{"id":399,"date":"2022-03-08T09:05:20","date_gmt":"2022-03-08T09:05:20","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=399"},"modified":"2022-04-13T13:37:27","modified_gmt":"2022-04-13T13:37:27","slug":"dathlu-diwrnod-rhyngwladol-y-menywod-%e2%99%80%ef%b8%8f","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/dathlu-diwrnod-rhyngwladol-y-menywod-%e2%99%80%ef%b8%8f\/","title":{"rendered":"Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod \u2640\ufe0f"},"content":{"rendered":"<h3>Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, diwrnod byd-eang i ddathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod ledled y byd.<\/h3>\n<h3>Mae Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn ffodus o gael t\u00eem amrywiol a chynhwysol o fenywod gwych yn gweithio ar draws y ganolfan ymchwil.<\/h3>\n<p>Eleni ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, roeddem am dynnu sylw at rai o&#8217;r menywod gwych sydd wedi&#8217;u lleoli yma yng Nghanolfan Wolfson ac amlygu sut mae menywod yn cefnogi\u2019r Ganolfan i ffynnu.<\/p>\n<h2><strong>Arbenigwyr sy&#8217;n arwain y byd<\/strong><\/h2>\n<p>Arweinir pedwar o chwe ffrwd gwaith ymchwil Canolfan Wolfson gan academyddion benyw sy&#8217;n arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd.<\/p>\n<p><strong>Yr Athro Frances Rice<\/strong>yw cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson ac mae ei gwaith yn canolbwyntio ar astudio tarddiad a datblygiad iselder a gorbryder ymhlith pobl ifanc. Yn ogystal \u00e2 bod yn Brif Ymchwilydd i&#8217;r ganolfan ymchwil, mae Frances hefyd yn arwain ffrwd waith y ganolfan sy&#8217;n ceisio datblygu ymyriadau i gefnogi pobl ifanc y mae eu rhiant yn dioddef o iselder.<\/p>\n<p>\ud83c\udfa5 Gwyliwch sgwrs gyhoeddus ddiweddaraf Frances ar ymyriadau sy&#8217;n gweithio&#8217;n dda i bobl ifanc mewn lleoliadau ysgol.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"School-based interventions to support young people\u2019s mental health\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/fx2w6MfZbX4?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Mae&#8217;r Athro Anita Thapar<\/strong> yn glinigydd-gwyddonol uchel ei pharch sy&#8217;n arwain ffrwd gwaith ymchwil geneteg Canolfan Wolfson. Mae Anita hefyd yn bennaeth ar yr Adran Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc academaidd yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Mae ymchwil Anita yn canolbwyntio ar iselder yn y glasoed, anhwylder gorfywiogrwydd sylw (ADHD) ac anhwylderau niwroddatblygiadol ychwanegol (e.e. anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth) o 0 i 25 oed, gan fynd i&#8217;r afael \u00e2 chwestiynau sydd \u00e2 pherthnasedd clinigol.<\/p>\n<p>\ud83d\udc40 Daliwch i fyny \u00e2 darlith gyhoeddus Anita yn ystod lansiad rhithwir Canolfan Wolfson lle&#8217;r oedd yn brif siaradwr.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Young people&#039;s mental health in the 21st century: lessons from research\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/6nDpbnRJyOs?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Mae&#8217;r Athro Ann John<\/strong> yn gweithio ar ffrwd gwaith ymchwil carfan e-ddata poblogaeth a chleifion Canolfan Wolfson. Mae t\u00eem ymchwil Ann, sy\u2019n rhan o Brifysgol Abertawe, yn defnyddio gwybodaeth sydd ar gael yng Nghymru yn unig er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ddeilliannau tymor hir y bobl ifanc sy&#8217;n cael profiad o orbryder ac iselder.