{"id":4414,"date":"2025-08-04T14:55:42","date_gmt":"2025-08-04T14:55:42","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=4414"},"modified":"2026-03-16T12:23:43","modified_gmt":"2026-03-16T12:23:43","slug":"sut-roedd-ysgol-haf-wolfson-wedi-atgyfnerthu-fy-niddordeb-mewn-ymyraethau-digidol-ym-maes-iechyd-meddwl-pobl-ifanc","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/sut-roedd-ysgol-haf-wolfson-wedi-atgyfnerthu-fy-niddordeb-mewn-ymyraethau-digidol-ym-maes-iechyd-meddwl-pobl-ifanc\/","title":{"rendered":"Sut roedd Ysgol Haf Wolfson wedi atgyfnerthu fy niddordeb mewn ymyraethau digidol ym maes iechyd meddwl pobl ifanc"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"margin: 8px 8px 0px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2025\/08\/Picture1.jpg\" alt=\"\" width=\"240\" height=\"320\" \/><\/p>\n<p><em>Mae gan Pelin Koyuncu o\u2019r Swistir feistr Seicoleg. Yn y blog hwn, mae Pelin yn s\u00f4n am ei phrofiad o gymryd rhan yn #WolfsonSummer25 a sut roedd wedi atgyfnerthu ei diddordeb ym maes defnyddio g\u00eameiddio yn offeryn ymyrryd.<\/em><\/p>\n<p>Gwnes i gais i Ysgol Haf Wolfson achos fy mod i eisiau dysgu rhagor am yr ymchwil gyfredol ym maes iechyd meddwl pobl ifanc gan weithwyr proffesiynol sy&#8217;n weithgar yn y byd academaidd ac ymarfer clinigol. Un o fy nodau oedd cyfnewid gwybodaeth a phrofiadau gyda phobl eraill o gefndiroedd tebyg a oedd yn cymryd rhan. Ro\u2019n i\u2019n hapus o gael gwybod bod fy nghais wedi\u2019i gymeradwyo ac yn edrych ymlaen yn fawr at ymuno ag ysgol haf ar bwnc mor bwysig &#8211; yn ogystal \u00e2\u2019r ffaith bod y cyfan ar-lein, oedd yn beth cyfleus.<\/p>\n<p>Treuliais i dridiau arbennig iawn er mwyn deall rhagor am y tueddiadau, yr heriau a\u2019r dyheadau at y dyfodol ym maes iechyd meddwl pobl ifanc. Ro\u2019n i&#8217;n gwerthfawrogi&#8217;r rhaglen amrywiol ac yn elwa llawer ar ddarlithoedd ar bynciau ro\u2019n i wedi&#8217;u colli drwy gydol fy astudiaethau, megis geneteg a byd polisi. Ar \u00f4l profiad blaenorol yn dylunio gemau go iawn, ro\u2019n i\u2019n arbennig o hapus i gael gwybod rhagor am ymyraethau digidol, ac ro\u2019n i\u2019n gallu cysylltu&#8217;r ddau brofiad \u00e2&#8217;i gilydd. Yn ogystal, bydd y ddoethuriaeth y bydda i\u2019n ei dechrau\u2019n fuan yn canolbwyntio ar edrych ar effeithiolrwydd ymyrraeth ddigidol ac rwy&#8217;n edrych ymlaen at ddefnyddio&#8217;r profiadau gwerthfawr hynny yn fy ngwaith yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Roedd y rhaglen yn cynnwys sesiynau rhyngweithiol ar y cyd \u00e2\u2019r darlithoedd ac oherwydd hyn roedd yr ysgol haf yn ddeinamig iawn. Roedd yr ymwneud rhwng y bobl a gymerodd ran, y darlithwyr a\u2019r trefnwyr yn barchus ac yn ddifyr iawn. Yn y sesiwn rwydweithio ro\u2019n i\u2019n gallu siarad \u00e2 rhai o\u2019r bobl a oedd yn cymryd rhan, gan gyfnewid barn a phrofiadau personol. O Brasil i Nepal \u2013 peth diddorol oedd gweld lleoliad y bobl oedd yn cymryd rhan yn ogystal \u00e2\u2019r wybodaeth a\u2019r arbenigedd oedd ganddyn nhw i&#8217;w rhannu gyda phob un ohonon ni.<\/p>\n<p>Roedd cymryd rhan yn gwneud imi sylweddoli bod <strong>gan bob un ohonon ni genhadaeth, sef deall, gwella a chefnogi iechyd meddwl pobl ifanc <\/strong>\u2013 ble bynnag rydyn ni\u2019n byw. Peth gwirioneddol wych ac ysbrydoledig oedd gweld bod cynifer o bobl yn gofalu am bobl ifanc a&#8217;u lles.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n hynod ddiolchgar o fod wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn yr ysgol haf hon a galla i ddweud fy mod i wedi cyflawni fy nod personol, sef dyfnhau fy ngwybodaeth a fy sgiliau. Byddwn i yn bendant yn annog pawb sydd eisiau dysgu rhagor am ymchwil iechyd meddwl pobl ifanc i gymryd rhan!<\/p>\n<p>Cewch gysylltu \u00e2 Pelin ar <a href=\"http:\/\/www.linkedin.com\/in\/pelin-koyuncu-26903232a\">LinkedIn<\/a><\/p>\n<p><strong>Ymunwch \u00e2 ni yn 2026:<\/strong><\/p>\n<p>Hoffech chi ymuno \u00e2 ni yn Ysgol Haf Wolfson 2026<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/training\/summer-school\">? Cewch ymgeisio ym mis Mawrth 2026, a bydden ni wrth ein boddau\u2019n clywed gennych.<\/a><\/p>\n<p>Cewch gofrestru i fod ar ein <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/subscribe-to-our-newsletter\">rhestr bostio<\/a> i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gyfleoedd mae&#8217;r Ganolfan yn eu cynnig, a chofiwch gadw llygad ar ein <a href=\"https:\/\/linktr.ee\/WolfsonCentre\">sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol<\/a> i gael gwybod rhagor am #WolfsonSummer26<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae gan Pelin Koyuncu o\u2019r Swistir feistr Seicoleg. Yn y blog hwn, mae Pelin yn s\u00f4n am ei phrofiad o gymryd rhan yn #WolfsonSummer25 a sut roedd wedi atgyfnerthu ei [&hellip;]","protected":false},"author":6962,"featured_media":4413,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[269,155],"tags":[],"class_list":["post-4414","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ffrwd","category-ysgol-haf"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2025\/08\/2-Summer-school-24-twt-fb.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4414","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4414"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4414\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4415,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4414\/revisions\/4415"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4413"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4414"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4414"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4414"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}