Streic: Cefnogi eich prosesau dysgu ac adolygu
11 Ebrill 2018Neges i fyfyrwyr gan Yr Athro Amanda Coffey – Dirprwy Is-ganghellor, Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd – ynghylch sut mae’r Brifysgol yn parhau i gefnogi eich prosesau dysgu ac adolygu ar ôl gwyliau’r Pasg.
Annwyl fyfyrwyr,
Wrth i chi baratoi i ail-gydio yn eich astudiaethau ar ôl gwyliau’r Pasg, hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am sut gall y Brifysgol barhau i gefnogi eich prosesau dysgu ac adolygu. Rydym am wneud yn siŵr bod yr holl gymorth posibl ar gael ar eich cyfer er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer y cyfnod arholiadau sydd ar y gweill.
Byddwch yn ymwybodol bod amserlenni arholiadau wedi’u cyhoeddi ac i’w gweld ar SIMS ar-lein. Bydd yr holl arholiadau yn cael eu cynnal yn ôl yr amserlenni gwreiddiol, a bydd yr arholiadau yn asesu’r dulliau dysgu a gyflwynwyd.
Er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer eich arholiadau, bydd Cefnogi a Lles Myfyrwyr yn cynnig cyfres o ddosbarthiadau sgiliau arholiad yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 16 Ebrill 2018. Mae’r sesiynau hyn yn agored i bawb ac yn gyfle i gael cyngor ar ddulliau effeithiol o adolygu, yn ogystal ag awgrymiadau ynghylch arholiadau.
Mae’r rhain yn ychwanegol at y camau a amlinellwyd gan eich Ysgolion i fynd i’r afael â modiwlau a effeithiwyd gan y gweithredu diwydiannol yn ddiweddar. Mae’r dosbarthiadau sydd ar gael yn cynnwys sesiynau am ysgrifennu traethodau ar gyfer arholiadau a rheoli amser ar gyfer adolygu ac arholiadau. Mae rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gadw lle ar gael yma.
Bydd Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol hefyd yn cynnig ‘Pecyn Goroesi Arholiadau’ drwy gydol cyfnod yr arholiadau. Gallwch hefyd ddefnyddio’r teclyn Mannau Astudio rhwng 23 Ebrill a 3 Mehefin i’ch helpu i ddod o hyd i fannau astudio sydd ar gael ar draws y campws.
Rydym yn gwybod bod yr aflonyddwch a achoswyd gan y gweithredu diwydiannol wedi peri pryder a gofid i rai ohonoch. Mae ein tîm Cwnsela, Iechyd a Lles wrth law fel bod cyfle i chi rannu eich pryderon mewn amgylchedd cyfrinachol a diogel. Maent hefyd yn cynnig nifer o sesiynau i grwpiau a gweithdai sy’n cwmpasu amrywiaeth o faterion. Cewch ragor o wybodaeth yma.
Yn olaf, efallai y byddwch yn ymwybodol bod aelodau UCU ar hyn o bryd yn pleidleisio ar y cynnig a gyflwynwyd gan UUK, a allai roi terfyn ar y gweithredu diwydiannol presennol. Disgwylir canlyniad y bleidlais honno ddiwedd yr wythnos hon.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw’r canlyniad pan fydd yn hysbys. Bydd eich Ysgol yn cysylltu â chi os bydd y canlyniad yn cael effaith bellach ar eich dosbarthiadau, a bydd hefyd yn cynghori ar y camau y bydd y Brifysgol yn eu cymryd mewn ymateb. Cadwch lygad ar eich negeseuon ebost dros y penwythnos.
Yn ogystal, bydd yr Is-Ganghellor yn cynnal cyfarfod agored i fyfyrwyr ddydd Mawrth 17 Ebrill, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol a rhoi’r cyfle i fyfyrwyr fynegi unrhyw bryderon sydd ganddynt. Gallwch gadw eich lle yma.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl i’r Brifysgol yr wythnos nesaf.
Yn gywir,
Yr Athro Amanda Coffey
Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad y Myfyriwr a Safonau Academaidd
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014