Newyddion yr Is-Ganghellor




Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff

Posted on 10 Medi 2020 by Colin Riordan

Annwyl gydweithiwr, Wrth i’r tymor newydd nesáu, ro’n i am rannu rhai syniadau am sut rydym yn bwriadu cael myfyrwyr ar y campws, a’r strategaeth ddysgu cyfunol fydd yn golygu bod pob myfyriwr yn cael cyfleoedd rheolaidd i gael addysgu wyneb yn wyneb, er y bydd llawer o’r dosbarthiadau’n cael eu haddysgu ar-lein hefyd. Heriau
Read more


Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff

Posted on 25 Awst 2020 by Colin Riordan

Annwyl gydweithiwr, Fel y dywedodd cydweithiwr wrthyf yn gynt y mis hwn, ‘2020 yw’r rhodd sy’n parhau i roi’. Mae’r tro pedol dramatig ar o ran graddau Safon Uwch a ddigwyddodd wrth i’r prif gyfnod cadarnhau a chlirio gau wedi cyflwyno lefel rhyfeddol o ansicrwydd a symud mewn prifysgolion ar draws y DU. O ystyried
Read more


Neges gan yr Is-Ganghellor

Posted on 22 Gorffennaf 2020 by Colin Riordan

Annwyl gydweithiwr, Yr hyn sydd bron mor annisgwyl â’r newidiadau dramatig a achoswyd gan COVID-19 yw’r ffyrdd y mae elfennau o fywyd academaidd wedi mynd rhagddynt fel y byddent mewn unrhyw flwyddyn arall, er bod hynny wedi digwydd mewn ffyrdd gwahanol a thrwy ddulliau amgen ar adegau. Mae asesiadau israddedig wedi’u cwblhau, mae byrddau arholi
Read more


Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff

Posted on 30 Mehefin 2020 by Colin Riordan

Annwyl gydweithiwr, Diben Prifysgolion yw creu a rhannu gwybodaeth, er budd pawb. Mae hwn yn ddatganiad clir o’n diben ac ar yr un pryd yn ddisgrifiad gor-syml o’n gweithgaredd. Rwy’n petruso rhag archwilio’r goblygiadau athronyddol; gallem ystyried yn fanwl yr hyn mae gwybodaeth yn ei olygu, a yw’n cael ei chreu a sut, beth yw
Read more


Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff

Posted on 18 Mehefin 2020 by Colin Riordan

Annwyl gydweithiwr, Fel y byddech wedi’i ddisgwyl, argyfwng y coronafeirws gafodd y prif sylw yn fy ebost ar 7 Mai 2020, ond nodais hefyd nad yw’r pandemig yn golygu y dylem anwybyddu materion eraill oedd eisoes yn bodoli ac yn peri llawer o ofid megis cydraddoldeb hiliol. Lai na thair wythnos yn ddiweddarach, ar 25
Read more


Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff

Posted on 4 Mehefin 2020 by Colin Riordan

Annwyl gydweithiwr, Mewn ebyst a fideos blaenorol, rwyf wedi esbonio ein bod yn y sefyllfa anffodus o orfod cynllunio ar gyfer diffyg sylweddol yn ein cyllideb ym mlwyddyn academaidd ac ariannol 2020-21, sy’n dechrau ar 1 Awst. Hoffwn ddweud rhagor wrthych am hynny, ar sail ba dybiaethau yr ydym yn rhagweld y bydd diffyg, a
Read more


Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff

Posted on 29 Mai 2020 by Colin Riordan

Annwyl gydweithiwr, Wrth i ddiwedd mis arall o’r cyfyngiadau symud ddod yn nes, o leiaf mae rhyw obaith y bydd y rheoliadau presennol yn cael eu llacio rywfaint. Wedi dweud hyn, does dim amheuaeth y bydd ychydig o amser eto nes i ni weld sefyllfa debyg i’r amodau cyn-Covid. Wrth i’r feirws ddechrau cael ei
Read more