
Annwyl fyfyrwyr,
Heddiw, mae aelodau Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) wedi pleidleisio o blaid derbyn cynnig ACAS i gael Panel Arbenigol ar y Cyd mewn cysylltiad â chynllun pensiwn USS.
Mae hyn yn golygu bod yr holl weithredu diwydiannol – gan gynnwys streicio ar gyfer yr wythnos sy’n dechrau ar 16 Ebrill 2018 a gweithredu nad yw’n cynnwys streicio – wedi’i atal ar unwaith.
Bydd eich holl weithgareddau dysgu ac addysgu’n cael eu cynnal yn unol â’r amserlenni gwreiddiol o 16 Ebrill 2018.
Rydym yn croesawu penderfyniad heddiw. Mae’n dod â chyfnod anodd o weithredu diwydiannol i ben, sydd wedi bod yn anodd i bawb dan sylw.
Drwy gydol cyfnod y streic, rydym wedi canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod cyfleoedd priodol ar gyfer dysgu ac asesu i’r myfyrwyr hynny sydd wedi’u heffeithio gan y streic h.y. dosbarthiadau a gafodd eu heffeithio neu a amharwyd arnynt.
Os yw’r streic wedi effeithio ar eich astudiaethau, bydd eich Ysgol eisoes wedi bod mewn cysylltiad i roi manylion am y camau y maent yn eu cymryd ar gyfer eich rhaglen astudio. Pan fyddwch yn ailgydio yn eich astudiaethau ddydd Llun, byddwn yn canolbwyntio ar eich helpu i gyflawni deilliannau dysgu eich rhaglen.
Hoffwn eich sicrhau y byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i gefnogi eich dysgu er mwyn gwneud yn siŵr bod yr asesiadau yn briodol ac yn deg. Byddwn hefyd yn helpu i baratoi ar gyfer eich arholiadau.
Bydd pob Bwrdd Arholi yn cael gwybod am bob achos pan mae’r streic wedi amharu’n uniongyrchol ar addysgu a’r camau lliniaru a gymerwyd. Bydd yr holl fodiwlau y mae’r streic wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol yn cael eu hystyried yn rhai lle bu diffyg neu anghysondeb yn null cyflwyno a/neu asesu’r modiwl. Felly, ni fydd angen i chi roi gwybod am y rhain fel amgylchiadau esgusodol oherwydd caiff addasiadau rhesymol eu gwneud.
Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â’ch Ysgol fydd yn gallu helpu.
Er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer eich arholiadau, rydym yn cynnig cyfres o ddosbarthiadau sgiliau arholiad yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 16 Ebrill 2018. Mae’r sesiynau hyn yn agored i bob myfyriwr ac yn cynnig y cyfle i gael cyngor ar ddulliau effeithiol o adolygu, yn ogystal ag awgrymiadau ynghylch arholiadau. Mae’r dosbarthiadau sydd ar gael yn cynnwys sesiynau am ysgrifennu traethodau ar gyfer arholiadau a rheoli amser ar gyfer adolygu ac arholiadau.
Gallwch gofrestru ar gyfer dosbarth sgiliau arholiad yma.
Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau mewn cyfarfod agored i fyfyrwyr gyda’r Is-Ganghellor ddydd Mawrth 17 Ebrill 2018 am 1.00 pm. Bydd yr Is-Ganghellor yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa yn ogystal â chamau’r Brifysgol wedi i’r gweithredu diwydiannol ddod i ben. Gallwch gadw eich lle yma.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl i’r Brifysgol ddydd Llun.
Yn gywir,
Yr Athro Amanda Coffey
Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd