
- Nodwyd bod dwy o’r pedair sesiwn briffio ar gyfer staff gan arbenigwyr pensiynau USS Mercer wedi eu cynnal ac y byddai un o’r cyflwyniadau gan Mercer ar gael ar y fewnrwyd ddydd Mercher gyda chwestiynau a ofynnwyd yn ystod y sesiynau briffio yn cael eu grwpio i’w cynnwys mewn dogfen cwestiynau cyffredin.
- Nodwyd bod Caerdydd yn yr ail safle yng Ngrŵp Russell am ehangu cyfranogiad.
- Nodwyd bod yr EPSRC wedi lansio galwad am Bartneriaethau Hyfforddiant Doethurol gyda £500 o gyllid ar gael.
- Nodwyd bod yr Athro Peter Ghazal, cadeirydd Sêr Cymru yn yr Ysgol Meddygaeth a benodwyd i arwain y Prosiect Sepsis, wedi traddodi ei ddarlith agoriadol yr wythnos ddiwethaf.
- Derbyniodd y Bwrdd gofrestrau risg Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, y Colegau a’r Gwasanaethau Proffesiynol. Gwneid rhai newidiadau cyn eu cyflwyno i Lywodraethu a’r Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau.
- Derbyniodd y Bwrdd ymateb drafft y Brifysgol i ymgynghoriad CCAUC ar fesurau cenedlaethol ar gyfer perfformiad addysg uwch.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:
- Adroddiad Chwarterol Dangosfwrdd Adnoddau Dynol