Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Gorffennaf 2019

29 Gorffennaf 2019

Annwyl gydweithiwr

Ers 2016 mae saga Brexit bellach wedi dod â gyrfa dau Brif Weinidog i ben, a bydd rhaid i ni aros i weld a all Mr Johnson osgoi ffawd arweinwyr diweddar y Blaid Geidwadol, y rhwystrwyd pob un ohonyn nhw gan Ewrop mewn rhyw ffordd. Mae’n ymddangos yn dasg anoddach nag erioed, ond bydd dyfodol ei lywodraeth, a’r Cabinet mae wedi’i gynnull, yn haws ei asesu unwaith y bydd pethau’n tawelu, felly fe adawaf i’r materion hynny tan fy ebost ym mis Medi. Yr hyn sy’n fy mhoeni i’n fwy yw’r effaith ehangach y gallai’r newidiadau yn yr hinsawdd wleidyddol ei gael.

Y tu hwnt i Brexit a’i ganlyniadau gwleidyddol, does dim golwg bod y rhaniadau cynyddol sydd wedi dod i’r amlwg yn fyd-eang ers 2016 yn lleihau. Tensiynau o ran masnach a diogelwch rhwng yr Unol Daleithiau a Tsieina, twf llywodraethau poblyddol yn yr UE, anghydraddoldeb cynyddol a’r argyfwng mudo, anghydfod parhaus yn y Dwyrain Canol: mae’r pwysau geowleidyddol hyn i gyd yn effeithio ar bobl gyffredin, ac mae hynny’n wir yma ym Mhrifysgol Caerdydd fel pobman arall. Fel prifysgol rydym ni’n ffynnu ar fod yn agored i’r dalent orau ble bynnag mae i’w chanfod, ac o ganlyniad rydym ni’n croesawu staff o bedwar ban byd. Ers 2016 mae wedi bod yn arbennig o bwysig ein bod yn cefnogi ein cydweithwyr o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd a byddwn ni’n parhau i wneud hynny. Ond mae angen ein cefnogaeth ar ein holl gydweithwyr, boed eu cartref gwreiddiol yn Tsieina, yr Unol Daleithiau, yr Aifft neu Israel, Awstralia, Rwsia neu yn wir unrhyw un o’r dros 70 gwlad mae’n staff yn deillio ohonyn nhw. Gall y gefnogaeth honno fod yn ymarferol o ran cymorth gyda fisas, yn ariannol pan fydd costau cyfreithiol annisgwyl yn codi mewn perthynas â’u cyflogaeth gyda ni, neu’n foesol. Yn wir, mae’n hanfodol ein bod yn cynnig y math o anogaeth a chymorth llai diriaethol y gallai unrhyw un mewn amgylchedd anghyfarwydd ei groesawu. Dyna pam ei bod yn ddyletswydd arnom i gynnig cefnogaeth lawn a diamod i’n cydweithwyr rhyngwladol ar adegau anodd, beth bynnag eu tarddiad, ffydd, ethnigrwydd neu yn wir unrhyw nodwedd warchodedig. Ond mae rheswm arall hefyd: fel prifysgol rydym ni’n ffynnu ar amrywiaeth o safbwyntiau a phrofiadau ac mae ein llwyddiant yn dibynnu ar hynny. Drwy ddysgu oddi wrth ein gilydd, mae creu a lledaenu gwybodaeth yn gwella. Mae cymunedau ysgolheigaidd bob amser wedi bod yn eclectig gan ffynnu ar gyfnewid, ac mae hynny mor wir yma ym Mhrifysgol Caerdydd ag yr oedd yn yr henfyd.

Mae’r wireb honno’n berthnasol hefyd i’n myfyrwyr wrth gwrs, ac mae hyn i’w weld ar ei amlycaf yn ystod y cyfnod Graddio. Wrth i fi sefyll ar y llwyfan mewn naw seremoni y mis hwn yn llongyfarch miloedd o fyfyrwyr yn unigol ar eu llwyddiannau, fe’m trawyd nid yn unig gan y cyfuniad o lawenydd a phryder ar eu hwynebau wrth iddyn nhw groesi’r llwyfan i ysgwyd llaw â fi, ond hefyd gan amrywiaeth enfawr ein corff o fyfyrwyr, mewn sawl ystyr. Mae Graddio’n gyfle nid yn unig i gynnig cefnogaeth, ond hefyd i ddathlu’r amrywiaeth hwnnw’n gadarnhaol, ac ailddatgan gwerthoedd ein natur agored, cynhwysiad a rhyddid i ymholi sy’n sail i’n gweithgaredd rhyngwladol, ac yn y pen draw, ein llwyddiant parhaus.

Er bod symbolaeth Graddio’n bwerus, mae hefyd yn gamp ryfeddol o drefnu, ac rwy’n teimlo efallai mai’r 17 seremoni eleni gyda’u derbyniadau cysylltiedig yn yr Ysgolion oedd y gorau eto. Rydym ni fel pe baem ni wedi canfod y cyfuniad ‘Goldilocks’ hwnnw o ddefod ffurfiol, dathlu anffurfiol ac effeithlonrwydd gwych sy’n helpu i greu gwir gyffro drwy’r ddinas. Eleni fe ddangoson ni ffilm ar ddiwedd y seremoni’n atgoffa graddedigion o’u hamser yng Nghaerdydd, a chafodd groeso mawr, felly diolch yn fawr i’r Uned Ffilm a phawb a gyfrannodd at ei chreu, yn enwedig ein cyn-fyfyrwyr amlwg a chyfeillion y Brifysgol a gytunodd i ymddangos. Rwy’n ddiolchgar iawn am holl waith caled Amanda Coffey, Cadeirydd y Grŵp Llywio Graddio, Ali Carter a Lucy Skellon o’r Tîm Corfforaethol a Digwyddiadau Seremonïol, Fran Dunderdale a Vicky Young o’r Gofrestrfa, y Tîm Cyfathrebu a Marchnata, y cydweithwyr gwych o’r Adran Diogelwch a Phorthora, y Tîm Datblygu a Chyn-fyfyrwyr a edrychodd ar ôl ein 15 Cymrawd er Anrhydedd, y tîm Preswylfeydd, Annabel Hurst a’r tîm arlwyo, a lwyddodd, ymhlith llwyddiannau rhyfeddol eraill i roi eisin a gorffeniad ar 19,365 o gacennau bach a’u gweini, gan gerdded 4,461,807 o gamau, holl gysylltiadau graddio’r Ysgolion a’r dewiniaid TG a ddeliodd gyda’r amrywiol ofynion gan gynnwys y gwasanaeth ffrydio bythol boblogaidd.

Hoffwn gloi drwy ddiolch yn ddiffuant i’r holl gydweithwyr yn y gwasanaethau academaidd a phroffesiynol sy’n cefnogi ein myfyrwyr drwy roi o’u hamser i fynychu’r seremonïau graddio, gorymdeithio, ffurfio carfan y llwyfan a chymeradwyo drwy’r cyfan. Gwerthfawrogir eich presenoldeb yn fawr ac mae’n rhan hanfodol o’r seremoni, nid lleiaf er mwyn ein myfyrwyr sy’n gwerthfawrogi’r cyfle i weld ac ambell waith i gyfarch y rheini sydd wedi hwyluso eu hastudiaethau. Ac yn olaf, mae cydnabyddiaeth arbennig yn ddyledus i gyflwynwyr y gwobrau. Yn fy mhrofiad i, darllen enwau’r myfyrwyr sy’n graddio yw’r dasg anoddaf ac sy’n peri’r straen mwyaf yn yr holl seremoni. Roedden nhw wedi paratoi’n eithriadol o dda a pherfformiodd pob un yn abl ac yn gymwys. Diolch.

A dyna hi am y flwyddyn academaidd hon. Oni bai bod rhywbeth annisgwyl yn codi y bydd angen i fi ohebu amdano, byddaf yn anfon fy ebost nesaf, fel arfer, ddiwedd mis Medi. Gobeithio y cewch chi i gyd fwynhau egwyl i ymlacio a haf cynhyrchiol, a’ch bod, fel fi, yn edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous o’n blaenau.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor