{"id":335,"date":"2021-11-05T11:22:04","date_gmt":"2021-11-05T11:22:04","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=335"},"modified":"2022-04-13T13:37:30","modified_gmt":"2022-04-13T13:37:30","slug":"335-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/335-2\/","title":{"rendered":"Cwrdd \u00e2&#8217;r ymchwilydd: Dr Chris Eaton"},"content":{"rendered":"<h3 class=\"lead\">Mae Canolfan Wolfson wedi croesawu cydweithiwr ymchwil newydd, fydd yn gweithio ar draws y Ganolfan a Llywodraeth Cymru.<\/h3>\n<p>Bydd Dr Chris Eaton, a ymunodd \u00e2&#8217;r t\u00eem ym mis Mawrth 2021, yn gweithio ar draws y Ganolfan a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod blaenoriaethau polisi&#8217;r llywodraeth ar gyfer iechyd meddwl ieuenctid yn llywio ymchwil y Ganolfan, ac yn ei thro y gall ymchwil y Ganolfan gyfrannu at ddatblygu polisi a gwerthuso cenedlaethol yn y maes hwn.<\/p>\n<p>Cwblhaodd Dr Eaton ei PhD yn y\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/mrc-centre-neuropsychiatric-genetics-genomics\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">MRC CNGG<\/a>\u00a0yn 2019. Yn dilyn swyddi \u00f4l-ddoethurol yn Birmingham a Chaeredin, mae Chris wedi dychwelyd i&#8217;r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ac mae eisoes yn edrych ymlaen ddechrau ar waith yn y Ganolfan.<\/p>\n<p>Mae ei ddiddordebau ymchwil ehangach yn cynnwys archwilio mynychder, a ffactorau risg ar gyfer problemau iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc \u00e2 chanlyniadau niwroddatblygiadol megis awtistiaeth, anabledd deallusol ac epilepsi. Mae gan Chris ddiddordeb arbennig mewn gwella dealltwriaeth o arwyddion a symptomau iselder mewn pobl ifanc ag anhwylderau niwroddatblygiadol a&#8217;r ffordd orau o asesu a thrin iselder yn y plant a&#8217;r glasoed hyn.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/https:\/\/youtu.be\/8a3robsH2Ks\">http:\/\/https:\/\/youtu.be\/8a3robsH2Ks<\/a><\/p>\n<p>Dywedodd Dr Eaton, \u201cMae iechyd meddwl gwael ymysg pobl ifanc yn gysylltiedig \u00e2 chanlyniadau negyddol ar draws llawer o wahanol feysydd yn eu bywydau. Mae ymchwil i achosion problemau iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc yn hanfodol, ynghyd ag astudiaethau sy&#8217;n ystyried beth yw&#8217;r ffordd orau i atal a thrin yr anawsterau hyn.<\/p>\n<p>\u201cMae ymchwil yn y meysydd hyn yn arbennig o bwysig o ystyried yr aflonyddwch a\u2019r newidiadau enfawr y mae pobl ifanc wedi\u2019u profi yn ystod pandemig COVID-19.\u00a0Mae Canolfan Wolfson yn canolbwyntio ar gynnal ymchwil i wella dealltwriaeth o&#8217;r ffactorau risg ar gyfer iselder a phryder ieuenctid, canlyniadau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;r anhwylderau hyn a&#8217;r ffordd orau i gefnogi a gwella iechyd meddwl ieuenctid. Rwy&#8217;n edrych ymlaen yn fawr at gyfrannu at y gwaith pwysig mae&#8217;r Ganolfan yn ei gynllunio.&#8221;<\/p>\n<p>\u201cUn o\u2019r heriau allweddol,\u201d parhaodd Dr Eaton, \u201cyw sut mae hybu iechyd meddwl da mewn pobl ifanc o oedran ifanc ac adeiladu gwytnwch.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cRhaid i ni sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar atal, er mwyn gostwng nifer y bobl ifanc sy&#8217;n datblygu anawsterau iechyd meddwl difrifol.<\/p><\/blockquote>\n<p>&#8220;Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafwyd symudiad cymdeithasol gwirioneddol at well cydnabyddiaeth nad yw anawsterau iechyd meddwl yn wendid nac yn rhywbeth fod \u00e2 chywilydd ohono. Mae hyn yn bwysig er mwyn caniat\u00e1u i bobl ifanc sy&#8217;n profi problemau iechyd meddwl geisio cymorth a chael y gofal sydd ei angen arnynt.<\/p>\n<p>\u201cBydd fy r\u00f4l yn gweithio ar draws Canolfan Wolfson a Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau y gall yr ymchwil sy\u2019n dod o\u2019r Ganolfan gyfrannu at newid sylweddol yn y polisi ar iechyd meddwl ieuenctid a&#8217;i bod yn berthnasol yn uniongyrchol i fywydau pobl ifanc sy\u2019n profi problemau iechyd meddwl. Gydag un o bob pum person ifanc yng Nghymru yn profi lefelau uchel o anawsterau iechyd meddwl cyn pandemig COVID-19, ni fu erioed yn bwysicach cynnal ymchwil i iechyd meddwl pobl ifanc.&#8221;<\/p>\n<h1 class=\"profile-title fn\">Chris Eaton<\/h1>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"https:\/\/i1.rgstatic.net\/ii\/profile.image\/745754247303183-1554813076619_Q512\/Christopher-Eaton-3.jpg\" alt=\"Christopher EATON | Research Associate | PhD | Cardiff University, Cardiff | CU | Institute of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences\" width=\"127\" height=\"127\" \/><\/p>\n<p class=\"profile-subtitle\"><a href=\"mailto:eatoncb@cardiff.ac.uk\">eatoncb@cardiff.ac.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Canolfan Wolfson wedi croesawu cydweithiwr ymchwil newydd, fydd yn gweithio ar draws y Ganolfan a Llywodraeth Cymru. Bydd Dr Chris Eaton, a ymunodd \u00e2'r t\u00eem ym mis Mawrth 2021, [&hellip;]","protected":false},"author":6846,"featured_media":18,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[74],"tags":[76,61,79],"class_list":["post-335","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cwrdd-ar-ymchwilydd","tag-cwrdd-ar-ymchwilydd","tag-iechyd-meddwl-ieuenctid","tag-ymchwil-iechyd-meddwl-ieuenctid"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2021\/11\/aaron-burden-QJDzYT_K8Xg-unsplash-2.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/335","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6846"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=335"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/335\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":339,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/335\/revisions\/339"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=335"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=335"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=335"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}