{"id":4430,"date":"2025-10-17T14:41:36","date_gmt":"2025-10-17T14:41:36","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=4430"},"modified":"2025-10-17T14:41:36","modified_gmt":"2025-10-17T14:41:36","slug":"archwilio-profiadau-pobl-ifanc-ag-adhd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/archwilio-profiadau-pobl-ifanc-ag-adhd\/","title":{"rendered":"Archwilio profiadau pobl ifanc ag ADHD"},"content":{"rendered":"<p><strong>Archwilio profiadau pobl ifanc ag ADHD <\/strong><\/p>\n<p><em>Yn y blog hwn, mae Tamara Williams, Cynorthwyydd Ymchwil yng Nghanolfan Wolfson, yn s\u00f4n am astudiaeth ddiweddar sy&#8217;n archwilio sut y gall anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) edrych yn wahanol mewn merched a menywod ifanc. Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar glywed yn uniongyrchol gan oedolion ifanc \u00e2 phrofiad byw o ADHD. <\/em><\/p>\n<p><strong><em>Gwella diagnosis o ADHD<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Caiff mwy o fechgyn ddiagnosis o ADHD na merched. Pan fydd merched yn cael diagnosis o ADHD, mae&#8217;n aml yn hwyrach na bechgyn.<\/p>\n<p>Mae gwaith ymchwil blaenorol, gan gynnwys un arall<a href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S0149763425000648?via%3Dihub\"> \u00a0<\/a> hastudiaethau diweddar, wedi awgrymu y gallai diagnosis ADHD gael ei ohirio mewn merched o&#8217;i gymharu \u00e2 bechgyn. Gall hyn fod yn rhannol oherwydd bod ADHD yn edrych yn wahanol mewn merched a menywod a bechgyn a dynion. Datblygwyd y meini prawf y mae meddygon yn eu defnyddio i wneud diagnosis o ADHD yn wreiddiol yn seiliedig ar astudiaethau o fechgyn ifanc yn bennaf. Gall hyn ei gwneud hi&#8217;n anoddach adnabod ADHD mewn merched a menywod, gan arwain at oedi cyn cael diagnosis.<\/p>\n<p>Cam pwysig tuag at wella amseroldeb diagnosis yw cael gwell dealltwriaeth o sut olwg sydd ar ADHD ymhlith merched ifanc. Gall hyn helpu i nodi unrhyw anawsterau posibl sy&#8217;n gysylltiedig ag ADHD nad ydynt yn cael eu cynnwys yn llawn gan y meini prawf diagnostig. Mae angen astudiaethau ansoddol i archwilio&#8217;n fanwl brofiad bywyd menywod ifanc ag ADHD. Fodd bynnag, ychydig iawn o astudiaethau ansoddol sydd wedi archwilio ADHD o safbwynt merched a menywod.<\/p>\n<p><strong><em>Yr hyn a ganfuwyd gan ein hastudiaeth<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Mewn papur <a href=\"https:\/\/www.cambridge.org\/core\/journals\/the-british-journal-of-psychiatry\/article\/reflections-on-the-manifestation-of-attentiondeficit-hyperactivity-disorder-in-girls-from-young-adults-with-lived-experiences-a-qualitative-study\/48D36D61CE528010442AFD6B32ACD6AC\">a gyhoeddwyd <\/a>yn ddiweddar \u00a0, gwnaethom archwilio sut roedd symptomau ADHD yn ymddangos mewn merched ifanc yn ystod plentyndod, gan fynd y tu hwnt i&#8217;r meini prawf diagnostig, a chynnwys unigolion amrywiol o ran rhywedd. Gwnaethom gyfweld \u00e2 12 oedolyn ifanc rhwng 18 a 25 oed (deg o fenywod a dau unigolyn anneuaidd, pob un wedi&#8217;i aseinio&#8217;n fenywod adeg eu geni) am eu profiadau o dyfu i fyny ag ADHD.<\/p>\n<p>Gwelsom fod cyfranogwyr wedi disgrifio llawer o symptomau sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2&#8217;r meini prawf diagnostig safonol, ond gwnaethant hefyd rannu profiadau nad ydynt yn cael eu cydnabod yn y meini prawf hynny ar hyn o bryd. O&#8217;r cyfweliadau hyn, gwnaethom nodi pedwar prif thema:<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Symptomau mewnoledig ac sy\u2019n canolbwyntio ar y gymdeithas <\/strong>\u2013 disgrifiodd y thema hon y gall symptomau ADHD mewn merched ymddangos yn gymdeithasol (fel colli trywydd meddyliau yn ystod sgwrs), peidio \u00e2 tharfu ar eraill (fel dwdlan yn ystod gwersi ysgol), a bod yn fewnoledig (fel teimladau mewnol o rwystredigaeth).<\/li>\n<li><strong>Effeithiau cymdeithasol <\/strong>\u2013 roedd y thema hon yn tynnu sylw at y ffaith bod symptomau ADHD mewn merched yn aml yn cael effaith negyddol ar eu perthnasoedd \u00e2 ffrindiau, aelodau o&#8217;r teulu ac athrawon.<\/li>\n<li><strong>Cuddio a digolledu<\/strong> \u2013 disgrifiodd y thema hon y gallai merched ag ADHD ddefnyddio gwahanol ymddygiadau neu strategaethau i guddio neu atal eu symptomau ADHD. Y cymhelliant dros hyn yn aml oedd ceisio ffitio i mewn gydag eraill. Fodd bynnag, disgrifiodd cyfranogwyr hefyd y gallai masgio gael canlyniadau negyddol, fel gorludded.<\/li>\n<li><strong>Pwysigrwydd cyd-destun <\/strong>\u2013 tynnodd y cyfranogwyr sylw at y ffaith y gall symptomau ADHD amrywio ar draws gwahanol amgylcheddau, fel y cartref a&#8217;r ysgol. Roedd symptomau&#8217;n dibynnu ar ba mor ddiogel a chefnogol yr oeddent yn teimlo, faint yr oeddent yn mwynhau rhywbeth, a pha mor swnllyd neu brysur oedd yr amgylchedd.