Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff

25 Awst 2020

Annwyl gydweithiwr,

Fel y dywedodd cydweithiwr wrthyf yn gynt y mis hwn, ‘2020 yw’r rhodd sy’n parhau i roi’. Mae’r tro pedol dramatig ar o ran graddau Safon Uwch a ddigwyddodd wrth i’r prif gyfnod cadarnhau a chlirio gau wedi cyflwyno lefel rhyfeddol o ansicrwydd a symud mewn prifysgolion ar draws y DU. O ystyried gofynion yr argyfwng digynsail, byddai wedi bod yn well o lawer anghofio unrhyw bryderon am chwyddo graddau am flwyddyn yn ôl ym mis Mawrth, a gwneud y penderfyniad i ymddiried yn asesiadau’r athrawon yn gynt yn y broses. Byddai hynny wedi rhoi sicrwydd i bawb ynghyd ag amser i gynllunio. Fodd bynnag, y peth iawn i’w wneud oedd newid y polisi ar y cam hwyr hwn oherwydd annhegwch amlwg y canlyniadau gwreiddiol. Nawr fod canlyniadau Safon Uwch wedi’u diwygio bydd angen i ni dreulio peth amser yn gweithio ar y niferoedd i gael amcangyfrif newydd o’r nifer o gofrestriadau y gallem ni eu disgwyl ymhen ychydig wythnosau. Bydd rhaid i ni ystyried amrywiaeth o newidynnau, fel dileu’r cap ar niferoedd myfyrwyr a drefnwyd yn frysiog yn Lloegr ond a gadwyd yng Nghymru, a chapasiti gwahanol rannau o’r Brifysgol i ymdopi gyda fflyd annisgwyl o fyfyrwyr, os mai dyna fydd yn digwydd.

Beth yw goblygiadau hyn i Brifysgol Caerdydd? Yn ffodus, er gwaethaf diffyg trefn y broses, fe wyddom ddigon bellach am y galw gan ymgeiswyr israddedig domestig i fod yn go sicr y byddwn yn recriwtio’n ddigon da yn y categori hwnnw. Mae ceisiadau ôl-raddedig cartref yn edrych yn gadarnhaol hefyd, er ei bod braidd yn gynnar i ddweud. Mae sefyllfa ceisiadau israddedig rhyngwladol yn fwy cymysg, ac er nad yw mor wahanol i’r blynyddoedd blaenorol ag y gallem fod wedi disgwyl, rydym ni’n gweld niferoedd sylweddol is mewn rhai meysydd allweddol. Y cwestiwn pwysig yw a fydd yr ymgeiswyr sydd wedi derbyn lle diamod gennym ni yn dymuno dod, neu, hyd yn oed yn fwy perthnasol efallai, a fyddan nhw’n gallu dod, o ystyried y cyfyngiadau ar deithio a safbwyntiau llywodraethau ledled y byd sy’n newid yn barhaus wrth iddyn nhw addasu eu hymatebion polisi i ystyried hynt y pandemig. Bydd rhaid i ni aros i weld sut y bydd pethau’n datblygu.  Yr hyn sydd anoddaf ei fesur yw ymgeiswyr ôl-raddedig rhyngwladol. Rydym ni’n paratoi’n drylwyr ar gyfer dyfodiad ein myfyrwyr, a’n prif flaenoriaeth yw eu hiechyd a’u diogelwch nhw a’n staff. Drwy gyflwyno ein cyfleuster profi ein hunain a chydweithio’n agos gyda’r GIG ac awdurdodau iechyd cyhoeddus, rydym ni’n gobeithio rhoi lefel ychwanegol o sicrwydd y tu hwnt i fesurau cyfarwydd pellhau cymdeithasol, gorchudd wyneb, hylendid a threfniadau diheintio. Drwy brofi ein poblogaeth ein hun, rydym ni’n awyddus i allu sicrhau diweddariad parhaus o ran amlder coronafeirws (rydym ni’n disgwyl iddo fod yn isel iawn o ystyried y cyfraddau presennol) a’i ddatblygiad. Bydd hyn o fantais enfawr i boblogaeth ehangach Caerdydd yn ogystal ag i’n myfyrwyr, a bydd myfyrwyr rhyngwladol yn gwybod ymlaen llaw pa mor ddifrifol ydym ni’n cymryd eu hiechyd a’u diogelwch yma ym Mhrifysgol Caerdydd.  Fodd bynnag, mae’n anodd rhagweld lefelau cofrestru myfyrwyr ôl-raddedig rhyngwladol yn gywir ar y gorau a rhaid i ni barhau i fod y ofalus ynglŷn â hyn. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr oherwydd y llynedd cofrestrom ni yn agos i 3000 o fyfyrwyr yn y categori hwn.

Canlyniad hyn i gyd yw y byddwn i’n disgwyl, ar ôl clirio, y bydd ein rhagamcanion ariannol ar gyfer y flwyddyn i nesaf yn gwella rhywfaint, er bod un maes incwm pwysig yn dal i fod mewn perygl. Y gwir yw na fyddwn ni’n gwybod yn sicr hyd nes y bydd myfyrwyr wedi cofrestru, a bydd hynny’n hwyrach nag arfer eleni gan ein bod yn rhoi hyblygrwydd i ganiatáu mwy o amser i ymgeiswyr a myfyrwyr sy’n dychwelyd gynllunio. Rhaid i ni felly barhau i gynllunio ar gyfer senarios pesimistaidd heb wneud penderfyniadau brysiog na fyddai modd eu gwyrdroi’n rhwydd. Unwaith y byddwn ni mor siŵr ag y gallwn fod am yr hyn fydd yn digwydd yn ariannol y flwyddyn nesaf, byddwn yn gallu trefnu’r mesurau angenrheidiol i ddiogelu ein cynaladwyedd ariannol. Mae’n werth nodi y dylem yn fuan dderbyn y manylion sydd eu hangen am y gefnogaeth mae llywodraeth y DU yn ei chynnig (gweler y cyhoeddiad yma), ac rwyf i’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y sefyllfa rydym ni ynddi o ran recriwtio myfyrwyr, yn enwedig mewn perthynas â phynciau sy’n bwysig yn strategol ac yn ddrud fel Meddygaeth a Deintyddiaeth. Yn anffodus yr ymateb hyd yma i COVID fu lleihad o 2.4% yn ein grant o’i gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi bod yn anoddach fyth o ystyried ein bod wedi disgwyl y byddai’r cynnydd hirddisgwyliedig yn unol ag adolygiad Diamond yn dechrau ein cyrraedd i helpu i unioni diffygion blynyddoedd blaenorol. Yn amlwg mae coronafeirws wedi gosod gofynion mawr ar y pwrs cyhoeddus, ac rydym ni wedi cefnogi’r ymdrech genedlaethol yn ariannol a thrwy ein harbenigedd, ein cyfleusterau a’n hoffer. Ond mae llanast Safon Uwch wedi amlygu’r gwerth y mae ymgeiswyr a’u teuluoedd yn ei osod ar addysg prifysgol, a bydd angen cymorth arnom i gyflawni hynny.

Cyn i fi orffen ar y pwnc hwn, hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi bod â rhan yn y cylch recriwtio a derbyn myfyrwyr eleni, er ei fod ymhell o fod ar ben eto. Ymwelais i â’n canolfan alwadau ar y diwrnod y cyhoeddwyd y canlyniadau gwreiddiol i ymgeiswyr, ac fe’m trawyd pa mor llyfn oedd y broses, gyda chyfuniad o bellhau cymdeithasol (yn cynnwys gorchudd wyneb, hylendid ac ati), gweithio o bell a thimau wedi’u gwasgaru ar draws y campws. Roedd yn rhagorol ac llwyddiant mawr; i’r graddau ei bod yn bosibl y bydd rhai o’r ffyrdd o weithio yn cael eu cadw hyd yn oed pan na fydd angen pellhau cymdeithasol ac yn y blaen.

