Newyddion yr Is-Ganghellor

Wcráin, yr ymateb i Adroddiad Augar, Taith

Annwyl gydweithiwr,

Wrth imi ysgrifennu’r ebost hwn, mae lluoedd milwrol Rwsia yn goresgyn rhannau helaeth o’r Wcráin. Er nad oes gennym staff na myfyrwyr ar fusnes sy’n ymwneud â’r Brifysgol, yn yr ardaloedd lle mae’r ymosodiadau yn digwydd, mae gennym gydweithwyr a myfyrwyr o’r ddwy wlad yng Nghaerdydd, ac rydym yn cynnig ein cefnogaeth iddynt. Mae’n rhaid bod y pryder a’r gofid i’r bobl hynny sydd â theulu a ffrindiau sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan hyn holl, yn annioddefol. Felly, mae’n gyfrifoldeb arnon ni bob un i fod mor gefnogol ag y gallwn yn yr amgylchiadau annirnadwy hyn. Mae’n werth cofio pwynt yr wyf wedi’i wneud yn aml mewn cyd-destunau eraill, sef nad yw gweithredoedd llywodraethau, nac yn wir y manylion ynghylch unrhyw wrthdaro, yn bethau y gellir beio dinasyddion gwledydd penodol amdanynt dim ond ar sail eu dinasyddiaeth neu eu cysylltiadau. Rydym am gefnogi unrhyw un sy’n cael ei effeithio, os ydynt am gysylltu â ni, ac rydym yn cymryd camau i gysylltu’n uniongyrchol ag unrhyw aelod staff neu fyfyriwr y gallai fod angen cefnogaeth a chyngor arnynt. Mae’r gwrthdaro hwn –  sy’n peri cymaint o ofid, wedi bod yn datblygu ers wyth mlynedd bellach, neu ers rhagor o amser, os ystyrir lleoedd eraill megis Georgia, ac mae hyn wedi bod ar ddigwydd ers peth amser. Fodd bynnag, mae’n amhosibl gwadu bod gweld y cyfan yn digwydd nawr, yn sioc aruthrol. Mae’n amhosibl gwadu hefyd bod gwrthdaro ag ymosodiadau ar y raddfa hon yn gwbl drychinebus. Mae’r gost ddynol, sydd eisoes yn uchel, yn codi’n gyflym. Mae’n amhosibl dweud pa effaith y gallai’r rhyfel hwn ei chael ar gysylltiadau rhyngwladol, yr economi, yn ogystal ag ar fywydau a bywoliaeth dinasyddion ym mhell y tu hwnt i’r rhanbarth yn y pen draw. Gallwn fod yn sicr, fodd bynnag, y bydd effaith andwyol hyn yn ddifrifol, a bydd i’w theimlo yma ac mewn mannau eraill am flynyddoedd lawer.

Gan edrych ar faterion polisi addysg uwch yma, mae llywodraeth y DU o’r diwedd wedi cyhoeddi ei hymateb i Adroddiad Augar bron dair blynedd ar ôl ei dderbyn. Efallai y byddwch yn cofio mai bwriad gwreiddiol llywodraeth Theresa May, wrth gomisiynu’r ymchwiliad hwn i gyllid prifysgolion a chymorth i fyfyrwyr yn Lloegr, bwriad a gafodd lawer o sylw (er nad yw wedi’i gadarnhau’n gyhoeddus), oedd lleihau’r cap ffioedd i £7500 a dargyfeirio rhagor o arian i addysg alwedigaethol. Bu i’r gostyngiad yn y cap ar ffioedd ymddangos, fel y dylai hefyd, yn yr adroddiad terfynol, (er nad yw cadeirydd yr ymchwiliad, Philip Augar, bellach yn cefnogi’r mesur), ond nid yw’n ymddangos yn ymateb y llywodraeth. Yn hytrach, bydd ffioedd cartref yn Lloegr yn parhau i gael eu capio ar £9250 am ddwy flynedd arall. O ystyried y gallwn ddisgwyl i’r gyfradd chwyddiant godi yn ystod y cyfnod hwnnw, mae hyn yn debygol o fod yn ostyngiad mewn termau real o 10% o leiaf, ac yn ostyngiad mwy sylweddol na hynny yn fwy na thebyg. Hoffwn nodi fod yr esgid fach yn gwasgu hyd yn oed yn fwy yng Nghymru. Nid ydym wedi cael unrhyw gynnydd yn y cap ffioedd o £9000 ar gyfer myfyrwyr sy’n hanu o’r DU ers cyflwyno’r system yn 2012, ac mae chwyddiant eisoes wedi lleihau pŵer prynu’r swm hwnnw i ychydig dros £7000 mewn termau real. Bydd yn amlwg yn is na hynny os na fydd dim yn newid am y ddwy flynedd nesaf, ac os na fydd llywodraeth Cymru yn gweithredu argymhellion Adolygiad Diamond ac Adolygiad Reid yn llawn, bydd y cyllid ar gyfer prifysgolion Cymru yn dod yn fwyfwy annigonol.

