{"id":348,"date":"2021-11-18T13:18:03","date_gmt":"2021-11-18T13:18:03","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=348"},"modified":"2022-04-13T13:37:30","modified_gmt":"2022-04-13T13:37:30","slug":"astudiaeth-gydweithredol-yn-dangos-canfyddiadau-newydd-ynglyn-ag-adhd-mewn-oedolion-ifanc","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/astudiaeth-gydweithredol-yn-dangos-canfyddiadau-newydd-ynglyn-ag-adhd-mewn-oedolion-ifanc\/","title":{"rendered":"Astudiaeth gydweithredol yn dangos canfyddiadau newydd yngl\u0177n ag ADHD mewn oedolion ifanc"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae&#8217;r Athro Anita Thapar yn arwain yr adran Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol (DPMCN) a&#8217;r ffrwd waith ymchwil geneteg yng Nghanolfan Wolfson ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Yma, mae&#8217;r Athro Thapar yn ysgrifennu am ganfyddiadau diweddaraf y t\u00eem ar Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).<\/strong><\/p>\n<h2>Cyflwyniad<\/h2>\n<p>Rydym yn gwybod bod ADHD yn effeithio ar oedolion ac nid ar blant yn unig, fodd bynnag, nid ydym yn gwybod llawer am y cyfnod pontio rhwng 16 a 25 oed.<\/p>\n<p>Roedd ein hastudiaeth ymchwil, \u2018Anhwylderau Niwroddatblygiadol: Beth sy\u2019n digwydd pan mae plant yn tyfu i fyny a pham?\u2019 yn canolbwyntio ar hyn gyda\u2019r nod o helpu i ddeall ADHD mewn oedolion ifanc.<\/p>\n<p>Mewn prosiect cydweithredol gydag Uned Epidemioleg Integreiddiol y Cyngor Ymchwil Feddygol ym Mhrifysgol Bryste, a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome, gwnaethom edrych ar symptomau ADHD mewn gr\u0175p o filoedd o bobl ifanc 25 oed a ddilynwyd yn rheolaidd ers iddynt gael eu geni.<\/p>\n<h2>Sut beth yw ADHD i bobl 25 oed?<\/h2>\n<p>Rydym yn gwybod bod gorgyffwrdd rhwng ADHD mewn plentyndod ac anawsterau dysgu a datblygiadol eraill, felly gofynnwyd y cwestiwn: A yw hynny\u2019n debyg i oedolion?<\/p>\n<p>Erbyn 25 oed, roedd ADHD \u00e2 diffiniad eang yn dal i orgyffwrdd \u00e2 nodweddion anhwylder sbectrwm awtistiaeth, anawsterau cyfathrebu ac o ran perfformiad yr ymennydd mewn tasgau. Yn union fel yn ystod plentyndod, roedd y gorgyffwrdd i\u2019w weld yn rhywbeth \u2018niwroddatblygiadol\u2019.<\/p>\n<h2>A oes gan rieni oedolion rywbeth defnyddiol i\u2019w gyfrannu?<\/h2>\n<p>I gael diagnosis o ADHD mae angen i\u2019r symptomau ymddangos cyn mae\u2019r unigolyn yn 12 oed.<\/p>\n<blockquote><p>Fodd bynnag, mae ein canfyddiadau yn awgrymu nad yw hynny\u2019n wir i bawb ac nad yw pobl bob amser yn cofio\u2019n gywir pryd dechreuodd eu symptomau.<\/p><\/blockquote>\n<p>Ffactor arall sy\u2019n cymhlethu\u2019r sefyllfa yw bod llawer o ymchwil, gan gynnwys ein hymchwil ni, yn awgrymu bod ADHD wedi ymddangos am y tro cyntaf i rai pobl yn eu harddegau neu fel oedolyn.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2021\/11\/pexels-keira-burton-6147076-scaled.jpg\" width=\"670\" height=\"447\" \/><\/p>\n<p>Yn ein hastudiaeth roedd hyn yn dal i edrych fel ADHD o ran cysylltiadau \u00e2 geneteg, ond roedd mwy o fenywod (o gymharu ag ADHD a wnaeth ymddangos yn ystod plentyndod hefyd) ac yn \u00f4l pob golwg mae\u2019r gr\u0175p hwn wedi cael ei \u2018warchod\u2019 gan fwy o adnoddau cymdeithasol a theuluol.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, mae gwyddonwyr yn ansicr beth yw\u2019r ADHD hwn sy\u2019n codi\u2019n ddiweddarach.<\/p>\n<h2>Beth am anawsterau o ran iechyd meddwl ac addysg?<\/h2>\n<p>Gwelsom fod cysylltiad rhwng ADHD yn ystod plentyndod ac iselder yn ddiweddarach mewn oes, a bod hyn yn \u00f4l pob golwg yn dechrau\u2019n gynnar ac yn parhau neu\u2019n codi eto.