<\/p>\n<p>Mae Ann, cyn feddyg teulu a hyfforddwyd ym maes iechyd y cyhoedd, yn Athro Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac mae&#8217;n Brif Ymchwilydd ac yn Gyd-gyfarwyddwr ar DATAMIND, y Ganolfan Ymchwil Data Iechyd ar gyfer Iechyd Meddwl. Mae ei diddordebau ymchwil hefyd yn canolbwyntio ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio.<\/p>\n<p>\ud83c\udfac Gwyliwch araith allweddol Ann gydag MQ Mental Health Research, sy\u2019n canolbwyntio ar grwpiau heb wasanaeth na chynrychiolaeth digonol mewn gwyddor data iechyd meddwl.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Data Science - Keynote speech from Professor Ann John\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/Y5Jngazp6tg?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2><strong>Cefnogi ymchwilwyr<\/strong><\/h2>\n<p>Mae academyddion benyw, ymchwilwyr a chlinigwyr wedi&#8217;u gwreiddio ar draws y ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol, un o gryfderau allweddol Canolfan Wolfson. Mae cefnogi datblygiad ymchwilwyr ar wahanol lefelau o&#8217;u gyrfaoedd yn hanfodol bwysig.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2022\/03\/jason-goodman-4-iZ147pSAE-unsplash-scaled.jpg\" alt=\"\" width=\"500\" height=\"337\" \/><\/p>\n<p>Mae&#8217;r cynnwys gwreiddiol isod, a gr\u00ebwyd mewn partneriaeth \u00e2&#8217;r academyddion benyw sy&#8217;n ymddangos ynddo, yn arddangos rhai yn unig o&#8217;r menywod ysbrydoledig y mae Canolfan Wolfson yn ddigon ffodus i&#8217;w cefnogi a helpu i\u2019w datblygu.<\/p>\n<p>Mae <strong>Dr Yulia Shenderovich a Dr Lucy Riglin<\/strong> yn cyd-arwain ffrwd waith drosfwaol y Ganolfan sy&#8217;n canolbwyntio ar sicrhau bod ein timau wedi&#8217;u hyfforddi&#8217;n dda mewn dulliau ymchwil ac arferion gwyddoniaeth agored.<\/p>\n<p>Fel rhan o&#8217;r gwaith hwn, mae Yulia a Lucy hefyd yn sefydlu cyfres ddarlithoedd cyhoeddus Canolfan Wolfson ei hun a fydd yn cael ei lansio ym mis Ebrill eleni- bydd mwy o fanylion am y gyfres yn dod yn fuan iawn!<\/p>\n<p>Cafodd Yulia ei chynnwys yn ddiweddar mewn blog\u00a0Cwrdd \u00e2&#8217;r Ymchwilydd\u00a0<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/meet-the-researcher-dr-yulia-shenderovich\/\">lle gallwch ddysgu mwy am ei diddordebau ymchwil.<\/a><\/p>\n<p>Mae ein cyfres fideo Learn in 5 hefyd wedi cynnwys cymdeithion ymchwilwyr yng Nghanolfan Wolfson ac unwaith eto mae&#8217;n cynnig cyfle i dynnu sylw at y gwaith y mae ymchwilwyr benywaidd yn ei wneud yn eu priod feysydd.\u00a0Nod Learn in 5 yw cyflwyno canfyddiadau allweddol o faes ymchwil neu astudiaethau iechyd meddwl ieuenctid mewn llai na phum munud<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/youtu.be\/MA52qiPOJK0\">ADHD mewn oedolion ag iselder<\/a>rheolaidd \u2013 \ud83c\udf7f\u00a0<strong>Dr Victoria Powell<\/strong>, Cydymaith Ymchwil<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youtu.be\/AoZCUteQhr8\">Taflwybrau iselder mewn pobl<\/a>ifanc \u2013 \ud83c\udf7f\u00a0<strong>Bryony Weavers<\/strong>, myfyriwr PhD Wolfson<\/li>\n<\/ul>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"\" style=\"width: 538px;height: 303px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2022\/03\/Learn-in-5-Vicky-ADHD-and-recurrent-depression.png\" alt=\"Wolfson Centre Learn in 5 video\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2><strong>Gweithio y tu \u00f4l i&#8217;r llenni<\/strong><\/h2>\n<p>Mae angen t\u00eem cymorth cryf sy&#8217;n gweithio y tu \u00f4l i&#8217;r llenni ar ganolfan ymchwil o faint ac ehangder Canolfan Wolfson, i gefnogi&#8217;r gweithgaredd pellgyrhaeddol sy&#8217;n digwydd.<\/p>\n<p>Cefnogir y Ganolfan gan waith t\u00eem Gwasanaethau Proffesiynol sydd i gyd yn fenywod.<\/p>\n<p>Angharad Jones yw Rheolwr y Ganolfan, Emma Meilak yw&#8217;r Swyddog Gweinyddol ac rwyf i, Becs, yn lledaenu a hyrwyddo ymchwil Canolfan Wolfson yn fy r\u00f4l fel Swyddog Cyfathrebu.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r tri ohonom yn cefnogi&#8217;r gwaith o redeg Canolfan Wolfson o ddydd i ddydd, gan gefnogi, trefnu, cynllunio, hwyluso a hyrwyddo canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol newydd, brysur.<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"\" style=\"width: 539px;height: 303px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2022\/03\/WC-PSG-1.png\" alt=\"A graphic showing the Wolfson Professional Services team\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2><strong>Lleisiau ieuenctid<\/strong><\/h2>\n<p>Rhan annatod o ethos Canolfan Wolfson yw sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn ganolog i\u2019r gwaith a wnawn.<\/p>\n<p>Ers cyfarfod cyntaf ein Grwpiau Cynghori Ieuenctid ym mis Medi 2021, rydym wedi cael y pleser o weithio&#8217;n agos gyda phobl ifanc eu hunain sy&#8217;n llywio ac yn cyfeirio nodau a blaenoriaethau ymchwil y Ganolfan.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2022\/03\/a-young-woman-laughs-at-her-laptop.jpg\" alt=\"\" width=\"500\" height=\"333\" \/><\/p>\n<p>Mae grymuso pobl ifanc, yn enwedig menywod ifanc, i sicrhau bod eu lleisiau&#8217;n cael eu clywed yn bwysig iawn i ni. Rydym wrth ein bodd gyda&#8217;r ffordd y mae ein Cynghorwyr Ieuenctid wedi dod \u00e2&#8217;u hangerdd, eu creadigrwydd a&#8217;u gonestrwydd wrth rannu eu profiadau bywyd a&#8217;u meddyliau gyda ni.<\/p>\n<p>Gellir gweld eu gwaith gwych yn glir yn y gwaith rydym wedi&#8217;i greu gyda&#8217;n gilydd, yn fwyaf diweddar ar gyfer <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/reflections-on-a-campaign-growing-together-for-childrens-mental-health-week\/\">Wythnos Iechyd Meddwl Plant<\/a>.<\/p>\n<p>Rydym yn gyffrous i barhau i gydweithio \u00e2&#8217;r bobl ifanc dros y misoedd nesaf.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Gobeithio cewch chi Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod gwych, sut bynnag rydych chi&#8217;n dathlu a gobeithiwn eich bod wedi mwynhau darllen am y menywod gwych sy&#8217;n gweithio yng Nghanolfan Wolfson.<\/strong><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2022\/03\/istockphoto-1302694050-170667a.jpg\" alt=\"\" width=\"500\" height=\"333\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, diwrnod byd-eang i ddathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod ledled y byd. Mae Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn [&hellip;]","protected":false},"author":6846,"featured_media":374,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[82,67],"tags":[116],"class_list":["post-399","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","category-ymgyrchoedd","tag-diwrnod-rhyngwladol-y-menywod"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2022\/03\/istockphoto-1370858710-170667a.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/399","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6846"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=399"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/399\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":401,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/399\/revisions\/401"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/374"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=399"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=399"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=399"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}