<\/li>\n<\/ol>\n<p>At ei gilydd, mae ein hastudiaeth yn awgrymu y gall cyflwyniad symptomau ADHD mewn merched fod yn llai gweladwy, yn fwy mewnol, ac wedi&#8217;i ddylanwadu&#8217;n gryf gan gyd-destun cymdeithasol. Dylai gwaith ymchwil yn y dyfodol ystyried a ddylid addasu asesiadau ADHD presennol i ystyried y ffactorau hyn. Gallai hyn gynorthwyo\u2019r gwaith o gydnabod a rhoi diagnosis cynharach o ADHD mewn plant a phobl ifanc, yn enwedig mewn merched.<\/p>\n<p><strong><em>Y camau nesaf<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Gan adeiladu ar yr astudiaeth hon ac fel rhan o brosiect ymchwil mwy, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae&#8217;r t\u00eem ymchwil dan arweiniad Dr Joanna Martin ym Mhrifysgol Caerdydd yn datblygu adnodd asesu ADHD newydd sy&#8217;n gynhwysol o ran rhywedd. Gelwir yr adnodd newydd hwn yn Raddfa Rheoleiddio Ymddygiad, Emosiwn a Sylw (<em>Behaviour, Emotion &amp; Attention Regulation Scale<\/em> \u2013 BEARS) ac mae hefyd yn cynnwys atodiad masgio a chefnogi o&#8217;r enw&#8217;r Raddfa Ymddygiad, Emosiwn a Sylw \u2013 Masgio a Chefnogaeth (<em>Behaviour, Emotion &amp; Attention \u2013 Masking and Support Scale<\/em> \u2013 BEAMS).<\/p>\n<p>Datblygwyd yr adnoddau newydd hyn ar y cyd \u00e2 phobl ifanc a rhieni a gofalwyr sydd \u00e2 phrofiad byw o ADHD yn ogystal \u00e2 gweithwyr proffesiynol fel staff addysgol a gofal iechyd sy&#8217;n gweithio gydag unigolion ag ADHD. Y nod yw i&#8217;r BEARS a&#8217;r BEAMS helpu i nodi anawsterau sy&#8217;n gysylltiedig ag ADHD yn gynnar, yn enwedig mewn plant nad yw eu symptomau o bosibl yn cyd-fynd \u00e2 disgwyliadau traddodiadol.<\/p>\n<p>Rydym bellach wedi lansio astudiaeth newydd yn gwahodd rhieni a gofalwyr plant 9-11 oed (blynyddoedd 5 a 6 yn yr ysgol gynradd) yng Nghymru i gwblhau holiaduron BEARS a BEAMS. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan rieni a gofalwyr plant ag ADHD a heb ADHD. Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed mwy am ein hastudiaeth newydd a chymryd rhan, <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/take-part\/child-development-wales\">ewch i dudalen ein hastudiaeth<\/a>.<\/p>\n<p><strong>Hoffech ddysgu rhagor am ADHD?<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/__data\/assets\/pdf_file\/0009\/2934945\/WEB-Wolfson-ADHD-booklet.pdf\">Darllenwch ein taflen ar ADHD<\/a><\/li>\n<li><a title=\"https:\/\/open.spotify.com\/episode\/78dE3vXPwK7sm64X50623v\" href=\"https:\/\/open.spotify.com\/episode\/78dE3vXPwK7sm64X50623v\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Gwrandewch ar ein podlediad am ADHD mewn menywod a merched<\/a><\/li>\n<li><a title=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/examining-the-differences-between-men-and-women-with-attention-deficit-hyperactivity-disorder\/\" href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/examining-the-differences-between-men-and-women-with-attention-deficit-hyperactivity-disorder\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Darllenwch ein blog sy&#8217;n archwilio&#8217;r gwahaniaethau rhwng dynion a menywod ag ADHD<\/a><\/li>\n<li><a title=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=YeamHE6Kank&amp;t\" href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=YeamHE6Kank&amp;t\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Gwyliwch a rhannwch ein hanimeiddiad &#8216;Beth am siarad am ADHD?&#8217;<\/a><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Archwilio profiadau pobl ifanc ag ADHD Yn y blog hwn, mae Tamara Williams, Cynorthwyydd Ymchwil yng Nghanolfan Wolfson, yn s\u00f4n am astudiaeth ddiweddar sy'n archwilio sut y gall anhwylder diffyg [&hellip;]","protected":false},"author":6962,"featured_media":4428,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[269,84],"tags":[],"class_list":["post-4430","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ffrwd","category-ymchwil"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2025\/10\/blog-banners-3.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4430","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4430"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4430\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4431,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4430\/revisions\/4431"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4428"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4430"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4430"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4430"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}