
Ar 31 Hydref, roeddwn yn falch o fynd i ail sesiwn y Clwb Llyfrau BME+, a gynhaliwyd yn rhan o raglen digwyddiadau’r Brifysgol ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon.
Cafodd y llyfr, The Autobiography of Malcolm X, ei ddewis gan Fadhila Al Dhahouri, Llywydd Undeb y Myfyrwyr. Siaradodd y myfyrwyr a’r staff oedd yn bresennol yn agored am eu teimladau a’u dehongliadau o eiriau Malcolm X. Roedd yn noswaith ddiddorol a wnaeth argraff. Croesawyd pob safbwynt a gwnaeth pob safbwynt gwahanol wella ein dealltwriaeth o effeithiau’r llyfr ar ein gilydd.
Mae llwyddiant y Clwb Llyfrau’n deillio’n bennaf o’r ffaith ei fod yn fan diogel lle gall pobl siarad yn agored ac yn onest am hil. Cafodd y llyfr hwn a’r llyfr a ddewiswyd ar gyfer sesiwn gyntaf y Clwb Llyfrau BME+, Citizen: An American Lyric gan Claudia Rankine, eu hysgrifennu gan bobl sydd wedi ysbrydoli pobl eraill i ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb hiliol.
Er mwyn dathlu pen blwydd cyntaf y Clwb Llyfrau BME+, mae cystadleuaeth ‘Prosiect Graffiti’ wedi cael ei lansio i roi llais i fyfyrwyr.
I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, y cwbl sydd angen ei wneud yw llunio neges a/neu ddelwedd yr hoffai’r myfyrwyr ei chyfleu i gynulleidfa ehangach yn y Brifysgol neu’r cyhoedd. Nid oes angen i fyfyrwyr fod yn artist i gymryd rhan. Byddai paragraff o destun sy’n disgrifio’r syniad a braslun yn gwneud y tro! Bydd panel o feirniaid yn dewis enillydd o’r rhai sydd wedi cyflwyno. Bydd yr enillydd yn gweithio ar y cyd gyda chyfranwyr eraill ar y syniad a ddewisir, a gyda’r artist lleol Bradley ‘RMER’ Woods, i drawsnewid y syniad yn ddarn o gelf ar gyfer Preswylfeydd Tal-y-bont.
Dylid cyflwyno’r gwaith erbyn 17:00 ar 31 Ionawr 2019 drwy ebost i Barry Diamond, Uwch Ddylunydd a Rheolwr Brand y Brifysgol (diamondb@caerdydd.ac.uk). Bydd Barry a/neu Susan Cousins, Swyddog Prosiect Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (cousinss@caerdydd.ac.uk) yn falch o drafod eich syniadau a rhoi cyngor cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno. Hefyd, gellir cysylltu â Susan Cousins ynghylch y Clwb Llyfrau BME+.