Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Ebrill 2017

28 Ebrill 2017

Annwyl gydweithiwr

Roeddwn i’n falch iawn o gael y newyddion y mis hwn ein bod wedi cael grant £13m i greu Canolfan Ymchwil Dementia, un o blith chwech yn y DU. Bydd y Ganolfan, sydd â’r gallu i greu £17m ychwanegol mewn cyllid ymchwil i Gaerdydd dros y pum mlynedd nesaf, yn rhan o Sefydliad Ymchwil Dementia y DU, sy’n werth £250m ac yn cael ei arwain gan yr Athro Bart de Strooper, sy’n gweithio yng nghanolfan y Sefydliad yn UCL yn Llundain. Diolch a llongyfarchiadau i’r Athro Kim Graham, sydd wedi buddsoddi llawer o amser ac ymdrech i ddatblygu’r cynnig, ac i’r Athro Julie Williams, fydd yn Gyfarwyddwr ar y Ganolfan yng Nghaerdydd, ac a fydd yn dychwelyd i’r Brifysgol i weithio amser llawn yn y rôl hon ar ôl cwblhau ei chyfnod fel Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru.

Byddai’n rhyfedd peidio â sôn am yr Etholiad Cyffredinol sydd ar y gweill, ond y gwir yw nad oes llawer y gallaf ei ychwanegu at yr hyn y byddwch eisoes wedi’i glywed gan y cyfryngau. Rydym yn dechrau dod i arfer â gweld digwyddiadau annisgwyl yn rheolaidd dros y blynyddoedd diwethaf: mae’n bosibl o leiaf y bydd yr Etholiad hwn yn cynnig ychydig mwy o sefydlogrwydd a sicrwydd hyd at 2022, er, rwy’n ofni y bydd hi’n anodd iawn rhagweld canlyniad y trafodaethau ynglŷn â Brexit, felly bydd raid i ni aros i weld beth a ddaw. Un canlyniad posibl, ar wahân i’r tebygolrwydd o weld tirwedd wleidyddol dra gwahanol, yw y bydd y cabinet yn cael ei aildrefnu (gan gymryd yn ganiataol y bydd y llywodraeth bresennol yn cael ei hail-ethol). Byddaf yn dychwelyd at y mater hwn, wrth gwrs, yn fy ebost ym mis Mehefin. Yn y cyfamser, dylwn wneud beth bynnag y gallwn i annog myfyrwyr i gofrestru i bleidleisio, a hoffwn ofyn i fy nghydweithwyr academaidd i gydweithio ag unrhyw geisiadau gan Undeb y Myfyrwyr am gymorth i rannu’r neges hon.

Yn gynharach y mis hwn, cawsom ein llythyr blynyddol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae’r llythyr, fel yr oeddem yn disgwyl, yn nodi y bydd yr esgid fach yn gwasgu i Brifysgol Caerdydd dros y blynyddoedd nesaf. Roeddem wedi rhagweld hyn ers i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, hysbysu CCAUC am eu dyraniad cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a oedd yn cynnwys gostyngiad o tua £28m. Byddwn yn dod o hyd i ffyrdd o ymdopi gan wybod, wrth i ddiwygiadau Adolygiad Diamond ddod i rym, y bydd incwm y Brifysgol yn dechrau dod yn gynaliadwy unwaith eto. Trwy gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru rwy’n gobeithio y bydd modd i ni ddod o hyd i gynifer o ffyrdd â phosibl o sicrhau ein bod yn pontio’n llwyddiannus i’r drefn newydd o gyllido a chefnogi myfyrwyr o 2018/19 ymlaen.

Mae’n bosibl y byddwch eisoes yn gwybod ein bod wedi penodi Mr Rob Williams i gymryd yr awenau gan Mr Mike Davies fel Prif Swyddog Ariannol ar 3 Gorffennaf.  Mae Rob yn unigolyn uchel iawn ei barch yn y sector, ac mae’n ymuno â ni ar ôl gweithio yn ei rôl fel dirprwy ym Mhrifysgol Rhydychen. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Rob wrth i ni ymateb i heriau a chyfleoedd y blynyddoedd nesaf, ac rwy’n hyderus iawn y byddwn mewn sefyllfa gryfach nag erioed ar ôl wynebu’r cyfnod hwn o ansicrwydd.

Mae’n werth sôn am elfen arall o lythyr cylch gwaith Ysgrifennydd y Cabinet at CCAUC: mae Kirsty Williams yn cyfeirio’n benodol at ei disgwyliad y dylai prifysgolion Cymru dalu’r Cyflog Byw. Fel y gwyddoch eisoes, rydym wedi bod yn talu’r Cyflog Byw ers 2014, ac wedi cael achrediad fel cyflogwr Cyflog Byw ers mis Medi 2014. Ein rheswm dros wneud hyn yw ein bod yn credu ei fod yn bwysig sicrhau bod y rhai sydd ei angen fwyaf, ac sy’n gweithio’n galed iawn ar ran y Brifysgol, yn cael cyflog teg am eu cyfraniad. Rydym am sicrhau nad ydynt mewn sefyllfa lle nad yw gweithio i ni, neu i gwmnïau sy’n contractio gyda ni, yn ddigon iddynt dalu eu costau o ddydd i ddydd. Rwy’n gobeithio y daw hyn yn safbwynt cyffredin ymhlith cyflogwyr yng Nghymru, ac mae adroddiad gan ein Hysgol Busnes a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn – Y Cyflog Byw – Profiad Cyflogwyr – wedi canfod manteision i gyflogwyr yn ogystal â chyflogwyr ar gyflog isel. Mae canfyddiadau’r astudiaeth yn dangos mai’r awydd i ymddwyn mewn modd cyfrifol yw un o’r prif resymau pam mae cyflogwyr am gael achrediad cyflogwr Cyflog Byw, a gallaf gadarnhau hyn o fy mhrofiad fy hun.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor