Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff
10 Medi 2020
Annwyl gydweithiwr,
Wrth i’r tymor newydd nesáu, ro’n i am rannu rhai syniadau am sut rydym yn bwriadu cael myfyrwyr ar y campws, a’r strategaeth ddysgu cyfunol fydd yn golygu bod pob myfyriwr yn cael cyfleoedd rheolaidd i gael addysgu wyneb yn wyneb, er y bydd llawer o’r dosbarthiadau’n cael eu haddysgu ar-lein hefyd.
Heriau presennol a’n cyfeiriad strategol tymor hirach
Yn gyntaf oll, pam rydym ni, fel llawer o brifysgolion ledled y byd yn ogystal â’r DU, wedi dewis mabwysiadu’r ymagwedd hon? I wneud hynny, y cwbl sydd angen i ni wneud yw edrych ar Y Ffordd Ymlaen 2018-23: Ail-lunio COVID-19, gafodd ei gymeradwyo gan y Cyngor ar ôl ymgynghori helaeth fis Gorffennaf. Dwi ddim am fynd drwyddo’n fanwl, ond oherwydd y coronafeirws penderfynom ganolbwyntio ar bump o ffactorau llwyddiant allweddol:
- iechyd a lles ein staff a’n myfyrwyr
- cynaliadwyedd ariannol
- bodlonrwydd y myfyrwyr a’u profiad
- grantiau a chontractau ymchwil
- a’n cenhadaeth ddinesig.
Nid tasg hawdd yw dod o hyd i’r cydbwysedd cywir, ond er na allwn ddileu’r holl risg, gallwn ei leihau i lefel dderbyniol wrth fodloni’r galw amlwg gan fyfyrwyr i gael cymaint o brofiad campws â phosibl mewn modd rhesymol a diogel. Mae Tasglu Coronafeirws y Brifysgol, yr ydw i’n gadeirydd arno, wedi bod yn goruchwylio’r holl waith manwl sydd wedi’i gynnal dros yr haf i sicrhau ein bod wedi cymryd yr holl gamau posibl i wneud yn siŵr bod y gweithle yn ddiogel rhag covid a’i fod mor ddiogel â phosibl i fyfyrwyr a staff.
Ein hymateb i argymhellion SAGE ac Independent Sage
Gallai llawer ohonoch fod wedi gweld y sylw am grŵp Sage Annibynnol yn y wasg, wnaeth argymell y dylai’r holl addysgu fod ar-lein tan fis Ionawr, ac mai gweithgareddau hanfodol yn unig fydd yn digwydd wyneb yn wyneb. Ar hyn o bryd nid yw’n amlwg beth all fod yn wahanol erbyn mis Ionawr, ond ar ben hynny, gallech fod hefyd wedi clywed na ddylai addysgu wyneb yn wyneb fod yn ddiofyn. Gadewch i mi fod yn hollol glir. Nid yw dosbarthiadau wyneb yn wyneb yn ddiofyn yma yng Nghaerdydd. Yn hytrach, y sefyllfa ddiofyn yw ymagwedd dysgu cyfunol lle bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i fynd i ddosbarthiadau os yw’n ddiogel i wneud hynny’n unol â gofynion Covid, gyda dulliau addysgu a dysgu eraill yn digwydd o bell. Yn ddiweddar adroddodd Grŵp Cyngor Gwyddonol ar gyfer Argyfyngau y llywodraeth (SAGE) ar y mesurau y dylai prifysgolion eu cymryd er mwyn gallu croesawu myfyrwyr yn ddiogel. Mae’r adroddiad, Principles for managing SARS-CoV-2 transmission associated with higher education, yn cynnwys llawer o ganllawiau defnyddiol ar sut i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o goronafeirws yn dod yn gyffredin mewn lleoliadau addysgu uwch, ac rwy’n falch o ddweud ein bod wedi paratoi’n dda iawn yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Nid yw amlygu pwysigrwydd gorchuddion wyneb fel mesur lleddfu yn peri syndod, ac rydym yn deall yn llwyr pam mae angen sicrhau prosesau awyru da a chadw at bellter cymdeithasol o ddau fetr. Byddwn yn parhau i gynnig llawer o gyfleusterau hylendid a hyrwyddo ymddygiadau allweddol fel diheintio dwylo yn rheolaidd.
