Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff

16 Mawrth 2020

Annwyl gydweithiwr,

Ysgrifennaf atoch gyda diweddariad pwysig ynghylch ein trefniadau wrth gefn o ran y Coronafeirws (COVID-19) yn y Brifysgol.

Diogelwch ein myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach sydd wedi cael blaenoriaeth gennym wrth ddod i’n holl benderfyniadau hyd yma.

Heddiw, rydym yn edrych ar sut ydym yn gweithio ac am gefnogi dysgu ac addysgu o bell, lle bo’n bosibl.

Bydd y Brifysgol yn parhau i fod ar agor, ond byddwn yn gweithio mewn ffordd wahanol.

Rhagofalon yw’r rhain yn hytrach na thestun pryder ac maent yn seiliedig ar ein hymrwymiad i helpu i gadw ein cymuned yn ddiogel a lleihau’r posibilrwydd o ddod i gysylltiad â’r Coronafeirws. 

Byddwn yn diweddaru’r dudalen am y Coronafeirws ar fewnrwyd y staff yn y man drwy ychwanegu canllawiau pellach. Bydd y canllawiau yn cynnwys y cam allweddol o alluogi staff i weithio gartref a threfniadau gweithio ymysg timau sydd ar wahân.    

Os oes gennych bryderon penodol ynghylch cyflyrau iechyd eraill, neu rywun sy’n agos atoch, siaradwch â’ch rheolwr llinell i drafod yr opsiynau sydd ar gael.

Os oes gennych bryderon ehangach ynghylch y Coronafeirws, trafodwch y rhain gyda’ch rheolwr llinell hefyd. Bydd eich rheolwr llinell yn ystyried unrhyw newidiadau posibl i’ch rôl os bydd o’r farn bod newidiadau o’r fath yn ofynnol neu’n briodol.

Gweithio o bell: Gwasanaethau Proffesiynol

Yn ein cyfarfodydd rheolaidd ynghylch trefniadau wrth gefn, rydym wedi bod yn paratoi ar gyfer parhad busnes os bydd angen gweithio o bell yn y dyfodol.

Rydym yn sylweddoli bydd y syniad o weithio o bell yn newydd i rai pobl.

Byddem yn eich annog i siarad â’ch rheolwr llinell ynghylch yr ystyriaethau ymarferol sy’n berthnasol o ran gweithio gartref a gwneud yn siŵr eich bod yn gallu parhau â’ch gwaith os bydd hyn yn angenrheidiol yn ystod yr wythnosau nesaf.

Cewch ragor o gyngor ar weithio o bell ar y dudalen wybodaeth am y Coronafeirws ar fewnrwyd y staff.

Gweithio o bell: Staff academaidd

Ddoe, ysgrifennais at bob Pennaeth Ysgol i amlinellu ein cynllun i symud i ddysgu ac addysgu o bell, lle bo’n bosibl.

Gan ddechrau heddiw (dydd Llun 16 Mawrth 2020), rydym yn mynd ati cyn gynted ag y bo modd i roi’r gorau i addysgu wyneb yn wyneb yn raddol, fel bod bron yr holl gynnwys yn cael ei addysgu o bell erbyn diwedd yr wythnos – dydd Gwener 20 Mawrth 2020.

Mae ein myfyrwyr yn cael gwybod am y datblygiad hwn heddiw.

Rwyf yn hynod ddiolchgar i’r holl staff am fod mor amyneddgar ac am eu gwaith caled fel bod hyn yn bosibl.  Bydd eich Ysgol mewn cysylltiad yn y man i roi rhagor o wybodaeth am sut allwn addysgu, dysgu ac asesu ar-lein.

Ddiwrnod Agored

Oherwydd yr ansicrwydd ar hyn o bryd ynghylch digwyddiadau sy’n dod â llawer o bobl ynghyd, rydym wedi penderfynu gohirio ein Diwrnodau Agored i Israddedigion ac Ôl-raddedigion oedd i fod i gael eu cynnal cyn bo hir. O ystyried yr ansicrwydd ynghylch teithio ar hyn o bryd, byddem yn annog pawb sydd â digwyddiadau ar y gweill i’w hadolygu ac ystyried beth sydd orau.

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael wrth i ni geisio cael trefn ar bethau.

Cefnogi ein GIG

Rydym yn sylweddoli y gallai ein staff clinigol chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi’r ymdrech ehangach i fynd i’r afael â’r Coronafeirws.

Mae gan y Brifysgol rôl hanfodol o ran darparu’r genhedlaeth nesaf o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd perthynol eraill.

Mae’n gwbl resymol y bydd rhai o’n staff yn bryderus ynghylch sut allen nhw gynyddu’r risg iddyn nhw eu hunain a chleifion, yn enwedig y rhai sydd mewn lleoliad clinigol neu gerllaw. Gall unrhyw un sy’n bryderus siarad â’u Hysgol neu eu pwynt cyswllt mwyaf priodol yn y GIG.

Mae’r sefyllfa yn newid drwy’r amser ac fe wnawn bopeth posibl i roi’r newyddion diweddaraf i chi.

Ar hyn o bryd, hoffwn ddiolch i bob un ohonoch am eich dealltwriaeth.
Mae hwn yn gyfnod anodd a heriol i ni gyd, ac rydym yn wynebu sefyllfa unigryw.

Nid ydym erioed wedi gorfod gweithredu fel hyn ar draws y Brifysgol gyfan o’r blaen. Mae’n sefyllfa ddigynsail. Rydym yn falch iawn o broffesiynoldeb ein staff ac mae angen i ni ddefnyddio eich doniau yn fwy nag erioed ar hyn o bryd wrth i ni ofyn i chi newid sut ydych yn cyflwyno eich dysgu, addysgu a gwasanaethau proffesiynol.  

Ein nod wrth gyflwyno addysgu ar-lein a gweithio o bell yw lleihau’r perygl uniongyrchol i chi, ein myfyrwyr a’n cymuned ehangach o gael yr haint.  

Caiff staff a myfyrwyr eu cefnogi mewn llyfrgelloedd, neuaddau preswyl, mannau arlwyo a chyfleusterau chwaraeon.

Fodd bynnag, gallai olygu y bydd angen i ni newid sut ydym yn cyflwyno’r gwasanaethau hyn.

Byddwn yn parhau i fonitro cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r llywodraeth ac yn cymryd unrhyw gamau pellach sy’n angenrheidiol.
Mae’r sefyllfa hon yn newid yn gyflym a byddwn yn annog pob un ohonoch i gadw llygad ar y canllawiau ynghylch y Coronafeirws ar y fewnrwyd a siarad â’ch rheolwr llinell.

Os oes angen rhagor o gefnogaeth arnoch, cysylltwch â’n Rhaglen Cymorth i Weithwyr (Care First). Cefnogaeth a llinell gymorth gyfrinachol a rhad ac am ddim yw hon sydd ar gael ar gyfer staff 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae’r holl wybodaeth ar gael ar y tudalennau am y Coronafeirws ar fewnrwyd y staff a byddwn yn eich annog i’w darllen yn ddyddiol.

Cofion gorau,
 

Colin Riordan
Is-Ganghellor