Ond yn ôl at ymateb Augar: y tu hwnt i’r mater ariannu, mae llywodraeth y DU yn amlwg yn bwriadu dad-wneud y newidiadau a gyflwynwyd yn ystod y 2000au drwy gyflwyno mesurau i gyfyngu ar y niferoedd sy’n cymryd rhan mewn addysg uwch yn Lloegr. Bydd yn ddiddorol arsylwi ar yr ymgynghoriad ar ailgyflwyno mesurau rheoli niferoedd myfyrwyr, yn enwedig sut caiff y mesurau rheoli hyn eu gweithredu yn absenoldeb y system grantiau bloc a arferai fodoli drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, sydd bellach wedi dod i ben. Bydd ymgynghoriad hefyd yn cael ei gynnal ynghylch gosod gofynion cymhwyster gofynnol – Mathemateg a Saesneg fydd y rhain yn ôl pob tebyg – ar yr ymgeiswyr hynny sydd angen gwneud cais am fenthyciad myfyriwr. Ar wahân i’r cwestiwn ynghylch sut yn union y byddai’r gofynion hynny’n cael eu pennu a chan bwy (gan nad oedd modd ateb y cwestiynau hyn pan gawsant eu cynnig yn wreiddiol gan adolygiad Browne yn 2010, ni chawsant eu derbyn), mae’n amlwg y bydd hyn yn effeithio ar degwch: mae’n debyg, ar yr olwg gyntaf, na fyddai ymgeiswyr o gefndir cyfoethocach nad ydynt angen gwneud cais am fenthyciad myfyriwr, yn cael eu heffeithio gan y cyfyngiad hwn. Pan oeddwn yn gwneud cais am le yn y brifysgol yn y 1970au roedd angen i bawb fod â chymhwyster sylfaenol mewn Mathemateg a Saesneg, mae hyn yn ymddangos ychydig yn decach o leiaf, er bod cwestiynau ynghylch cyfle cyfartal yn parhau serch hynny. Nid yw’n glir ar hyn o bryd sut bydd canlyniad yr ymgynghoriadau hyn yn effeithio ar Gymru ond bydd angen eu hystyried maes o law.

Mae’r ymateb hefyd yn canolbwyntio ar fforddiadwyedd y system fenthyciadau i’r Trysorlys ac i raddedigion, o leiaf o ran cyfraddau llog, gan gynnig, fel y mae’n ei wneud, gwneud gostyngiad yn y gyfradd llog ond gosod trothwy ad-dalu newydd o £25000 y flwyddyn. Byddai ymestyn y cyfnod ad-dalu i ddeugain mlynedd—ni fyddai angen ad-dalu unrhyw ddyled sy’n weddill y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw—yn gwneud y system mor debyg i system drethu graddedigion, nes bod yn rhaid i rywun ofyn a fyddai treth briodol ar raddedigion sy’n gymwys i’w dalu, yn fwy perthnasol, ac oni fyddai hynny’n system decach? Byddai unrhyw newidiadau o’r fath yn amlwg yn effeithio ar gyfranogiad Llywodraeth Cymru yn y cynllun a byddai angen eu hystyried yn ofalus yma hefyd.

Gan symud at fater arall, roedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i ariannu’r hyn a elwid yn wreiddiol yn Rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol, i’w chynnal gan Brifysgol Caerdydd, yn un i’w groesawu’n fawr, ac mae’r penderfyniad yn un sy’n haeddu clod o ran y weledigaeth y tu ôl iddi. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn i greu’r rhaglen, a elwir bellach yn Taith, o dan arweiniad cadarn Cadeirydd y Bwrdd Cynghori, Kirsty Williams, y cyn-Weinidog Addysg. Mae Taith bellach ar fin cael ei chyflwyno a bydd ceisiadau am leoliadau symudedd yn agor fis nesaf. Mae’r gwaith enfawr hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r sectorau eraill, yn enwedig ysgolion, colegau a’r sector gwirfoddol, ac rwyf am gydnabod y gwaith rhagorol a wneir gan gydweithwyr yng Nghaerdydd yn hyn o beth. Fel bob amser, bu’n ymdrech gan dîm o bobl ond hoffwn ddiolch yn arbennig i Elid Morris, Eevi Laukkanen a Cerys Bartlett am arwain y prosiect, yn ogystal â Nabil Ali, Emily Daly a Huw Morris sydd wedi gwneud gwaith rhagorol yn ymgynghori â’r sector a drafftio polisi. Mae Rose Matthews wedi chwarae rhan allweddol yn y dasg o lunio’r prosiect ac mae cefnogaeth Sunita Farnham wedi bod yn amhrisiadwy. Ni allaf bwysleisio digon, ba mor bwysig yw sicrhau llwyddiant Taith, i Gymru, yn ogystal â’r rheiny fydd yn cymryd rhan yma fydd yn yng Nghymru a’n partneriaid rhyngwladol. Byddaf yn siŵr o roi’r newyddion diweddaraf ichi, ac yn y cyfamser rwy’n falch o groesawu Susana Galván o’r Cyngor Prydeinig yn Gyfarwyddwr Gweithredol. Bydd profiad Susana o gymorth enfawr, ac rwy’n hyderus y bydd y rhaglen wych hon yn trawsnewid llawer o fywydau yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Yn olaf, gan aros â’r thema ryngwladol, mae ein cysylltiad â Horizon Europe, fel un y Swistir, yn parhau i fod yn aneglur. Fel rwy wedi dweud o’r blaen, mae’n bolisi gan y llywodraeth bod y DU yn parhau i gyfrannu, ac mae’r Trysorlys wedi sicrhau bod y cyllid gofynnol — sy’n filiynau bob blwyddyn — ar gael. Roeddem yn barod i gyd-drafod â hwy dros flwyddyn yn ôl; mae’r oedi yn dod o du’r UE. Nid yw’r UE yn dymuno bwrw ymlaen nes bydd cwestiwn protocol Gogledd Iwerddon wedi’i ddatrys. Mae’r Swistir mewn sefyllfa debyg am resymau gwahanol ond cyfatebol. Mae ymgyrch y mae Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan ynddi wedi’i lansio — i berswadio’r gwahanol bleidiau y dylid datgysylltu’r cwestiwn hwn oddi wrth gwestiynau gwleidyddol ehangach ac, y dylai ceisio gwybodaeth, a’r buddion mae’n hynny’n ei roi i gymdeithas, fod yn llawer pwysicach nag anghytundebau o’r fath. Os hoffech wybod rhagor, enw’r ymgyrch yw  Stick to Science  ac mae modd i unigolion gofrestru; rwyf wedi gwneud hynny fy hun.

 

Dymuniadau gorau

 

Colin Riordan

Is-Ganghellor