Rheoli’r risgiau a chefnogi ein gilydd
Mae ymddygiad sy’n ystyried y gymuned gyfan yn hanfodol. Rhaid i ni atgoffa ein myfyrwyr bod cadw pellter cymdeithasol a mathau eraill o ymddygiad y mae pawb yn gyfarwydd â nhw erbyn hyn yn hanfodol i amddiffyn eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn poeni am ddal y feirws eu hunain. Rydym yn glir iawn y bydd cyflwyno systemau unffordd yn ein hadeiladau, mesurau hylendid, niferoedd isel a defnyddio gorchuddion wyneb yn lleihau’r risg o haint i lefel dderbyniol. Bydd hyn yn ein galluogi i ymateb i’n myfyrwyr sy’n teimlo bod angen lefel o ryngweithio personol arnynt, yn ogystal â phrofiad ar y campws. Rwy’n ymwybodol bod rhai cydweithwyr yn awyddus iawn i ddod i’r campws, a bod eraill yn llai awyddus; mae gennym broses i reoli hynny ac i roi cefnogaeth yn ôl yr angen. Hoffwn gyfeirio unrhyw un sydd â phryderon ynghylch dychwelyd i’r campws at adnodd asesu risg gweithlu COVID Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi ein Hasesiad Risg Sefydliadol o’r coronafeirws (COVID-19). Yr un mor bwysig yw ein Hymrwymiad Cymunedol, sy’n pwysleisio bod angen i bawb ymddwyn yn y ffyrdd allweddol a nodwyd uchod.
Ein gwasanaeth profi COVID-19
Un fantais benodol i ni yw ein bod yn gallu canfod achosion ymysg y boblogaeth (PCD). Felly, byddwn yn annog pob aelod staff a myfyriwr sydd heb symptomau sy’n dod i’r campws yn rheolaidd i achub ar y cyfle i gael prawf coronafeirws am ddim, sef prawf poer. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma, ond mae’n rhaid pwysleisio mai’r nod yw canfod unrhyw heintiau, clystyrau neu achosion cyn gynted â phosibl fel y gallwn weithredu ac osgoi ei ledaeniad. Nid yw hyn yn lle’r holl fesurau eraill yr ydym wedi’u rhoi ar waith, ond bydd yn rhoi rhagor o sicrwydd i ni y byddwn yn gallu ymateb yn gyflym os ydym yn gweld cynnydd o’r haint yng nghymuned y Brifysgol.
Gweithio gyda’r gymuned ehangach
Wrth baratoi at groesawu myfyrwyr yn ôl ac ail-agor cyfleusterau ymchwil, rydym wedi ymgynghori a chydweithio’n agos ag undebau’r campws ac Undeb y Myfyrwyr. Mae’r holl fesurau yr ydym wedi’u cymryd yn cyd-fynd â’r canllawiau swyddogol ac rydym yn gweithio’n agos nid yn unig gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond hefyd Llywodraeth Cymru’n ehangach, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chyngor Dinas Caerdydd. I gael gwybod rhagor am ein mesurau Campws Diogel, dyma fanylion pellach. Mae’r wybodaeth wedi’i chrynhoi ar gyfer cynulleidfaoedd allanol yma.
Fel y soniais ar ddechrau fy neges, nid tasg hawdd yw cael y cydbwysedd cywir rhwng cadw’r risg mor isel â phosibl a chynnig profiad campws cystal â phosibl, a gallai olygu bod angen inni fod yn hyblyg yn ein hymateb i ofynion iechyd y cyhoedd. Yn benodol, gallwn ddisgwyl rhagor o ganllawiau gan Lywodraeth Cymru rhyw ben. Yn anffodus, bydd y coronafeirws gyda ni am beth amser, a gobeithiaf y gallwn barhau i gydweithio wrth droedio’r llwybr anodd hwn. Rhaid i’n nod fod i atal lledaeniad y feirws cymaint â phosibl, wrth sicrhau’r profiad gorau posibl i fyfyrwyr. Bydd hynny yn ei dro yn helpu i gefnogi’r Brifysgol fel sefydliad yn ystod y flwyddyn anodd hon, ac yn ein galluogi i fod yn gryfach unwaith y bydd hyn i gyd drosodd. Rwy’n hyderus y bydd ein cynlluniau’n ein galluogi i gyflawni’r nod hwnnw.
Dymuniadau gorau,
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014