<\/p>\n<p>Gan ddefnyddio geneteg, awgrymodd ein hastudiaeth hefyd mai ADHD oedd yn achosi iselder mewn rhai pobl yn ddiweddarach yn eu hoes. Mae hyn yn golygu y gallai rhai pobl ag iselder fod ag ADHD heb fod yn ymwybodol ohono.<\/p>\n<h2>A beth am iechyd corfforol?<\/h2>\n<p>Yn olaf, mae diddordeb cynyddol mewn cysylltiadau rhwng ADHD ac iechyd corfforol.<\/p>\n<p>Gan ddefnyddio geneteg, gwelsom fod posibilrwydd bod ADHD yn achosi gordewdra yn ystod plentyndod a chlefyd y rhydwel\u00efau coronaidd.<\/p>\n<p>Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw meddwl am iechyd corfforol a meddyliol mewn pobl sydd ag ADHD yn ystod plentyndod, yn eu harddegau, ac fel oedolyn.<\/p>\n<p><strong>Y t\u00eem ymchwil:<\/strong><\/p>\n<p>Anita Thapar, Evie Stergiakouli, Lucy Riglin, Kate Tilling, Beate Lepert,\u00a0 Kate Langley, Sharifah Agha, Ajay Thapar, Stephan Collishaw, \u00a0George Davey Smith.<\/p>\n<h2>Cyfeirnodau<\/h2>\n<ul>\n<li>Riglin L, Leppert B, Langley K, Thapar AK, O\u2019Donovan MC, Davey Smith G, Stergiakouli E, Tilling K, Thapar A (2021)\u00a0<a href=\"https:\/\/pubmed.ncbi.nlm.nih.gov\/32663329\/\"><em>Investigating attention-deficit hyperactivity disorder and autism spectrum disorder traits in the general population: What happens in adult life?<\/em><\/a>, J Child Psychol Psychiatry 62(4):449-457<\/li>\n<li>Riglin L, Blakey R, Langley K, Thapar AK, Agha SS, Davey Smith G, Stergiakouli E, Thapar A (2021)\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cambridge.org\/core\/journals\/the-british-journal-of-psychiatry\/article\/abs\/assessment-of-ageatonset-criterion-for-adult-attentiondeficit-hyperactivity-disorder\/B9CE692ED9B11CFF9D29BEDF2D62E704\"><em>Assessment of age-at-onset criterion for adult attention-deficit hyperactivity disorder<\/em><\/a>, British Journal of Psychiatry. Online \u00a0publication<\/li>\n<li>Leppert B, Riglin L, Wootton RE, Dardani C, Thapar A, Staley JR, Tilling K, Smith GD, Thapar A<strong>,<\/strong>\u00a0Stergiakouli E. (2021)\u00a0<a href=\"https:\/\/pubmed.ncbi.nlm.nih.gov\/33324987\/\"><em>The Effect of ADHD on Physical Health Outcomes<\/em><\/a>\u00a0\u2013 A 2-Sample Mendelian Randomization Study. Am J Epidemiol. 190, 6, 1047\u20131055<\/li>\n<li>Riglin L, Leppert B, Dardani C, Thapar AK, Rice F, O\u2019Donovan MC, Davey Smith G, Stergiakouli E, Tilling K, Thapar A. (2020)\u00a0<em><a href=\"https:\/\/pubmed.ncbi.nlm.nih.gov\/32249726\/\">ADHD and depression: investigating a causal explanation<\/a>,<\/em>\u00a0Psychol Med. 6:1-8.<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae'r Athro Anita Thapar yn arwain yr adran Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol (DPMCN) a'r ffrwd waith ymchwil geneteg yng Nghanolfan Wolfson [&hellip;]","protected":false},"author":6846,"featured_media":50,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[84],"tags":[95,61,86],"class_list":["post-348","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ymchwil","tag-adhd-cy","tag-iechyd-meddwl-ieuenctid","tag-ymchwil-iechyd-meddwl"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2021\/11\/pexels-keira-burton-6147076-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/348","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6846"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=348"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/348\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":350,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/348\/revisions\/350"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/50"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=348"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=348"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=348"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}