Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff
17 Ebrill 2020
Annwyl gydweithiwr,
Gobeithio y cawsoch seibiant braf dros y Pasg a’r cyfle i fwynhau’r tywydd bendigedig. Gyda lwc, cawsoch gyfle hefyd i anghofio, am ychydig o leiaf, yr anawsterau y mae pob un ohonom yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Wrth imi ysgrifennu’r neges hon, mae llywodraeth y DU newydd gadarnhau y bydd y cyfyngiadau symud ar waith am dair wythnos arall. Ni fydd hyn yn peri syndod i’r rhan fwyaf ohonom, ac roedd wedi’i gyhoeddi eisoes yng Nghymru cyn y Pasg. Rwyf yn sylweddoli y bydd y cyfyngiadau’n effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd ac y bydd profiadau’n amrywio’n fawr. Fodd bynnag, mae’r llywodraeth o dan bwysau cynyddol i roi rhyw syniad o pryd y daw hyn i ben, neu pryd gallai’r mesurau gael eu llacio o leiaf. Mae gweinidogion yn amharod i wneud hynny ar hyn o bryd gan nad oes unrhyw un yn gwybod yn bendant beth fydd yn digwydd. Felly, rhaid i ni aros nes bydd y data am drosglwyddo, heintio a’r cyfraddau marwolaeth yn awgrymu pryd y gallai hyn fod yn bosibl. Er bod y pwyslais ar orfod cael ein tywys gan wyddoniaeth yn peri rhwystredigaeth i rai pobl, mae’n well dod i benderfyniadau ar sail hynny na mympwyon a rhagfarnau arweinwyr gwleidyddol.
Y gwir amdani yw ei bod yn amhosibl darogan pryd bydd bywyd arferol yn ailddechrau oni bai bod triniaethau effeithiol ar gyfer Covid-19 neu frechlyn yn cael ei ddatblygu a ddilynir gan raglen wrth-heintio ar raddfa eang. Unwaith y bydd yr epidemig o dan reolaeth yn y DU o ganlyniad i’r cyfyngiadau, gan leihau’r gyfradd drosglwyddo o dan y trothwy hanfodol, dylai fod modd cyflwyno camau gofalus i lacio rhywfaint ar y cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd. Drwy barhau â phrotocolau ymbellhau cymdeithasol, gellir dychmygu y bydd modd cynnal gweithgareddau lle nad oes angen i lawer o bobl ddod ynghyd a dod i gysylltiad agos â’i gilydd. Mae modd rhagweld hefyd y bydd camau hylendid cyfarwydd yn parhau neu gamau llymach yn cael eu cyflwyno fel gwisgo masgiau wyneb yn gyhoeddus. Mae rhai wedi sôn am ‘segmentu’ lle bydd y poblogaethau a’r grwpiau hynny sy’n amlwg yn llai o risg yn wynebu llai o gyfyngiadau na’r rhai risg uwch, tra bod y rheiny sy’n wynebu’r risgiau mwyaf yn parhau i gael eu diogelu. Efallai y daw hi’n haws teithio eto, ond mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau o bwys o hyd, yn enwedig yn rhyngwladol. Mae hyn oll i ddod, ac am y tro, rhaid i ni gadw at y cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, mae’n werth ystyried posibiliadau o’r fath wrth i ni feddwl am beth allai ddigwydd yn y tymor canolig a’r tymor hir. Bydd angen i ni ystyried sut i gyfuno dysgu o bell gydag, er enghraifft, cyfyngiadau ar nifer y bobl sy’n gallu bod ar y campws, gan dderbyn y gallai cyfyngiadau caeth gael eu hailosod o’r newydd pe byddai achosion o’r haint yn dod i’r amlwg er gwaethaf camau fel ymbellhau cymdeithasol, profion eang, ynysu achosion, olrhain cysylltiadau, ac ati. Yn syml, rhaid i ni fod yn barod ar gyfer pob sefyllfa bosibl a bydd angen i ni gydweithio er mwyn ystyried beth fydd y goblygiadau dros y misoedd nesaf. Wrth i amser fynd heibio, bydd gennym ragor o wybodaeth am y feirws a sut mae’n gweithio, yn ogystal â dealltwriaeth o ba gamau sydd wedi bod yn effeithiol er mwyn ei atal rhag lledaenu. Wrth i ni ystyried sut y bydd angen i ni addasu ein dull strategol yn sgîl yr amgylchiadau hyn drwy adolygu Y Ffordd Ymlaen 2018-23, bydd y wybodaeth ychwanegol yn ein galluogi i gael darlun cynyddol glir o’n blaenoriaethau. Yn yr un modd, wrth i ni gynllunio ar gyfer recriwtio myfyrwyr, gweithgareddau addysgu ac ymchwil yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, bydd rhaid i ni ystyried ystod eang o bosibiliadau a bod yn hyblyg er mwyn gallu ymateb i heriau na fedrwn eu darogan gydag unrhyw sicrwydd ar hyn o bryd.
