Newyddion yr Is-Ganghellor

Lefel rhybudd 0, ymchwil catalysis, ceisiadau am gyllid ar gyfer ymchwil

Annwyl gydweithiwr

Mae fy ebost y mis hwn yn cyd-fynd â’r cyhoeddiad y bydd Cymru’n symud yn ôl i ‘lefel rhybudd 0’ o 28 Ionawr ymlaen. Ar lefel ymarferol, mae hyn yn golygu nad oes unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar faint o bobl sy’n cael cwrdd, ac mae’r gofynion hunanynysu ychydig yn llai llym. Hefyd, does dim angen cadw pellter cymdeithasol, er ei fod yn cael ei argymell os yw’n briodol. Anogir pobl i weithio gartref lle bo’n bosibl, ond nid yw’n ofynnol, ac mae angen gwisgo gorchuddion wyneb o hyd mewn lleoliadau dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Golyga hyn y dylai staff a myfyrwyr barhau i wisgo mwgwd ym mhob man cyhoeddus dan do yn y Brifysgol, gan gynnwys yr holl ystafelloedd addysgu, wrth gwrs. Hefyd, ry’n ni’n disgwyl i fygydau gael eu gwisgo mewn coridorau a mannau nad ydynt yn agored i’r cyhoedd, ac ym mhob man arall lle nad oes modd cadw pellter corfforol.

Mae hi hefyd yn werth nodi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnal sesiynau galw heibio sy’n cynnig brechlynnau a hwblynnau mewn fferyllfeydd yng Nghaerdydd. Felly, gallai fod o ddefnydd i chi barhau i roi gwybod i’r myfyrwyr am y rhain. Beth mae hyn yn ei olygu yn gyffredinol yw ein bod ni fwy neu lai yn ôl i’r sefyllfa yr oeddem ynddi cyn i Omicron gyrraedd. Er bod y cyfraddau heintiau yn uchel o hyd, maen nhw wedi gostwng yn sylweddol ers uchafbwynt y don. Yn anad dim, mae’r goblygiadau o ran pobl yn gorfod mynd i’r ysbyty, salwch difrifol a marwolaethau yn llawer llai difrifol na thonnau blaenorol. Bydd yr amserlen addysgu a gynlluniwyd ar gyfer y semester hwn yn gallu parhau yn ôl y disgwyl, ac rwy’n gwybod bod addysgu eisoes yn mynd rhagddo mewn rhai meysydd ers dechrau’r mis.

Gan droi at newyddion arall, mae Sefydliad Catalysis Caerdydd wedi torri tir newydd a allai ymddangos yn esoterig ar un olwg, ond mewn gwirionedd, mae’n addawol dros ben o ran sut i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chyflawni sero net. Nid yw datrysiadau technolegol yn cynnig ateb i bob dim o bell ffordd, ond mae ganddynt rôl bwysig dros ben. Dyna pam mae Sefydliad Catalysis Caerdydd — sy’n rhan bwysig o’r Hwb Cymhwyso Ymchwil newydd fydd yn agor ar ein Campws Arloesedd ar Heol Maendy eleni — yn canolbwyntio’n benodol ar y broblem sero net yn ei rhaglen ymchwil. Dull o hwyluso adweithiau cemegol, na fyddent yn bosibl fel arall, yw catalysis. Cyn hynny, dim ond drwy brosesau mwy cymhleth yn cynnwys tymereddau a phwysedd uwch y byddai’r rhain wedi bod yn bosibl. Mae manteision amlwg i gatalysis o ran lleihau costau ac allyriadau carbon, yn ogystal â llu o fanteision eraill nad oes amser i’w trafod yn y neges hon. Fodd bynnag, mae’n werth nodi bod angen catalyddion ar gyfer gweithgynhyrchu oddeutu 80% o’r deunyddiau sydd eu hangen arnom yn ein bywydau bob dydd. Mae hyn yn golygu bod hyd at 35% o GDP y byd yn dibynnu ar gatalysis, felly, mae angen datblygu catalyddion a phrosesau cynaliadwy newydd er mwyn cyflawni sero net.

Yn yr achos penodol hwn, mae ein gwyddonwyr wedi cydweithio ag ymchwilwyr yn UDA a Tsieina i ddatrys un o heriau mwyaf catalysis. Maent wedi dangos y gall methan — nwy tŷ gwydr sydd 25 gwaith yn gryfach na charbon deuocsid — gael ei droi’n fethanol (y ffurf alcohol mwyaf syml, ond nid y math y gellid ei yfed) ac asid asetig (prif gydran finegr). Mae’r broses yn dibynnu ar gatalysis aur, sy’n arbenigedd yng Nghaerdydd, ac mae’n caniatáu i nwy naturiol (a methan yw ei brif gyfansoddyn) gael ei drawsnewid yn ddau hylif defnyddiol mewn modd sy’n lleihau allyriadau carbon yn sylweddol o’i gymharu â llosgi methan neu ei brosesu drwy ddulliau presennol. Mae dau gynnyrch yr adwaith hwn yn cael eu defnyddio’n aml mewn ystod eang o brosesau diwydiannol, ac mae’r gwaith hwn yn enghraifft wych o’r strategaeth o gefnogi ymchwil wyddonol hanfodol sy’n gyflym yn cael eu troi’n fanteision i’r byd go iawn. Er y bydd ymchwil sy’n seiliedig ar chwilfrydedd — darganfod gwybodaeth newydd at ddibenion darganfod — bob amser yn un o feini prawf ein gweithgaredd ymchwil, mae Prifysgol Caerdydd yn rhagori ym maes ymchwil drosi. Gallwn weld enghreifftiau o hyn ym mhob rhan o’r campws mewn bron pob disgyblaeth, o’r gyfraith i ffiseg, ieithoedd i seicoleg, peirianneg i ofal iechyd, a phopeth arall yn y canol.

Cefais fy atgoffa o hyn pan es i weld Adeilad Bute yn ddiweddar, sydd newydd ei adnewyddu. Dyma gartref Ysgol Pensaernïaeth Cymru, a chefais fy atgoffa’n benodol fod yr union ethos yn berthnasol i addysgu a dysgu, nid ymchwil yn unig. Mae’r gwaith adnewyddu wedi creu mannau anhygoel yn llawn golau naturiol, mannau sydd wedi’u creu yn gwbl seiliedig ar anghenion myfyrwyr ar hyn o bryd, a myfyrwyr y dyfodol. Bellach, mae’r adeilad yn cyfleu’r argraff fod dysgu ac addysgu, ymchwil, ymarfer a manteision i’r byd go iawn oll yn dod ynghyd yn yr un lle. Yn wir, yn yr un modd â Chanolfan Bywyd y Myfyrwyr, mae cymorth i fyfyrwyr a’r cwricwlwm ei hun yn cael eu hail-ddylunio ar y cyd ag ail-ddyluniad ffisegol y lleoliad.

Mae’r pwyslais a roddir ar brofiad y myfyrwyr ar hyn o bryd yn rhywbeth i’w groesawu ac yn bwysig dros ben. Fodd bynnag, rhaid cofio ei fod yn rhan o brosiect llawer mwy hirdymor sydd eisoes yn berthnasol i lawer o’n meysydd gweithgarwch a llawer o Ysgolion unigol sydd wedi bod yn ailystyried eu dulliau addysgu. Mae hyn eisoes wedi digwydd yn yr Ysgol MeddygaethYsgol Gwyddorau’r Mor a’r Amgylchedd yn ogystal ag ystod o ysgolion eraill, ac mae’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd a’r Ysgol Peirianneg, i enwi dwy Ysgol yn unig. Rwy’n gwybod bod staff academaidd a phroffesiynol wedi bod o dan bwysau aruthrol drwy gydol cyfnod y pandemig, a bod cryn bwysau arnynt o hyd. Felly, mae’n arbennig o braf gweld y gofal a’r ymdrech sy’n cael ei roi i anghenion ein myfyrwyr ym mhob rhan o’r campws.

Wrth gwrs, nid yw COVID-19 wedi diflannu o bell ffordd, ac un o’i sgîl-effeithiau anffodus yw’r ffaith nad yw cydweithwyr wedi gallu rhoi’r un lefel o sylw i geisiadau am grantiau ymchwil a fyddai wedi bod yn bosibl o’r blaen. Mae’r gwaith a wnaethpwyd cyn y pandemig yn parhau i ddod i’r amlwg o ran incwm a dyfarniadau, ond rydym bellach yn gweld gostyngiad amlwg yn nifer y ceisiadau newydd. Er ein bod yn deall yn llwyr pam mae hyn wedi digwydd, rydym yn mynd ati nawr i edrych yn fanylach ar sut gallwn ni gefnogi pobl i gyflwyno ceisiadau, ac i weld lle rydyn ni o gymharu â gweddill y sector. Os na wnawn ni hyn, gallwn ddisgwyl gostyngiad sylweddol yn ein gweithgarwch ymchwil dros y blynyddoedd nesaf, ac rwy’n siŵr na fyddai unrhyw un yn y Brifysgol am weld hynny’n digwydd. Yn amlwg, mae’r diffyg cynnydd o hyd o ran y cysylltiad â Horizon Europe yn rhwystr, ond cofiwch barhau i gyflwyno ceisiadau oherwydd mae posibilrwydd iddynt lwyddo o hyd yn unol â’r cynlluniau gwreiddiol, neu iddynt gael eu hariannu o dan gynllun arall a fyddai’n creu cyfleoedd newydd yn absenoldeb Horizon Europe. Yn bendant, byddwn i’n annog unrhyw un sydd wedi bod yn pendroni ynghylch bwrw ymlaen â chais ymchwil ai peidio, a sut i fynd ati i wneud hynny, i ofyn am gyngor; mae’n gwbl ddealladwy fod argyfwng COVID-19 wedi tarfu ar bethau, ac y gallai bwrw ati a chael pob elfen ynghyd fod yn dasg ychydig yn fwy anodd erbyn hyn. Er gwaethaf yr heriau anochel sydd i ddod yn ystod gweddill y flwyddyn academaidd hon ac ymlaen i’r nesaf, rwy’n gobeithio’n fawr ein bod ar y trywydd cywir ar ôl y tarfu y mae COVID-19 wedi’i achosi, ac y byddwn yn sicrhau grantiau ymchwil unwaith eto ar yr un lefel gref yr oeddem arni yn 2019-20.

Colin Riordan
Is-Ganghellor