{"id":443,"date":"2022-04-13T11:39:19","date_gmt":"2022-04-13T11:39:19","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=443"},"modified":"2022-04-28T10:26:07","modified_gmt":"2022-04-28T10:26:07","slug":"cyfres-o-ddarlithoedd-cyhoeddus-newydd-syn-canolbwyntio-ar-iechyd-meddwl-pobl-ifanc","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/cyfres-o-ddarlithoedd-cyhoeddus-newydd-syn-canolbwyntio-ar-iechyd-meddwl-pobl-ifanc\/","title":{"rendered":"Cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus newydd sy\u2019n canolbwyntio ar iechyd meddwl pobl ifanc"},"content":{"rendered":"<h3><em>Bydd cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yng nghwmni academyddion o fri rhyngwladol yn cael ei lansio fis nesaf; mae\u2019r gyfres wedi\u2019u threfnu gan Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc. <\/em><\/h3>\n<p>Mae&#8217;r ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar ddeall achosion gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc. Mae lansio cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yn un o\u2019r llu o ddatblygiadau newydd sy\u2019n digwydd yng Nghanolfan Wolfson.<\/p>\n<p>Wedi&#8217;i threfnu gan Dr Yulia Shenderovich a Dr Lucy Riglin, bydd y gyfres hon o ddarlithoedd yn digwydd ar ffurf cyflwyniad awr o hyd bob mis gan academyddion rhyngwladol; hyn yn gysylltiedig \u00e2 gwaith y Ganolfan ym maes iechyd meddwl ieuenctid.<\/p>\n<p>Dywedodd Dr Riglin: \u201cRydym yn falch iawn o fod yn arwain ar y gyfres gyffrous newydd hon o ddarlithoedd. Mae gan Ganolfan Wolfson gysylltiadau cryf ag academyddion o bob rhan o\u2019r byd, sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, ac rydyn ni\u2019n gobeithio y bydd y gyfres hon yn rhoi rhagor o sylw i\u2019r arbenigwyr sydd gennym ledled y DU yn ogystal \u00e2\u2019n cydweithwyr rhyngwladol.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanegodd Dr Shenderovich: \u201cRydym yn ffodus i gael dyfnder ac ehangder gwybodaeth ac arbenigedd ar draws disgyblaethau ym Mhrifysgol Caerdydd ond hefyd cysylltiadau rhyngwladol gwych. Mae\u2019r gyfres hon o ddarlithoedd yn cynnig cyfle i gryfhau\u2019r cydweithio hwn ag academyddion uchel eu parch o bob rhan o\u2019r byd, ac rydym wrth ein bodd mai ein siaradwr gwadd cyntaf fydd yr Athro Lucie Cluver.\u201d<\/p>\n<p>Bydd darlith ar-lein gyntaf y gyfres yn cael ei thraddodi gan Lucie Cluver, Athro Gwaith Cymdeithasol Plant a Theuluoedd, Adran Polisi Cymdeithasol ac Ymyrraeth, Prifysgol Rhydychen ac Adran Seiciatreg ac Iechyd Meddwl, Prifysgol Cape Town.<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro Cluver: \u201cMae\u2019n fraint wirioneddol cael rhoi\u2019r ddarlith gyntaf yn y gyfres newydd hon gan d\u00eem Canolfan Wolfson. Mae&#8217;r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd tu hwnt i blant a theuluoedd.\u00a0Mae\u2019r pandemig COVID wedi cynyddu trallod iechyd meddwl oedolion, plant a phobl ifanc, ochr yn ochr \u00e2 thlodi a chyfnodau clo estynedig. Yn ogystal, mae argyfyngau dyngarol megis yn Syria, Afghanistan a nawr Wcr\u00e1in yn gorfodi teuluoedd i ofalu am blant sydd mewn perygl cyson o ran eu hiechyd corfforol a meddyliol.<\/p>\n<p>\u201cYn y cyflwyniad hwn byddwn yn trafod ymdrechion i arloesi \u2013 a hynny ar garlam \u2013 o ran cynnig y cymorth gorau ar sail tystiolaeth i deuluoedd mewn argyfyngau a byddwn yn dangos tystiolaeth o\u2019n gwaith mewn rhaglenni rhianta sy\u2019n cefnogi teuluoedd mewn argyfyngau.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Dr Riglin: \u201cRydym yn gobeithio y bydd y pwnc amserol a phwysig hwn o ddiddordeb i gynulleidfa eang. Gallwch gofrestru nawr ar gyfer sgwrs y mis nesaf ac mae\u2019r ddarlith gyhoeddus yn rhad ac am ddim.\u201d<\/p>\n<p>Bydd darlith rithwir yr Athro Cluver, <em>Parenting in Emergencies: Evidence and innovation to support children and their caregivers<\/em>,\u00a0 yn digwydd ddydd Mawrth 26 Ebrill am 2pm.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/bit.ly\/wclecturelcluver\">Cofrestrwch<\/a> ar-lein nawr.<\/p>\n<figure id=\"post-421 media-421\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2022\/04\/Wolfson-Centre-Lecture-Series-Lucie-Cluver-graphic.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Bydd cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yng nghwmni academyddion o fri rhyngwladol yn cael ei lansio fis nesaf; mae\u2019r gyfres wedi\u2019u threfnu gan Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc. [&hellip;]","protected":false},"author":6846,"featured_media":423,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[82,84],"tags":[131],"class_list":["post-443","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","category-ymchwil","tag-wolfsonlectures-cy"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2022\/04\/istockphoto-1254127323-170667a.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/443","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6846"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=443"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/443\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":445,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/443\/revisions\/445"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/423"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=443"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=443"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=443"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}