{"id":4302,"date":"2025-05-15T12:30:50","date_gmt":"2025-05-15T12:30:50","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=4302"},"modified":"2025-05-13T13:41:36","modified_gmt":"2025-05-13T13:41:36","slug":"pwer-cymuned-ac-ymdeimlad-o-berthyn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/pwer-cymuned-ac-ymdeimlad-o-berthyn\/","title":{"rendered":"P\u0175er cymuned ac ymdeimlad o berthyn"},"content":{"rendered":"<p><em>Yn y blog hwn, mae Lauren yn myfyrio ar thema Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2025 \u2013 cymuned. Mae hi&#8217;n rhannu ei thaith bersonol gydag iechyd meddwl ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd cymuned wrth greu mannau diogel, cefnogol i bobl ifanc, lle maen nhw\u2019n teimlo dealltwriaeth, cysylltiad, a grym.<br \/>\n<\/em><br \/>\nShwmae bawb,<\/p>\n<p>Fy enw i yw Lauren Conway ac rwy&#8217;n rhan o Gr\u0175p Cynghori Pobl Ifanc (YAG) Canolfan Wolfson ac yn un o sylfaenwyr y Neuro Network. Gan ei bod hi\u2019n Fis Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ro\u2019n i\u2019n awyddus i fanteisio ar y cyfle i rannu ychydig o\u2019m stori a s\u00f4n am pam mae cymuned mor bwysig mewn perthynas ag iechyd meddwl, yn enwedig i&#8217;r rhai ohonom ni sy&#8217;n delio \u00e2 heriau iechyd meddwl.<\/p>\n<p>Fel rhywun sy\u2019n wynebu anawsterau iechyd meddwl a heriau eraill, ro\u2019n i&#8217;n aml yn teimlo \u2019mod i\u2019n cael fy nghamddeall neu ddim yn cael fy nghefnogi gan y systemau a oedd i fod i helpu. Byddai cael ymdeimlad cryf o gymuned yn ystod yr amseroedd hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Lle roedd gwasanaethau\u2019n methu, gallai cymorth cymheiriaid a dealltwriaeth gan eraill fod wedi fy helpu i deimlo&#8217;n llai unig. Dyna pam mae grwpiau fel YAG a&#8217;r Neuro Network mor bwysig: nid yn unig maen nhw&#8217;n cynnig yr ymdeimlad hwnnw o gysylltiad a chefnogaeth, ond maen nhw hefyd yn gweithio i wella ymchwil iechyd meddwl a llywio datblygiad gwasanaethau fel bod gofal yn y dyfodol yn fwy hygyrch a chynhwysol. Mae cwrdd ag eraill sydd \u00e2 phrofiadau tebyg wedi fy nghysuro a\u2019m grymuso &#8211; rhywbeth nad oeddwn i wedi ei deimlo tan yn ddiweddar.<\/p>\n<p>Mae fy nhaith wedi fy nysgu am b\u0175er cymuned. Ers dod i&#8217;r brifysgol, rydw i wedi dysgu pa mor bwysig yw rhoi eich hun mas \u2019na a dod o hyd i bobl sydd wir yn eich deall chi. Ro\u2019n i&#8217;n dal i deimlo allan o le ar y dechrau, yn masgio, yn osgoi digwyddiadau cymdeithasol, ac yn straffaglu trwy ofod a oedd yn aml yn teimlo&#8217;n ormod i mi. Ond hanner ffordd trwy fy ngradd, sefydlais gymdeithas ar gyfer myfyrwyr niwroamrywiol, a\u2019m helpodd i ddod o hyd i gysylltiad, adeiladu hyder, a hyrwyddo ymwybyddiaeth.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r YPAG yn dod \u00e2 phobl ifanc sydd \u00e2 phrofiad o lygad y ffynnon at ei gilydd i gynghori ar ymchwil iechyd meddwl, gan sicrhau bod prosiectau&#8217;n adlewyrchu anghenion a lleisiau&#8217;r rhai maen nhw\u2019n ceisio eu cefnogi. Mae bod yn rhan o&#8217;r YPAG wedi bod yn brofiad hyfryd. Mae&#8217;n ofod lle mae ein lleisiau ni wir yn bwysig ac mae ein syniadau\u2019n helpu i lywio canlyniadau gwell mewn ymchwil iechyd meddwl.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Neuro Network yn gr\u0175p cymunedol nid-er-elw a gyd-sefydlais i gefnogi unigolion niwroamrywiol yn y gymuned. Rydyn ni\u2019n cynnal grwpiau cymorth cyfoedion rheolaidd, gan gynnwys gr\u0175p ADHD mewn partneriaeth \u00e2 Chyngor Caerdydd, ac yn cynnal digwyddiadau cynhwysol fel grwpiau cymorth awtistiaeth ac ADHD a chlwb crefftio cw\u00eear niwroamrywiol. Mae&#8217;n ofod lle mae pawb yn cael eu croesawu a&#8217;u hannog i fod yn nhw eu hunain, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a chynhwysiant. Mae&#8217;r YAG a&#8217;r Neuro Network yn helpu i wella dealltwriaeth gymdeithasol o heriau niwroamrywiaeth ac iechyd meddwl a&#8217;n symud yn agosach at fyd lle mae modd siarad am eich trafferthion yn agored.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar, rydw i wedi dod i ddeall pa mor hanfodol yw cael rhwydwaith cymorth &#8211; pobl nad ydyn nhw\u2019n gwneud i chi deimlo&#8217;n rhyfedd neu&#8217;n wahanol, ond yn hytrach yn gwneud i chi deimlo fel eich bod chi&#8217;n perthyn. Nid yw bob amser yn hawdd &#8211; rwy&#8217;n dal i wynebu eiliadau o unigrwydd a gorbryder. Ond mae cael fy amgylchynu gan bobl sy&#8217;n rhannu profiadau tebyg yn gwneud i mi deimlo mwy o gysylltiad a dealltwriaeth. Mae&#8217;n anhygoel faint o wahaniaeth y gall cymuned ddibynadwy, ofalgar ei wneud. Ni ddylai\u2019r gallu i siarad am gyflyrau iechyd meddwl yn agored, mewn mannau sy&#8217;n teimlo&#8217;n ddiogel, fod yn fraint, ond yn aml dyma\u2019r achos o hyd.