{"id":4418,"date":"2025-08-29T13:10:07","date_gmt":"2025-08-29T13:10:07","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=4418"},"modified":"2025-08-29T13:11:41","modified_gmt":"2025-08-29T13:11:41","slug":"yn-archwilior-gwahaniaethau-rhwng-dynion-a-menywod-gydag-anhwylder-diffyg-canolbwyntio-a-gorfywiogrwydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/yn-archwilior-gwahaniaethau-rhwng-dynion-a-menywod-gydag-anhwylder-diffyg-canolbwyntio-a-gorfywiogrwydd\/","title":{"rendered":"Yn archwilio\u2019r gwahaniaethau rhwng  dynion a menywod gydag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd"},"content":{"rendered":"<h3>Yn y blog hwn, mae Tamara Williams, Cynorthwyydd Ymchwil, yn trafod ei phapur adolygu systematig a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy\u2019n edrych ar ba symptomau sy\u2019n gwahaniaethu rhwng merched a menywod a bechgyn a dynion ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) . Mae hi hefyd yn rhannu ei maes diddordeb a\u2019r camau nesaf yn ei thaith ymchwil.<\/h3>\n<h4>Gwella diagnosis cynharach ac amserol o ADHD<\/h4>\n<p>Helo, Tamara Williams ydw i, Cynorthwyydd Ymchwil sy&#8217;n gweithio yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a&#8217;r Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ariennir fy r\u00f4l gan grant Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a\u2019i nod yw gwella gwybodaeth, ymwybyddiaeth a diagnosis o ADHD ymhlith pobl ifanc, yn enwedig merched.<\/p>\n<p>Mae fy r\u00f4l yn gyffrous, rwy&#8217;n cael bod yn rhan o gynllunio, sefydlu a chynnal prosiectau ymchwil diddorol. Mae hefyd wedi rhoi\u2019r cyfle i mi ysgrifennu a chyhoeddi papurau ymchwil ar ganlyniadau\u2019r prosiectau hyn.<\/p>\n<p>Fy mhrif faes o ddiddordeb yw ADHD, a sut y gallwn wella ein gwybodaeth amdano i helpu i gynorthwyo ymarfer a pholisi clinigol.<\/p>\n<p>Cam pwysig tuag at wella diagnosis cynharach ac amserol yw cael gwell dealltwriaeth o sut olwg sydd ar ADHD mewn merched a menywod, a bechgyn a dynion, er mwyn nodi marcwyr penodol o ADHD mewn merched a menywod. Fodd bynnag, prin iawn yw\u2019r ymchwil ar hyn. Yn hytrach, mae\u2019r ffocws wedi bod ar archwilio\u2019r gwahaniaethau mewn symptomau cyffredinol.<\/p>\n<h4>Mae fy mhapur ymchwil cyntaf yn edrych ar wahaniaethau mewn symptomau ADHD rhwng y rhywiau<\/h4>\n<p>Yn ddiweddar cyhoeddais fy mhapur cyntaf erioed: <a href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S0149763425000648\">&#8216;Adolygiad systematig ar lefel eitem o gyflwyniad ADHD mewn merched&#8217;<\/a>. Rwy\u2019n hynod falch o\u2019r papur gan mai hwn yw\u2019r papur adolygu cyntaf i edrych yn systematig ar wahaniaethau lefel eitem mewn symptomau ADHD rhwng merched a menywod, a bechgyn a dynion. Mae diagnosis ADHD yn aml yn cael ei roi yn gynharach, ac yn fwy cyffredin, ymysg bechgyn\/dynion o gymharu \u00e2 merched\/menywod.<\/p>\n<p>Mae astudiaethau blaenorol sy&#8217;n edrych i weld a oes gwahaniaethau mewn ADHD ymhlith merched yn erbyn bechgyn neu fenywod yn erbyn dynion wedi edrych yn bennaf ar gyfanswm nifer y symptomau ADHD (18 symptom), ac nid ar y naw symptom unigol diffyg sylw a naw symptom gorfywiog-fyrbwyll.<\/p>\n<p>Yn ein papur adolygu, roeddem am benderfynu a oedd unrhyw wahaniaethau mewn symptomau ADHD penodol. Ein nod oedd gweld a oes unrhyw symptomau sy&#8217;n arbennig o bwysig i gyflwyniad ADHD mewn merched a menywod.<\/p>\n<p>I wneud hyn, buom yn chwilio chwe chronfa ddata ymchwil am astudiaethau a gyhoeddwyd yn flaenorol. Fe wnaethom ganolbwyntio ar astudiaethau a oedd yn cynnwys canlyniadau symptomau ADHD penodol, a sut mae ADHD yn effeithio ar fywyd bob dydd. Y cymariaethau yr oedd gennym ddiddordeb ynddynt oedd merched a bechgyn ag ADHD, menywod a dynion ag ADHD a menywod \u00e2 merched heb ADHD.<\/p>\n<p>Daethpwyd o hyd i 13 astudiaeth berthnasol, er mai dim ond chwech o\u2019r rhain oedd yn cymharu symptomau ADHD ymhlith merched a menywod yn erbyn bechgyn a dynion. Dangosodd y canlyniadau fod merched ag ADHD yn ystod plentyndod yn fwy tebygol o ddangos rhai symptomau diffyg sylw, er enghraifft &#8216;yn methu \u00e2 chynnal sylw mewn tasgau&#8217;.<\/p>\n<p>Ar y llaw arall, roedd bechgyn ag ADHD yn fwy tebygol o arddangos wyth o&#8217;r naw symptom gorfywiog-fyrbwyll, pob un ac eithrio &#8216;siarad yn ormodol&#8217; nad oedd yn dangos unrhyw wahaniaeth.<\/p>\n<p>Yn oedolion, roedd menywod ag ADHD yn fwy tebygol na dynion o adrodd eu bod yn profi&#8217;r symptomau &#8216;methu canolbwyntio&#8217;, &#8216;gweld hi\u2019n anodd trefnu tasgau&#8217;, &#8216;ateb yn fyrbwyll&#8217; a &#8216;siarad yn ormodol&#8217;. Hefyd, wrth edrych ar effaith ADHD, roedd merched a menywod yn fwy tebygol o brofi effaith ADHD gartref na bechgyn a merched.<\/p>\n<blockquote><p>I grynhoi, cynhaliom astudiaeth sy&#8217;n awgrymu y gallai merched a menywod ag ADHD gyflwyno proffil symptomau ychydig yn wahanol na bechgyn a dynion ag ADHD.<\/p><\/blockquote>\n<p>Prif gyfyngiad ein hymchwil yw mai dim ond 13 o astudiaethau a ddarparodd wybodaeth am symptomau ac anawsterau penodol. Dylai ymchwil yn y dyfodol archwilio\u2019n fanylach pa symptomau sydd fwyaf perthnasol i ferched a menywod ag ADHD, er mwyn helpu i adnabod a rhoi diagnosis o ADHD yn gynt.<\/p>\n<p><strong>Nod ymchwil pellach yw helpu i lunio offeryn asesu ADHD sy&#8217;n gynhwysol o ran rhywedd<\/strong><\/p>\n<p>Nawr bod y papur hwn wedi&#8217;i gyhoeddi, ein cam nesaf yw cwblhau dwy astudiaeth ymchwil ansoddol barhaus sy&#8217;n anelu at ddeall ADHD benywaidd yn well yn ystod plentyndod. Yn yr astudiaethau hyn, buom yn siarad \u00e2 menywod ifanc ac oedolion anneuaidd ag ADHD, rhieni a gofalwyr, a gweithwyr gofal iechyd ac addysg proffesiynol sy&#8217;n gweithio gydag unigolion ag ADHD.<\/p>\n<p>Bydd yr holl waith hwn yn bwydo i mewn i ddatblygiad offeryn asesu ADHD sy&#8217;n gynhwysol o ran rhywedd, sy&#8217;n anelu at nodi plant a allai elwa o asesiad ADHD, yn iau.<\/p>\n<p>Yn gysylltiedig \u00e2 hyn, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn masgio, sy&#8217;n atal symptomau ADHD yn ymwybodol neu&#8217;n anymwybodol i ymddangos yn fwy niwronodweddiadol, gan y gallai fod yn ffactor mewn oedi o ran cael diagnosis, <a href=\"https:\/\/www.ncmh.info\/2024\/10\/23\/why-are-some-people-with-adhd-particularly-girls-and-young-women-diagnosed-later-than-others\/\">yn enwedig ymhlith merched a menywod ifanc<\/a>.<\/p>\n<p>Mae fy niddordeb mewn masgio wedi deillio o ganlyniadau ymchwil o&#8217;r grant Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a siarad \u00e2 phobl ifanc sydd \u00e2 phrofiadau bywyd go iawn o ADHD, sydd wedi nodi pwysigrwydd masgio ar gyfer eu profiad o ADHD.<\/p>\n<h4>Dysgwch mwy<\/h4>\n<p>Os oes gennych ddiddordeb mewn darllen mwy am ADHD, rwyf hefyd wedi ysgrifennu <a href=\"https:\/\/www.ncmh.info\/2023\/10\/27\/shedding-light-on-the-symptoms-of-adhd-in-girls-and-women\/\">post blog<\/a> ar gyfer Canolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl (NCMH) gyda Isabella Barclay, myfyriwr PhD, sy&#8217;n dadansoddi mythau a chamgymhellion cyffredin o amgylch ADHD.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn y blog hwn, mae Tamara Williams, Cynorthwyydd Ymchwil, yn trafod ei phapur adolygu systematig a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy\u2019n edrych ar ba symptomau sy\u2019n gwahaniaethu rhwng merched a menywod [&hellip;]","protected":false},"author":6846,"featured_media":572,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[74,82,84],"tags":[95],"class_list":["post-4418","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cwrdd-ar-ymchwilydd","category-newyddion","category-ymchwil","tag-adhd-cy"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2022\/08\/pupils-walk-in-school-uniform.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4418","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6846"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4418"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4418\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4425,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4418\/revisions\/4425"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/572"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4418"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4418"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4418"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}