Dyddiadau allweddol ac adnoddau i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig
21 Medi 2020
Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd at Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig ar 9 Medi ynghylch dyddiadau pwysig ac adnoddau.
Annwyl Fyfyriwr,
Gan gydnabod pa mor hanfodol yw tiwtoriaid ac arddangoswyr ôl-raddedig i ddarpariaeth addysgu’r Brifysgol, rydym wedi bod yn gweithio i ddatblygu ystod eang o adnoddau a sesiynau hyfforddi ar-lein wedi’u teilwra i diwtoriaid Ôl-raddedig ar draws y sefydliad. Mae’r cyfathrebu hwn yn amlinellu’r adnoddau hynny ac yn cyflwyno’r dyddiad erbyn pryd y byddant ar gael.
Adnoddau
Rydym wedi cynnal ymgynghoriad cynhyrchiol gyda chynrychiolwyr Ôl-raddedig ar draws y sefydliad, yn ogystal â thiwtoriaid sydd wedi cofrestru yn y rhaglen Dysgu Addysgu, ac rydym wedi llunio fersiwn o Fframwaith Dysgu Digidol y Brifysgol ar gyfer tiwtoriaid ac arddangoswyr ôl-raddedig. Mae’r fframwaith hwn yn rhoi arweiniad i dimau rhaglenni a modiwlau ynghylch dylunio a chyflwyno modiwlau o ran darpariaeth gyfunol eleni, ac rydym wedi teilwra hyn yn benodol ar gyfer yr ôl-raddedigion hynny sy’n ymgymryd ag addysgu ac arddangos yn 2020/21.
Mae hyn yn cynnwys:
- Tudalen adnoddau Dysgu Canolog ar gyfer pob Myfyriwr Ymchwil Ôl-raddedig, a fydd yn cynnwys ystorfa o ddeunyddiau hyfforddi ar gyfer dysgu ar-lein a chyfunol, gan gynnwys canllawiau syml ar gyfer defnyddio llwyfannau amrywiol (gan gynnwys Teams, Zoom a Blackboard Collaborate) ac offer ar-lein ( gan gynnwys Mentimeter, ac apiau ar gyfer hwyluso cydweithio).
- Cyfres o fideos byr a gynhyrchwyd gan Michael Willett, arweinydd y rhaglen ar gyfer Dysgu Addysgu, ar ‘Ymgysylltu â Myfyrwyr Ar-lein’; ‘Ysgogi Trafodaeth ac Annog Cyfranogiad’; a ‘Datblygu Gweithgareddau Dysgu Effeithiol Ar-lein’
- Hyfforddiant yn benodol i raglenni, dan arweiniad Technolegwyr Dysgu pwrpasol, ar ddefnyddio llwyfannau dysgu penodol, a chanllawiau sy’n benodol i’r Ysgol ar addysgu cyfunol yn eich disgyblaeth
- Sesiwn Holi ac Ateb fyw gyda staff sydd â phrofiad o gyflwyno addysgu ar-lein
- Cyfres o sesiynau ymarfer ar gyfer tiwtoriaid Ôl-raddedig ar ddefnyddio llwyfannau amrywiol.
Dyddiadau pwysig
Bydd y modiwl Dysgu Canolog, ‘Adnoddau Tiwtor Ôl-raddedig ar gyfer Addysgu Ar-lein a Chyfunol’ – gan gynnwys y fideos hyfforddi – ar gael i bob Myfyriwr Ymchwil Ôl-raddedig o 17 Medi 2020. Bydd mwyafrif yr hyfforddiant am bynciau penodol yn cael ei gyflwyno yn ystod yr wythnosau yn dechrau 21 Medi a 28 Medi. Bydd y sesiynau Holi ac Ateb byw a’r sesiynau ymarfer yn cael eu cynnal tua diwedd yr wythnos ymgyfarwyddo.
Bydd cyfle hefyd trwy gydol y semester i gymryd rhan mewn sesiynau a ddyluniwyd ar gyfer staff – bydd Cydlynydd Tiwtor Ôl-raddedig eich Ysgol a/neu Arweinydd Addysg Ddigidol yn gallu eich cyfeirio at y rhain yn ystod yr wythnosau nesaf, wrth i fwy o sesiynau gael eu datblygu.
I’r rhai sy’n ymwneud ag addysgu ar y campws – yn enwedig mewn arddangosiadau labordy – bydd y modiwl Dysgu Canolog hefyd yn cynnwys cyfres o adnoddau paratoadol ar-lein, wedi’u creu gan yr Academi Ddoethurol. Bydd arweiniad ychwanegol hefyd ar gyfer y tiwtoriaid seminar Ôl-raddedig hynny sy’n ymwneud ag addysgu ar y campws y flwyddyn nesaf, a byddwn yn sicrhau eich bod yn cael eich hysbysu’n llawn ar bob agwedd iechyd a diogelwch am addysgu ar y campws.
Rydym yn gobeithio y bydd y gyfres hon o adnoddau yn eich galluogi i deimlo’n barod am addysgu cyfunol yn y sesiwn academaidd nesaf.
Yn olaf, hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich amynedd wrth i’r adnoddau hyn gael eu datblygu, a’ch ymrwymiad i addysgu’r flwyddyn academaidd hon. Rydych chi’n rhan amhrisiadwy o’r gymuned addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd a diolchwn i chi am eich cyfraniadau parhaus i wella profiad dysgu myfyrwyr.
Dymuniadau gorau,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014