<\/p>\n<p>Mae unigrwydd yn fwy na dim ond emosiwn &#8211; mae&#8217;n broblem iechyd cyhoeddus, ac mae&#8217;n arbennig o gyffredin. Gall cymuned fod yn donig pwerus i unigrwydd. Gall dod o hyd i&#8217;r gymuned gywir &#8211; boed ar-lein neu wyneb yn wyneb &#8211; ddod ag ymdeimlad o berthyn, cyd-ddealltwriaeth, a chymorth emosiynol.<\/p>\n<p>Mae rhoi fy hun mas \u2019na a chwrdd ag eraill sydd \u00e2 phrofiadau tebyg nid yn unig wedi fy helpu i wneud ffrindiau newydd ond hefyd wedi gwella fy iechyd meddwl. Mae rhywbeth anhygoel o rymusol am ddod o hyd i&#8217;ch llwyth chi a gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n dal i adeiladu fy nghymuned &#8211; mae&#8217;n daith barhaus &#8211; ond rydw i wedi mynd o deimlo fel nad oeddwn i&#8217;n perthyn i greu mannau lle gallaf fod yn driw i fi fy hun. Dyna beth rydw i ei eisiau i eraill hefyd: cymuned lle rydych chi&#8217;n teimlo derbyniad, cysylltiad a chefnogaeth. Os ydych chi&#8217;n teimlo&#8217;n unig, cofiwch fod \u2019na bobl a grwpiau mas \u2019na sy\u2019n barod i&#8217;ch croesawu chi yn union fel ydych chi.<\/p>\n<p>Dyma rai adnoddau sydd wedi bod yn ddefnyddiol i mi:<\/p>\n<ul>\n<li>Archwiliwch eich hob\u00efau neu bethau rydych chi bob amser wedi bod eisiau rhoi cynnig arnyn nhw, a chwiliwch am grwpiau cymunedol o amgylch y diddordebau hynny<\/li>\n<li>Defnyddiwch wefannau fel Facebook, Eventbrite a fforymau lleol i ddod o hyd i ddigwyddiadau a chymunedau yn eich ardal chi<\/li>\n<li>Os ydych chi yng Nghaerdydd, cymerwch olwg ar <a href=\"https:\/\/www.thefancharity.org\/find-a-fan-meeting\/cardiff\/\">FAN (Friends and Neighbours)<\/a>, sy&#8217;n cynnal cyfarfodydd wythnosol am ddim i bobl gysylltu ac ymarfer Cymraeg neu Saesneg mewn amgylchedd hamddenol<\/li>\n<li>Mae gan Gyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) gyfeirlyfr cymunedol sy&#8217;n llawn gweithgareddau lleol a grwpiau cymorth<\/li>\n<li>Mae <a href=\"https:\/\/hybiaucaerdydd.co.uk\/digwyddiadau\/\">Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd<\/a> yn cynnal digwyddiadau a chyfarfodydd cymdeithasol am ddim<\/li>\n<li>Mae <a href=\"https:\/\/cardiffmind.org\">Mind Caerdydd<\/a> yn cynnig cymorth iechyd meddwl a chyfleoedd i gysylltu<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gallwch hefyd ddod o hyd i&#8217;r adnoddau hyn yn lleol.<\/p>\n<p>Diolch Lauren am ysgrifennu&#8217;r blog hwn.<\/p>\n<hr \/>\n<p>Yng Nghanolfan Wolfson, mae cymuned yn rhan bwysig o&#8217;r hyn rydyn ni&#8217;n ei wneud. O gyd-gynhyrchu ymchwil gyda phobl ifanc i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, teuluoedd a gweithwyr iechyd, rydyn ni\u2019n gwybod bod gwella iechyd meddwl yn gofyn am gydweithio, ymddiriedaeth a sgyrsiau go iawn &#8211; ac na all neb wneud hynny ar ei ben ei hun.<\/p>\n<p>Os hoffech ymuno neu ddysgu mwy am ein Gr\u0175p Cynghori Ieuenctid, gweler ein <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/take-part\/youth-advisory-group\">gwefan<\/a>.<\/p>\n<p>Oes gennych chi ddiddordeb yn ein dull o Gynnwys y Cyhoedd? Cymerwch olwg ar ein nodau a&#8217;n hastudiaethau achos ar ein <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/ourwork\/publicinvolvement\">tudalen Cynnwys y Cyhoedd<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn y blog hwn, mae Lauren yn myfyrio ar thema Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2025 \u2013 cymuned. Mae hi'n rhannu ei thaith bersonol gydag iechyd meddwl ac yn tynnu sylw [&hellip;]","protected":false},"author":6962,"featured_media":4299,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[269,71],"tags":[],"class_list":["post-4302","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ffrwd","category-lleisiau-ieuenctid"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2025\/05\/blog-banners-1.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4302","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4302"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4302\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4303,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4302\/revisions\/4303"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4299"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4302"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4302"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4302"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}