Yn y cyfamser, rydym yn parhau i wneud popeth posibl i dawelu meddyliau ein myfyrwyr. Fel yr ydw i wedi sôn o’r blaen, mae gwasanaeth cysylltu â myfyrwyr Covid-19 wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac rydym wedi cael llawer o adborth cadarnhaol yn ei gylch. Fe wnaethoch sefydlu’r gwasanaeth a’i lansio mewn llai na phythefnos gan ganiatáu i ni roi gwybod i’n myfyrwyr ein bod yma ar eu cyfer ac i ffonio’n rheolaidd am sgwrs gyfeillgar, ac rwyf yn gwybod eu bod yn gwerthfawrogi hyn yn fawr. Ar eu rhan, hoffwn ddiolch o galon i bawb sydd wedi gweithio ar hwn ac sy’n parhau i’w wneud yn gymaint o lwyddiant.
Efallai eich bod yn ymwybodol ein bod wedi rhoi polisi dim anfantais ar waith i’n myfyrwyr. Ei ddiben yw gwneud yn siŵr na fydd unrhyw fyfyriwr o dan anfantais o ganlyniad i sefyll eu hasesiadau o bell (ar yr amod ein bod yn cydymffurfio â gofynion cyrff proffesiynol a rheoleiddiol). Gall yr asesiadau hyn wella eu marc cyffredinol ar gyfer y flwyddyn, ond ni fydd yn bosibl i fyfyrwyr gael marc is. Mae manylion am hyn ar gael yn ein polisi ‘rhwyd ddiogelwch’ newydd, sy’n mynd i’r afael â’r tarfu a achosir gan Covid-19, yn ogystal â’r tarfu a achoswyd gan y streic, lle bo hynny’n berthnasol. Cafodd ei lunio drwy gydweithio ar draws y Brifysgol. Mae’n enghraifft wych o beth sy’n bosibl hyd yn oed wrth weithio o bell, a bydd y polisi o fudd i’r Brifysgol ac, yn bwysicaf oll, ein myfyrwyr. Rwyf yn ddiolchgar dros ben i bawb a gymerodd ran yn y gwaith anodd a chymhleth oedd yn gysylltiedig â llunio’r polisi.
Yn olaf ar y pwynt hwn, rwyf wedi ysgrifennu at ein myfyrwyr rhyngwladol i’w sicrhau ein bod yma i’w cefnogi, ac fe gyfeiriais at lythyr gan Michelle Donelan AS, y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion yn Lloegr. Rwyf wedi pwysleisio bod angen darllen y wybodaeth hon ochr yn ochr â chyngor swyddogol gan Lywodraeth Cymru, ond mae’n braf gweld ein llywodraethau yn tawelu meddyliau myfyrwyr rhyngwladol eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac y bydd cefnogaeth ar eu cyfer. Gallwch ddarllen llythyr y Gweinidog yma.
Roedd yn braf, ond nid yn syndod, clywed nad yw ein Hundeb Myfyrwyr rhagorol am adael i’r coronafeirws ddifetha eu dathliad blynyddol o gyfraniad staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd at fywyd myfyrwyr. Er nad oes modd cynnal cinio arferol Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr am resymau amlwg, rwyf yn falch o weld bod enwau’r staff a’r myfyrwyr a enwebwyd yn cael eu rhyddhau dros yr wythnos nesaf, a chaiff enillwyr pob categori eu cyhoeddi ar 30 Ebrill. Y myfyrwyr sy’n gwneud yr enwebiadau hyn ac mae’r digwyddiad yn ffordd ysbrydoledig o’n hatgoffa o ba mor gyfoethog yw profiad y myfyrwyr yma yng Nghaerdydd. Byddaf yn cyfeirio yn ôl at hyn mewn ebost yn y dyfodol ar ôl i’r enillwyr gael eu cyhoeddi.
