{"id":346,"date":"2021-10-25T11:02:32","date_gmt":"2021-10-25T11:02:32","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=346"},"modified":"2022-04-13T13:37:31","modified_gmt":"2022-04-13T13:37:31","slug":"cyfarfodydd-grwpiau-cynghori-ieuenctid-yn-cychwyn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/cyfarfodydd-grwpiau-cynghori-ieuenctid-yn-cychwyn\/","title":{"rendered":"Cyfarfodydd grwpiau cynghori ieuenctid yn cychwyn"},"content":{"rendered":"<p class=\"lead\"><strong>Mae&#8217;r ddau Gr\u0175p Cynghori Ieuenctid newydd wedi dechrau cyfarfod ar-lein yng Nghanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson.<\/strong><\/p>\n<p>Mae&#8217;r grwpiau&#8217;n cynnwys pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sydd \u00e2 phrofiad o fyw gydag iechyd meddwl, sydd wedi gwirfoddoli i gynorthwyo, arwain a gwerthuso&#8217;r ymchwil iechyd meddwl ieuenctid a gynhelir yng Nghanolfan Wolfson.<\/p>\n<p>Dywedodd Emma Meilak o Ganolfan Wolfson, hwylusydd y gr\u0175p: &#8220;Ym mis Medi cynhaliwyd ein cyfarfodydd rhithwir cyntaf o&#8217;r Gr\u0175p Cynghori Ieuenctid ac rydym ni wrth ein bodd gyda&#8217;r sesiynau hyd yn hyn.<\/p>\n<p>&#8220;Mae ein grwpiau wedi&#8217;u rhannu&#8217;n ddau, gyda gr\u0175p iau yn cynnwys rhai rhwng 14 a 18 oed a&#8217;r ail gr\u0175p yn cynnwys pobl ifanc h\u0177n rhwng 19 a 25. Rydyn ni mor ddiolchgar i holl aelodau&#8217;r gr\u0175p am eu brwdfrydedd a&#8217;u cyfraniadau hyd yma.&#8221;<\/p>\n<p>Roedd y cyfarfod cyntaf yn gyfle i gyflwyno&#8217;r bobl ifanc i&#8217;r Ganolfan a chroesawu aelodau&#8217;r gr\u0175p, gan alluogi&#8217;r grwpiau i ddod i adnabod ei gilydd a th\u00eem y Ganolfan, yn ogystal \u00e2 gosod rheolau sylfaenol ar gyfer y sesiynau o\u2019r dechrau. Roedd sesiwn mis Hydref yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc ar iechyd y cyhoedd a dulliau ymchwil ac yn eu cyflwyno i&#8217;w darn cyntaf o ymchwil Wolfson i&#8217;w ddadansoddi: pecyn cymorth iechyd meddwl i ysgolion, a gynlluniwyd gan Dr Olga Eyre.<\/p>\n<p>Yn dilyn y sesiwn, dywedodd un o&#8217;r Cynghorwyr Ieuenctid newydd: &#8220;Rwyf i wir eisiau rhannu fy mhrofiadau er mwyn gwella ymchwil ac ansawdd y gofal y gall lleoedd ei ddarparu. Rwy&#8217;n angerddol iawn am y peth ac mae gen i ddiddordeb yn y ffordd mae ymchwil iechyd meddwl yn gweithio mewn bywyd go iawn ar \u00f4l ei astudio fel rhan o fy ngradd.&#8221;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cardiff.imgix.net\/__data\/assets\/image\/0009\/2576925\/My-motivation-for-joining-is-because-I-want-to-make-a-positive-difference-to-the-lives-of-young-people-who-have-had-experiences-with-mental-health,-like-us..png?w=575&amp;ar=16:9\" alt=\"Motivation for joining Wolfson YAG quote from Young Person\" width=\"575\" height=\"323\" \/><\/p>\n<p>Gorffennodd Emma trwy ddweud: &#8220;Mae pawb yn llawn cyffro i weld sut y bydd ein grwpiau cynghori ieuenctid yn tyfu ac yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Mae cyd-gynhyrchu a chydweithio wrth wraidd yr hyn rydyn ni am ei wneud yma yng Nghanolfan Wolfson a bydd ein grwpiau cynghori yn sicrhau ein bod yn cynnwys lleisiau a phrofiadau pobl ifanc ar bob cam o&#8217;n hymchwil.&#8221;<\/p>\n<p>Mae Grwpiau Cynghori Ieuenctid Canolfan Wolfson yn cyfarfod ar-lein bob mis. Caiff cyfleoedd i ymuno \u00e2&#8217;r grwpiau cynghori eu hysbysebu ar ddechrau pob tymor ar wefan y Ganolfan ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol.<\/p>\n<p>Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Gr\u0175p Cynghori Ieuenctid neu fynegi diddordeb mewn ymuno, anfonwch ebost i\u00a0<a href=\"mailto:wolfsonyoungpeople@cardiff.ac.uk\">wolfsonyoungpeople@caerdydd.ac.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae'r ddau Gr\u0175p Cynghori Ieuenctid newydd wedi dechrau cyfarfod ar-lein yng Nghanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson. Mae'r grwpiau'n cynnwys pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sydd \u00e2 phrofiad [&hellip;]","protected":false},"author":6846,"featured_media":121,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[71,82],"tags":[88,59,86],"class_list":["post-346","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-lleisiau-ieuenctid","category-newyddion","tag-digwyddiadau","tag-lleisiau-ieuenctid","tag-ymchwil-iechyd-meddwl"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2021\/11\/Young-person-with-pink-works-at-laptop.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/346","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6846"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=346"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/346\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":347,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/346\/revisions\/347"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/121"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=346"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=346"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=346"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}