod llawer o bobl yn cael diagnosis ADHD pan maen nhw\u2019n blant, nid yw rhai\u2019n cael gwybod bod ganddyn nhw ADHD nes eu bod yn oedolion oherwydd na sylwyd ar eu symptomau neu na chawsant eu hadnabod pan oedden nhw\u2019n iau.<\/p>\n<p><strong><br \/>\n6. Mae ADHD yn cael ei achosi gan fwyd sothach, gormod o wylio\u2019r sgr\u00een neu rianta gwael.<\/strong><\/p>\n<p>Does dim tystiolaeth gadarn bod bwyd sothach, amser yn gwylio\u2019r sgr\u00een neu ddulliau rhianta yn achosi ADHD.<\/p>\n<p>Yn yr un modd, ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael i ddangos bod newidiadau deietegol yn gallu gwella symptomau ADHD yn sylweddol.<\/p>\n<p>Nid yw ADHD yn cael ei achosi gan rianta gwael neu ddiffyg disgyblu. Mae magu plentyn ag ADHD yn gallu bod yn heriol, ond mae strategaethau rhianta strwythuredig, megis trefnau cyson, disgwyliadau clir ac atgyfnerthu cadarnhaol, yn gallu helpu.<\/p>\n<p><strong>7. Mae ADHD yn cael ei achosi gan un genyn<\/strong><\/p>\n<p>Mae cydran gref i ADHD ond nid yw\u2019n cael ei achosi gan un genyn unigol. Yn hytrach, mae llawer o enynnau\u2019n chwarae rhan fach yr un, ynghyd \u00e2 ffactorau amgylcheddol.<\/p>\n<p>Mae ymchwilwyr yn parhau i archwilio sut mae\u2019r ffactorau hyn yn rhyngweithio ac yn dylanwadu ar ddatblygiad ADHD.<\/p>\n<p>Pa gamsyniadau hoffech chi i ni eu chwalu nesaf? Rhowch wybod i ni yn sylwadau ein postiad ar y cyfryngau cymdeithasol.<\/p>\n<p><strong>Cymryd rhan yn ein hymchwil<\/strong><\/p>\n<p>Rydyn ni wedi lansio astudiaeth newydd gyda\u2019r nod o helpu ymchwilwyr i gael gwell dealltwriaeth o allu canolbwyntio, ymddygiad ac emosiynau plant.<\/p>\n<p>Ewch i\u2019n <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/take-part\/child-development-wales\">gwefan<\/a> i gymryd rhan heddiw.<\/p>\n<p><strong>Hoffech ddysgu rhagor am ADHD?<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/__data\/assets\/pdf_file\/0009\/2934945\/WEB-Wolfson-ADHD-booklet.pdf\">Darllenwch ein taflen ar ADHD<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/examining-the-differences-between-men-and-women-with-attention-deficit-hyperactivity-disorder\/\">Darllenwch ein blog sy&#8217;n archwilio&#8217;r gwahaniaethau rhwng dynion a menywod ag ADHD<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=YeamHE6Kank&amp;t\">Gwyliwch a rhannwch ein hanimeiddiad &#8216;Beth am siarad am ADHD?&#8217;<\/a><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn y blog hwn mae Dr Sharifah Syed Salim Agha, darlithiwr yn yr Adran Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc ac ymchwilydd yng Nghanolfan Wolfsonlin ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, [&hellip;]","protected":false},"author":6962,"featured_media":4434,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[149,269,69,84],"tags":[],"class_list":["post-4438","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-digwyddiadau","category-ffrwd","category-iechyd-meddwl-a-lles","category-ymchwil"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2025\/10\/blog-banners-5.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4438","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4438"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4438\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4441,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4438\/revisions\/4441"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4434"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4438"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4438"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4438"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}