Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

‘Creu’r Cysylltiad – Cytundeb Arloesedd Cenedlaethol Newydd i Gymru’

28 Mawrth 2018

Mewn byd sy’n llawn technoleg newydd, timau clyfar ac arloesol sy’n ennill. Maen nhw’n ffynnu gyda hyblygrwydd, talentau a hyder – ond dim ond drwy weithio ar sail ymchwil o’r radd flaenaf maen nhw’n llwyddo.

Dyna pam mae’n bleser gennyf groesawu cyhoeddiad adroddiad terfynol Cynyddu Gwerth Cymru gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnesau (NCUB).

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi eistedd fel aelod o’r panel cynghori yn adolygiad yr Athro Graeme Reid o Ariannu Ymchwil ac Arloesedd yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai, a bydd yn gwneud argymhellion fydd yn cyd-fynd yn agos â chynigion blaenorol Diamond, ynglŷn â sut i gynnal cystadleurwydd ymchwil ac arloesedd yng Nghymru a chyfrannu at ffyniant i bawb.

Un o themâu allweddol y gwaith hwn yw pwysigrwydd ymchwil o’r radd flaenaf a’r cyfraniad y mae hyn yn ei wneud i ddatblygiad economaidd hirdymor.

Pan mae gweithgarwch arloesedd yn seiliedig ar gyllid Ymchwil o Safon (QR), mae’n galluogi prifysgolion i gydweithio â busnesau ac yn helpu ôl-raddedigion talentog i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fod yn ddeniadol iawn i gyflogwyr.

Mae ‘Creu’r Cysylltiad – Cytundeb Arloesedd Cenedlaethol Newydd i Gymru’  – a gyhoeddwyd gan Dasglu Cynyddu Gwerth Cymru – yn galw am ragor o gyllid QR.

Mae’r dadansoddiad hefyd yn dangos bod ‘grymoedd sy’n tarfu’ yn bodoli yng Nghymru, gan gynnwys sefyllfa ein byd ar ôl Brexit, a newid yn yr economi fyd-eang. Mae technoleg yn gwthio busnesau tuag at ddadansoddeg data, cyfrifiadura cwantwm, a Deallusrwydd Artiffisial.

Yng Nghymru, mae’n rhaid i ni alinio ein buddion, datblygu cyfathrebu o safon, a chynnal cysylltiadau rhagorol.

Mae Adolygiad Reid yn cynnig fframwaith ar gyfer cyflymu arloesedd drwy gynyddu cyllid QR gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau cynydd sylweddol yn lefel y sgiliau a gwybodaeth yng ngweithlu Cymru er mwyn cyrraedd yr uchelgais o gynyddu cynhyrchiant, cystadleurwydd a ffyniant.

Rhaid i ni hefyd gael cymorth gan Lywodraeth Cymru i leihau risg a chyflymu gwaith mewn canolfannau ymchwil a datblygu ar y cyd ar gampysau sy’n canolbwyntio ar dechnolegau newydd. Mae’n rhaid i brifysgolion a chyflogwyr gydweithio’n fwy effeithiol er mwyn ymateb i anghenion sgiliau’r wlad drwy gyd-ddylunio cwricwla, ail-sgilio gydol oes, a datblygiad proffesiynol parhaus

Mae arloesedd yng Nghymru mewn sefyllfa i allu dwyn buddiannau sylweddol. Nawr yw’r amser i fynd amdani.