Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Academi Gwyddor Data

4 Tachwedd 2019

Yr wythnos ddiwethaf, croesawon ni ein carfan gyntaf o fyfyrwyr i’r Academi Gwyddor Data a lansiwyd yn ddiweddar.

Mae’r fenter gydweithredol rhwng yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a’r Ysgol Mathemateg yn cynnal tair rhaglen ôl-raddedig arloesol; MSc Diogelwch Seibr, MSc Deallusrwydd Artiffisial ac MSc Gwyddorau Data a Dadansoddi.

Nod yr Academi yw cynnig cyfleoedd unigryw ar lefel ôl-raddedig drwy bartneru â diwydiant er mwyn i fyfyrwyr weithio ar brosiectau ‘bywyd go iawn’ a datblygu sgiliau ymarferol y mae cwmnïau sydd am recriwtio ôl-raddedigion yn galw amdanynt ar hyn o bryd.

Mae cartref yr Academi, sydd newydd gael ei ailwampio, ar drydydd llawr De yn Adeilad y Frenhines, a’i enw yw Ystafell Turing. Gyda system Barco AV newydd a gliniaduron Linux, mae’r man newydd yn galluogi hyblygrwydd ac arloesedd o ran addysgu rhyngweithiol.

Bydd 150 o seddi i Ystafell Turing, a chalonogol iawn yw gweld y man newydd hwn yn llawn, gan fod y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr wedi ymrestru ar gyfer y graddau cyffrous hyn.

Mae cynlluniau i gynnal digwyddiad ar ddiwedd mis Tachwedd pan fydd pobl allweddol o fyd diwydiant yn cael eu gwahodd i Ystafell Turing newydd i ddysgu mwy am fodel yr Academi Gwyddor Data a sut gallant gymryd rhan ynddi.

Nawr bod yr ystafell bellach wedi agor, mae’r tîm yn troi eu sylw at ystyried opsiynau ar gyfer datblygu ac ehangu’r cwrs yn y dyfodol ar draws disgyblaethau.

I ddysgu mwy am yr Academi Gwyddor Data, ewch i: https://www.cardiff.ac.uk/cy/data-science-academy