Cytundebau Prifysgol Xiamen Malaysia (XMUM)
5 Tachwedd 2019
Yn gynharach y mis hwn, fe es i ar ymweliad i Brifysgol Xiamen Malaysia (XMUM) ar ran y Brifysgol i arwyddo dau gytundeb cynnydd strategol.
XUMU yw chwaer gampws ein Partner Strategol, Prifysgol Xiamen. Fe’i hagorwyd yn 2016 a dyma’r campws tramor cyntaf gan sefydliad blaenllaw o Tsiena. Mae 5000 o fyfyrwyr yno ar hyn o bryd, gyda’r posibilrwydd o ehangu i 10,000 o fyfyrwyr. Mae’r Brifysgol yn agos at faes awyr Kuala Lumpur a 40 munud yn unig o ganol y ddinas mewn campws hardd gyda chyfleusterau trawiadol.
Mae’r Brifysgol yn cynnig cyrsiau israddedig yn bennaf ar hyn o bryd er bod eu darpariaeth meistr a PhD yn ehangu. Addysgir yr holl bynciau yn XMUM trwy gyfrwng y Saesneg heblaw am Astudiaethau Tsieinëeg a Meddygaeth Draddodiadol o Tsieina. Mae traean o’r staff ar secondiad o’u prif gampws yn Tsiena.
Bydd y cytundebau a arwyddir yn Kuala Lumpur yn galluogi myfyrwyr o XMUM i symud ymlaen at amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig yng Nghaerdydd gan gynnwys Busnes, Newyddiaduraeth, Cyfrifiadureg, Mathemateg a Pheirianneg.
Wrth adeiladu ar ein cysylltiadau cadarnhaol gyda Phrifysgol Xiamen Caerdydd yw’r Brifysgol gyntaf yn y DU i arwyddo cytundeb datblygu penodol o’r fath gyda XMUM. Bu cynrychiolydd o Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn ymweld â Kuala Lumpur ym mis Hydref 2018 ac mae cynrychiolydd o Goleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg yn cynllunio taith ar ddechrau 2020.
Mae meysydd cydweithio posibl yn y dyfodol yn cynnwys Cysylltiadau Rhyngwladol, Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Deallusrwydd Artiffisial, Ynni Newydd a Ffiseg. Mae cyfleoedd Ysgol Haf a rhaglenni cyfnewid ar gyfer staff a myfyrwyr hefyd yn cael eu hystyried.
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Llywydd XMUM, yr Athro Wang Ruifang, i Gaerdydd ar ddechrau 2020, a fydd yn rhoi cyfle i ni gryfhau ein partneriaeth gyffrous ymhellach.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cydweithio â XMUM gysylltu ag Anne Morgan – morgana11@caerdydd.ac.uk
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014