Mae diolch mawr arall yn ddyledus i bawb a fu’n rhan o’r dathliadau graddio ar-lein y soniais amdanyn nhw yn fy ebost diwethaf. Cyn gynted â phosibl byddwn yn cynnig cyfle i’n holl raddedigion ddychwelyd i Gaerdydd gan gynnal seremoni raddio wyneb yn wyneb fwy confensiynol, ond mae’n bosib na fydd hynny’n digwydd am beth amser, a doedden ni ddim am adael i’r foment bwysig hon fynd heibio heb ei nodi drwy’r dulliau rhithwir oedd ar gael i ni. Fel sydd wedi digwydd drwy gydol argyfwng COVID, daeth pawb at ei gilydd yn wych i wneud hyn yn bosibl. Roedd y cyfraniadau fideo yn eithriadol, o’r Penaethiaid Ysgol i gynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr a siaradodd ac a ddarllenodd yn huawdl, i gerddoriaeth hyfryd côr y Waun Ddyfal i’r gyn-fyfyrwraig Alice Roberts (BSc 1994, MBBCh 1997, Anrh 2019) a gyflwynodd anerchiad cofiadwy a theimladwy i’r graddedigion, i’r fideo cyn-fyfyrwyr hyfryd a ail-ysgrifennwyd yn arbennig i’w gyflwyno’n rhithwir. Cyfrannodd cannoedd o gydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol longyfarchiadau cynnes a thwymgalon ar fideo Flipgrid. Cyfrannodd y Gweithgor Graddio cyfan i’r rhaglen arbennig hon, ac roedd Richard Martin o Uned Ffilm y Brifysgol yn arbennig o arwrol, yn teilwra pob seremoni yn arbennig ar gyfer ei hysgol a’i myfyrwyr. Gyda thros 10,000 wedi gwylio’r amrywiol fideos hyd yma a’r niferoedd yn dal i dyfu, does dim amheuaeth fod y dathliadau rhithwyr yn llwyddiant mawr. Mae’r myfyrwyr oedd yn graddio wedi dweud wrthym mor falch oedden nhw i nodi eu moment arbennig yn y ffordd hon. Diolch i  bawb a fu’n rhan o’r dathliadau. Yn bennaf oll, ac ar ran y brifysgol gyfan, hoffwn estyn fy llongyfarchiadau cynhesaf i Ddosbarth 2020 Caerdydd a’u cefnogwyr. Edrychwn ymlaen at eich gweld wyneb yn wyneb pan fydd hynny’n bosibl unwaith eto.

Yn olaf, mae’n bwysig cydnabod bod ein llwyddiant academaidd fel prifysgol wedi parhau er gwaethaf yr holl anawsterau a’r cyfyngiadau yn sgil y pandemig byd-eang, ac mae’n arbennig o braf gweld y llwyddiant mae ein hymchwilwyr wedi’i gael yn sicrhau grantiau ymchwil ar draws y tri Choleg. Mae’n amhosibl eu rhestru i gyd wrth gwrs, ond mae rhai o’r ymchwilwyr eithriadol o lwyddiannus yn cynnwys yr Athro Anne Rosser, yr Athro Meng Li a Dr Mariah Lelos o Ysgol y Biowyddorau, y dyfarnwyd £2M o Grant Rhaglen y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) ar gyfer eu gwaith ar therapi celloedd yng nghlefyd Huntington.  Hefyd yn y Biowyddorau, sicrhaodd yr Athro Tom Connor ddau grant gan yr MRC: un i CLIMB, seilwaith cwmwl ar gyfer biowybodeg ficrobaidd data mawr (£580K), a’r llall ar gyfer Consortiwm Genomeg y DU MRC COVID-19 (gyda £1M yn dod i Gaerdydd). Mae’n bleser gen i adrodd hefyd ein bod wedi cael llwyddiant sylweddol gyda’r Comisiwn Ewropeaidd dros y misoedd diwethaf, yn arbennig gan ei bod yn edrych yn fwyfwy tebygol y bydd y ffynhonnell hon o gyllid ar gau i ymgeiswyr newydd o’r DU o’r flwyddyn nesaf (caiff yr holl grantiau sydd wedi’u sicrhau eu hanrhydeddu). Mae’r rheini’n cynnwys prosiect DOWN2EARTH sy’n cynnwys yr Athro Owen Jones o’r Ysgol Mathemateg a Dr Michael Singer, Dr Mark Cuthbert, a Dr Daniel Hobley o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, fydd yn datblygu gwasanaethau hinsawdd cymunedol yn canolbwyntio ar brinder dŵr yn sychdiroedd Horn Affrica.  Dyfarniad arall gan y Comisiwn Ewropeaidd, dan arweiniad yr Athro Roberta Sonnino a’r Athro Paul Milbourne o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yw FOODTRAILS, fydd yn cefnogi cyflwyno systemau bwyd trefol newydd mewn ymateb i ansicrwydd bwyd. Bydd y ddau ddyfarniad yn dod â £1.5M i’r Brifysgol, a bydd hynny’n gwella ein cyfleoedd i gydweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau academaidd rhyngwladol a chyrff eraill. Llwyddodd Anthony Bennett o’r Adran Peirianneg gyda’i gais cymrodoriaeth £1M i EPSRC am ymchwil ar ffynonellau golau cwantwm lled-ddargludyddion y gellir eu hehangu, fydd yn ategu ein hymchwil i led-ddargludyddion cyfansawdd. Da hefyd oedd gweld llwyddiant unwaith eto yng nghynllun Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI gyda dyfarnu cymrodoriaethau i Andrew Logsdail (Cemeg) ac Elliott Rees (Meddygaeth). Yn olaf, sicrhaodd yr Athro Huw Davies a Dr Morten Anderson (Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr unwaith eto)  £3.7M gan NERC (gyda £800K yn dod i Gaerdydd) am eu prosiect cyffrous yn ymchwilio i ddatblygu modelau cyfrifiadurol 4D arloesol o lif mantell.

