Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Diolch yn fawr, Brifysgol Caerdydd

Diolch i bawb ym Mhrifysgol Caerdydd am bopeth yr wyf wedi’i ddysgu, am eich cefnogaeth a’ch anogaeth ond, yn anad dim, am yr hwyl a’r cyfeillgarwch.

Pan gyrhaeddais Gaerdydd ym 1980 fel myfyriwr Peirianneg di-brofiad, cwympais mewn cariad â’r lle gwych hwn a’i gymuned ryfeddol ac amrywiol, ond ni ddychmygais erioed y byddai fy nghysylltiad â’r lle’n para mor hir.  Ym 1980, roedd Caerdydd yn ddinas wahanol iawn.  Nid oedd Bae Caerdydd yn bodoli, ond roedd Bae Teigr – ardal y dociau – yn llawn bywyd fel cymuned aml-ethnig hynaf Cymru.  Gwnaeth morwyr o bob rhan o’r byd, o fwy na 50 o wahanol wledydd, ymgartrefu yng Nghaerdydd a chreu awyrgylch cyfoethog a bywiog yn ne’r ddinas.  Fel myfyriwr, roedd tafarndai fel The Packet a chlybiau fel Casablanca’n ffordd wych o ddod yn gyfarwydd â’r rhan honno o’r ddinas yn gyflym.  Roedd pobl yn gallu gweld perfformiadau anhygoel yn The Moon Club a Smileys, a oedd rywle o gwmpas yr Aes, ac roedd o leiaf dair sinema a chlwb Top Rank, wrth gwrs, ar Heol y Frenhines.  Er hynny, daeth Royal Oak ar Broadway yn dafarn leol i mi, lle cafwyd croeso cynnes gan y dafarnwraig, Kitty, a cherddoriaeth fyw wych (gan gynnwys perfformiadau gan Tich Gwilym a Burke Shelley o Budgie) a lle cwrddais â phobl a fyddai’n dod yn ffrindiau gydol oes.

Tich Gwilym yn y Royal Oak ym 1982

Yn y labordy yn Adeilad Bute ym 1984 gyda fy rig profi yn rhan o fy mhrosiect blwyddyn olaf

Pan raddiais o Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol De Cymru (UWIST) ym 1984, dychwelais i weithio yn Rolls-Royce (a oedd wedi noddi fy ngradd-brentisiaeth), ond roeddwn yn gweld eisiau cyffro’r sy’n gysylltiedig â gwneud ymchwil labordy a darganfod. Felly, dychwelais i Goleg Prifysgol Cymru Caerdydd (UWCC), enw’r Brifysgol erbyn hynny, i wneud PhD mewn Allyriad Acwstig ar gyfer Canfod Difrod – yr hyn y byddwn yn arbenigo ynddo maes o law. Ni fyddai fy mhrosiect israddedig blwyddyn olaf na’m PhD wedi bod yn bosibl heb y technegwyr labordy gwych, yr academyddion gwybodus, y gweinyddwyr ymroddedig a’r myfyrwyr brwdfrydig – mae’r rhwydwaith hwn o gefnogaeth yn ein proffesiwn yn wirioneddol anhygoel ac yn rhywbeth i’w ddathlu.   Mwynheais hefyd fod yn rhan o undeb myfyrwyr gwych, i’r fath raddau y buddsoddais mewn aelodaeth oes ohoni cyn gynted ag y gorffennais fy PhD – bargen am £5, yn fy marn i, sy’n golygu y gallaf fynd i unrhyw ddigwyddiadau i fyfyrwyr sy’n cael eu cynnal yno o hyd, er mawr ddifyrrwch i’r staff diogelwch min nos.

Aelodaeth oes o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Cymerais y sgiliau a ddysgais wrth astudio ar gyfer fy ngradd israddedig ac wrth wneud fy PhD i fy rôl ddiwydiannol yng nghwmni lleol AB Electronic Products, ac roedd bob bwriad gennyf aros yn y diwydiant. Fodd bynnag, ym 1990, cododd cyfle yn y Brifysgol i greu gradd newydd a oedd yn cyfuno llawer o elfennau Peirianneg â lleoliadau gwaith yn y diwydiant, ac roedd hyn yn rhywbeth a wnaeth fy ysbrydoli’n fawr. Felly, cymerais y cam dewr (cam ffôl, yn ôl rhai pobl ar y pryd) i ddechrau contract blwyddyn o hyd.  Dyna oedd dechrau gyrfa 31 mlynedd fel academydd yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint gweithio gydag unigolion a thimau gwirioneddol anhygoel sy’n sicrhau ein bod yn addysgu i safon uchel ac yn gwneud ymchwil ragorol – dau beth sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r holl gymunedau rydym yn eu gwasanaethu.  Rydym yn gwybod bod addysg yn newid bywydau, a gallaf ddweud yn sicr bod yr addysg yr wyf wedi’i chael ym Mhrifysgol Caerdydd, fel myfyriwr ac fel aelod o’r staff, wedi newid fy mywyd yn bendant.  Pan oeddwn yn 18 oed, ni fyddwn erioed wedi dychmygu’r cyfleoedd fyddai’n cael eu rhoi i mi, ac rwyf am ddiolch i’r nifer fawr o fyfyrwyr a chydweithwyr yr wyf wedi cael y pleser o weithio gyda nhw dros y blynyddoedd.

Rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o’m gyrfa’n gweithio yn yr Ysgol Peirianneg, ac mae gennyf lawer o atgofion hapus o’r bobl arbennig iawn sydd wedi gweithio yno.  Rwyf bob amser yn dweud bod Peirianneg, fel disgyblaeth, yn gêm i dîm, a’r ysbryd tîm rhagorol yn yr Ysgol Peirianneg sydd wedi bod yn sail i’w llwyddiant. Daeth y darlithwyr a’r technegwyr a oedd wedi fy addysgu ac fy nghefnogi, yn gydweithwyr imi. Aeth y myfyrwyr a addysgais ymlaen i fod yn academyddion. Mae’r talent cartref hwn wedi’i phlethu â’r bobl anhygoel o bob rhan o’r byd sydd wedi mwynhau ymgartrefu yng Nghaerdydd a chydweithio i ddatblygu atebion arloesol ym maes Peirianneg. Diben hyn oll yw creu cymdeithas fwy cynaliadwy, cynhwysol, diogel a ffyniannus ac ysbrydoli cenedlaethau o beirianwyr i bennu’r safonau uchaf ar gyfer rhagoriaeth dechnegol, moeseg a phroffesiynoldeb.  Rwyf wedi mwynhau addysgu, yn enwedig y sesiynau ymarferol, ac wedi gwerthfawrogi’r ffaith bod yr Ysgol Peirianneg wedi cefnogi gweithgaredd Formula Student, sydd wedi rhoi profiad dysgu mor wych i lawer o’n peirianwyr. Ni fyddai fy ymchwil fy hun (canfod difrod mewn strwythurau) wedi bod yn bosibl heb waith caled y myfyrwyr a’r cydweithwyr sydd wedi gweithio a helpu ei gilydd dros y blynyddoedd, ac rwy’n wirioneddol falch o’r hyn y mae’r grŵp perfformiad strwythurol i gyd wedi’i gyflawni gyda’i gilydd.

Addysgu israddedigion ar ddechrau’r 1990au

Cynnig llawn cyntaf Rasio Caerdydd i Student Formula ar ddechrau’r 2000au

Rhai aelodau o’r tîm ymchwil perfformiad strwythurol anhygoel

Mae’r Brifysgol wedi gweld rhai cyfnodau heriol dros y blynyddoedd. Rydym wedi wynebu problemau ariannol a sefydliadol ond, gyda’n gilydd, rydym wedi gweithio ein ffordd drwy’r rhain, ac rwy’n credu o ddifrif, ar ôl pob newid, ein bod ychydig yn gryfach ac yn fwy abl i wireddu ein dyheadau.  Mae’r Brifysgol heddiw, sy’n uchel ei pharch yn rhyngwladol ac yn un o brifysgolion Grŵp Russell, yn wahanol iawn i’r holl sefydliadau a wnaeth uno a datblygu i greu Prifysgol Caerdydd, ond rydym wedi cadw’r gwerthoedd pwysig, sef parchu a datblygu ein myfyrwyr, ein staff a’r cymunedau ehangach rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn gasgliad o unigolion sy’n croesawu grŵp amrywiol o bobl o bob rhan o’r byd i deulu Prifysgol Caerdydd ac yn gwneud ein gorau glas i sicrhau eu bod yn iawn ac yn gwireddu eu potensial.  Ychydig o bethau sy’n rhoi mwy o foddhad i mi na chlywed gan gynfyfyrwyr ledled y byd sydd wedi mynd ymlaen i bethau gwych ym mha faes bynnag y maent wedi’i ddewis ac sydd mor falch o fod wedi astudio yma. Rwyf hefyd wrth fy modd yn clywed sgwrs ar ddamwain ynghylch sut mae rhywun ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyfrannu at rywbeth sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn lleol.  Rwy’n credu ei bod yn eithaf rhyfeddol sut rydym yn llwyddo i gadw’r cydbwysedd hwnnw o ran effaith leol ac effaith fyd-eang, ac mae hynny oherwydd yr holl staff anhygoel yn y Brifysgol sydd â diddordeb angerddol yn yr hyn y maent yn ei wneud. Rydym hefyd yn rhagori am ein bod yn brifysgol Grŵp Russell o Gymru, ac mae ein dwyieithrwydd yn hynod ddeniadol ac ysgogol.  Mae ‘Gorau Chwarae Cyd Chwarae’ yn gyfarwydd i holl gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru, ond rwy’n credu ei fod hefyd yn wir am y Brifysgol.

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn gryf, yn addasu ac yn ffynnu. Mae’r Brifysgol wedi buddsoddi’n ddoeth mewn cyfleusterau newydd er mwyn i’w phobl barhau i ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth, ac mae ganddi gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol a bod yn garbon-niwtral.  Mae’r patrymau tywydd rhyfedd, yn enwedig y rhai rydym wedi’u gweld eleni, yn ein hatgoffa ar frys bod yn rhaid i bob un ohonom wneud popeth y gallwn i wneud cynnydd yn gyflymach yn y maes hwn.  Mae’r gwaith a wnaed ar y cyd mewn meysydd fel cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi gwella’r gweithle’n sylweddol, ond nid da lle gellir gwell.  Mae iechyd, diogelwch a lles y staff a’r myfyrwyr bob amser yn flaenoriaeth, a gobeithio bod y timau sydd wedi cefnogi a gwella’r gwaith hwn, sydd wedi bod yn arbennig o hanfodol eleni, yn cael eu gwerthfawrogi gan bawb am eu hymroddiad a’u hymrwymiad.

Cyn i mi fynd yn emosiynol, byddaf yn gorffen â geiriau Bendigeidfran o’r Mabinogion, “A fo ben, bid bont” sydd fwy neu lai’n golygu, “Os ydych am fod yn arweinydd, byddwch yn bont”.  Mae bod yn bont yn golygu estyn allan ac ymgysylltu i alluogi eraill i gyflawni.  Dyna beth mae pobl ym Mhrifysgol Caerdydd wedi’i wneud yn dda bob amser, a dyna pam rwyf mor falch o fod yn rhan o deulu Prifysgol Caerdydd.