Mewn meysydd eraill, ychydig cyn y Pasg fe wnaethom benderfynu ein bod am roi’r gorau i drin argyfwng y coronafeirws fel digwyddiad difrifol (argyfwng sydyn pan mae angen cymryd camau brys). Yn lle hynny, rydym wedi rhoi strwythur mwy cynaliadwy ar waith sy’n derbyn y sefyllfa ohoni a’r tebygolrwydd na fydd pethau’n newid am beth amser. Yn rhan o hyn rydym wedi llunio strategaeth newydd a grwpiau gweithredu fydd yn mynd i’r afael â’r heriau penodol a wynebwn. Byddwn yn rhannu’r rhain ar y fewnrwyd ac mewn negeseuon pellach yr wythnos nesaf. Yn fras, mae’r rhain yn ymwneud ag addysg a myfyrwyr, ymchwil, ein hisadeiledd (o ran y campws a TG) a derbyn a recriwtio, ac mae gennym gynllun gweithredu 6 mis o hyd yn y lle cyntaf. Bydd pob maes yn cysylltu â’r strwythurau sy’n bodoli eisoes fel bod ein dulliau llywodraethu yn parhau i fod yn gadarn ond wedi’u haddasu ar gyfer y sefyllfa ohoni sy’n newid o hyd. Mae’r grwpiau yn cynnwys staff y Gwasanaethau Proffesiynol yn cydweithio â chydweithwyr academaidd. Gofynnaf i chi fod yn amyneddgar wrth i ni gau pen y mwdwl ar hyn; byddwn yn rhannu rhagor o fanylion cyn gynted ag y bo modd. Wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo, byddwn yn edrych ar Y Ffordd Ymlaen 2018-23 mewn cyd-destun mwy hirdymor ac yn chwilio am ffyrdd o ymgysylltu’n ehangach ar syniadau ar gyfer ein dyfodol.
Bydd rhai ohonoch yn ymwybodol o ddatblygiadau cenedlaethol o bwys hefyd mewn ymateb i’r anawsterau anodd dros ben y mae prifysgolion yn eu hwynebu. Fel yr ysgrifennais yn y Western Mail yr wythnos hon, mae Prifysgol Caerdydd mewn sefyllfa gref o hyd i ddod drwy’r storm hon, ond bydd parhau â’r ansicrwydd yn gwneud pethau’n anoddach i bawb.
Dim ond yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Prifysgolion y DU y gallai’r pandemig leihau nifer y myfyrwyr tramor yn sylweddol a rhybuddiodd y gallai hyn roi rhai prifysgolion mewn dyfroedd dyfnion yn ariannol. Gallai hyn achosi cryn ansefydlogrwydd oni bai bod Llywodraethau Cymru a’r DU yn gallu cynnig cymorth ychwanegol er mwyn helpu prifysgolion i ddod drwy’r argyfwng a mynd i’r afael â’r heriau newydd eraill fydd yn anochel. Mae Prifysgolion y DU wedi gweithio gyda Grŵp Russell er mynd paratoi dogfen ynghylch creu sefydlogrwydd ym maes addysg uwch ar ôl Covid-19. Mae cynrychiolwyr o’r pedair gwlad wedi cytuno ar y ddogfen ac mae wedi’i hanfon at bob un o’r pedair llywodraeth. Mae uchafbwyntiau’r pecyn arfaethedig yn cynnwys camau fydd yn:
- mynd i’r afael ar unwaith â cholledion incwm a llif arian ac yn caniatáu i brifysgolion barhau i weithredu;
- sicrhau bod prifysgolion yn gallu parhau i gynnal rhagoriaeth ymchwil, adnoddau a hyfforddi myfyrwyr PhD;
- digolledu am doriadau i gyrsiau sy’n cynhyrchu gweithwyr ar gyfer y sector cyhoeddus megis gweithwyr iechyd ac athrawon, a chynnig cyfleoedd i bobl y mae eu swyddi wedi’u heffeithio gan COVID-19 ailhyfforddi/ailennill sgiliau;
- sicrhau bod gan ymgeiswyr ar gyfer 2020-21 gymaint o ddewisiadau ag arfer o ran beth hoffen nhw ei astudio ac ym mha brifysgolion;
- annog a galluogi myfyrwyr rhyngwladol ac o’r UE i ddewis astudio yn y DU fel yr oedden nhw wedi’i fwriadu.
Yn amlwg, mae llywodraethau’r DU a’r pedair gwlad yn wynebu heriau digynsail ar hyn o bryd, a rhaid i ni fod yn realistig o ran ein disgwyliadau. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio y bydd gan brifysgolion rôl allweddol pan fydd y wlad yn dod drwy argyfwng y coronafeirws maes o law. Bydd gennym rôl hanfodol o ran darparu sgiliau, ymchwil hanfodol, arloesedd a gwaith cymunedol ar ôl trechu’r feirws, a bydd angen i ni weithio’n galed er mwyn dadlau ein hachos er mwyn argyhoeddi’r cyhoedd a gwleidyddion.
Yn olaf, mae’n ddrwg iawn gen i orfod dweud wrthych ein bod wedi colli dau aelod staff arall o ganlyniad i Covid-19 ers y tro diwethaf i mi ysgrifennu atoch ar 9 Ebrill. Mae’r digwyddiadau ofnadwy hyn yn amlygu’r hyn rydym yn ei wynebu mewn gwirionedd yn yr argyfwng hwn. Rydym yn cydymdeimlo’n fawr â’u teuluoedd ac yn meddwl amdanynt ar yr adeg anodd hon.
Dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014