
Annwyl
fyfyriwr,
Mae cyhoeddiad y Prif Weinidog am gamau llymach byth i atal lledaeniad y
Coronafeirws yn nodi newid sylfaenol i’r ffyrdd yr ydym yn byw. Ni waeth pa mor
anodd yw hyn, mae’n golygu bod y rhyddid yr ydym yn ei fwynhau wedi dod i ben
dros dro. Rhaid i mi bwysleisio bod dyletswydd arnom ni i gyd i ddilyn ac
ymlynu wrth y rheolau llym newydd hyn. Mae’n anodd, rwy’n gwybod, ond rwy’n
eich cymell chi a phob un ohonom yng nghymuned y Brifysgol i wneud hyn.
Rwy’n deall y gallai’r cyhoeddiad fod wedi eich ysgogi i wneud cynlluniau
newydd, ac rydym eisiau gallu eich cefnogi. Bydd unrhyw fyfyrwyr nad
ydynt am barhau i aros mewn llety Prifysgol Caerdydd am weddill Semester y
Gwanwyn (ar ôl y Pasg) yn cael eu rhyddhau o’u Cytundebau Llety. Golyga
hyn nad oes angen i fyfyrwyr nad ydynt yn aros yng Nghaerdydd dalu trydydd
rhandaliad eu Ffioedd Llety, a fyddai wedi bod yn ddyledus ar 22 Ebrill 2020.
Er mwyn
prosesu hyn, fodd bynnag, mae angen i fyfyrwyr egluro wrthym lle byddant dros y
Pasg. Mae tua 6,000 ohonoch eisoes wedi ymateb i’n cais i roi gwybod i ni a
fyddwch chi yma ai peidio. Mae’n wirioneddol bwysig eich bod yn dweud
wrthym a ydych yn bwriadu mynd adref neu aros yng Nghaerdydd, a oes gennych unrhyw gyflyrau
iechyd gwaelodol neu a ydych yn ymneilltuo oherwydd eich bod yn dangos
symptomau’r Coronafeirws (COVID-19).
Wrth i mi deipio hyn, rwy’n ymwybodol bod llawer ohonoch wrthi’n gadael yn sgîl
y cyhoeddiad neithiwr. Mae’r Adran Addysg newydd ddyrannu’r cyngor canlynol:
- Dylai myfyrwyr ddychwelyd adref os ydynt yn gallu gwneud hynny heb ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn unig. Ar ôl dychwelyd adref, dylech chi a’ch cyd-breswylwyr ddechrau cyfnod o ymneilltuo am 14 diwrnod yn unol â chanllawiau PHE.
- Dylai unrhyw un sy’n gallu dychwelyd adref gael caniatâd eu prifysgol neu eu coleg cyn gwneud hyn. Dylai myfyrwyr sy’n byw mewn neuaddau preifat gysylltu â rheolwr eu llety i roi gwybod iddynt am eu cynlluniau.
Gall
myfyrwyr gymryd bod ganddynt ganiatâd gan y Brifysgol i ddychwelyd adref, ond
gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen y cyfeiriwyd ati uchod er mwyn rhoi gwybod i ni
am eich penderfyniad. Rwy’n dymuno’r gorau i chi ar eich teithiau.
Bydd rhai eraill ohonoch eisoes wedi ymadael, ac rydym yn eich cynghori i
beidio â dod yn ôl i gasglu eich eiddo. Byddwch yn dawel eich meddwl y byddwn
yn gofalu am eich eiddo yn eich ystafell.
Os bydd angen i ni wneud eich ystafell ar gael i’r GIG, byddwn yn rhoi eich
eiddo i gadw mewn storfa. Os oes gennych unrhyw bryderon am hyn, ebostiwch
residences@caerdydd.ac.uk ac fe wnawn ein gorau glas i drefnu bod unrhyw
eitemau hanfodol fel meddyginiaethau’n cael eu dosbarthu i chi.
Byddwn yn
rhoi rhagor
o wybodaeth ar ein tudalennau am y coronafeirws ar y we yfory.
I’r myfyrwyr hynny sy’n aros yng Nghaerdydd, rydym yn parhau i weithio’n galed
i ofalu amdanoch chi. Byddwn yn ceisio cysylltu â phob un ohonoch dros yr
wythnosau nesaf ac mae gennym dîm o wirfoddolwyr i wneud hyn.
Fodd bynnag, ni fydd arlwyaeth yn ystod y cyfnod hwn ac rydym eisoes wedi anfon
gwybodaeth am wasanaethau pryd ar glud neu siopa ar-lein.
Dylai unrhyw fyfyriwr sy’n aros yng Nghaerdydd sy’n wynebu problemau ariannol
wneud cais i’r Rhaglen
Cymorth Ariannol a weinyddir gan Gyngor Ariannol yn Cefnogi a Lles
Myfyrwyr, a gwnawn ni ein gorau glas i’ch cefnogi.
Mae’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad hefyd wedi galw ar bob un o wladolion Prydain
i ddychwelyd i’r DU yn syth. Mae nifer bach o’n myfyrwyr dramor o hyd. Os ydych
yn un o’r myfyrwyr hyn, cysylltwch â Thîm Cyfleoedd Byd-eang drwy ebostio
GO@caerdydd.ac.uk fel y gallwn eich cefnogi.
Rwy’n siarad â’r Penaethiaid Ysgol a staff academaidd ynghylch pontio i
addysgu, dysgu ac asesu o bell. Aeth cyngor pellach am hyn allan ddoe, ac am
ein polisi newydd ynghylch amgylchiadau esgusodol. Gallwch
ei ddarllen yma rhag ofn eich bod heb ei weld.
Darllenwch
ein holl ganllawiau i fyfyrwyr ynghylch pandemig y Coronafeirws
Byddwn yn cysylltu â chi gyda newyddion pellach, ac yn y cyfamser, rwy’n
dymuno’r gorau i chi ar yr adeg hynod anodd sydd ohoni.
Dymuniadau gorau,
Colin Riordan
Is-Ganghellor