Ymddiheuriadau os wyf i wedi methu â chrybwyll rhywun, ond mae hon wedi bod yn ymdrech wirioneddol gyfunol a’r fwyaf erioed. Cafwyd cyfanswm o £150.4 miliwn mewn dyfarniadau ymchwil yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf, y tro cyntaf i’r Brifysgol sicrhau dros £150 miliwn. Roedd yn flwyddyn arbennig o gryf yn nhermau cyllid Cynghorau Ymchwil (£37 miliwn) sy’n dangos ein bod yn gwneud cynnydd gwirioneddol mewn maes lle’r ydym ni wedi tueddu i danberfformio. Diolch enfawr a llongyfarchiadau i bawb a fu’n rhan o’r ymdrech ysblennydd hon.

I gloi, gan ymddiheuro am yr ebost hir y mis hwn, hoffwn ddychwelyd yn fyr at fater a godwyd uchod. Yn fuan byddwn ni’n croesawu myfyrwyr yn ôl yn eu niferoedd i Gaerdydd, a byddwn yn disgwyl cadw at ganllawiau COVID-ddiogel. Yn hyn o beth, byddwn yn gofyn i bawb sy’n dod i’r campws fabwysiadau Ymrwymiad Cymuned COVID-19 Prifysgol Caerdydd, sy’n pwysleisio pwysigrwydd cyd-barch, cwrteisi ac ystyriaeth. Gan gyd-fynd â’n polisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio, rydym ni am gynnig amgylchedd croesawgar, cynhwysol a diogel a fydd yn mynd i’r afael ag ymddygiadau gwahaniaethol negyddol, gan gynnwys y rheini sy’n seiliedig ar stereoteipio ac agweddau rhagfarnllyd. Gan weithio gyda’n gilydd, bydd angen i bawb gymryd cyfrifoldeb personol am effaith posibl ein hymddygiad ein hunain ar bobl eraill yn yr amgylchiadau anarferol hyn. Yr un mor rhyfeddol â’r amgylchiadau fu’r parodrwydd i deithio’r ail filltir i sicrhau dyfodol y brifysgol wych hon, ei myfyrwyr a’i staff, ac rwyf i’n siwr y byddwn yn gallu parhau ar hyd y llwybr hwn wrth i ni gymryd camau i ailagor ein campws yn ddiogel. 

Dymuniadau gorau, Colin Riordan
Is-Ganghellor