
- Cafodd y Bwrdd gyflwyniad gan Ms Alice Streatfeild, Cyfarwyddwr Ymchwil o ORC International am ganlyniadau’r arolwg staff diweddar. Nodwyd bod 69% wedi ymateb i’r arolwg, sydd ychydig yn uwch na chyfartaledd y sector, sef 66%. Cytunwyd ar y meysydd canlynol fel y blaenoriaethau a argymhellir ar gyfer y Bwrdd sy’n deillio o’r arolwg – sut caiff penderfyniadau eu gwneud; cydweithio ar draws y Brifysgol; ac ymgorffori nodau ac amcanion strategol mewn Ysgolion, Adrannau a Cholegau.
- Cafodd y Bwrdd ddrafftiau diweddaraf y strategaeth newydd, yr is-strategaethau, y dangosyddion perfformiad allweddol a’r dangosyddion arweiniol. Trafododd y Bwrdd y drafftiau diweddaraf. Bydd mân ddiwygiad yn cael ei wneud a bydd y Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau yn eu derbyn.
- Cafodd y Bwrdd bapur am ysgoloriaethau/bwrsariaethau 2018/19.
- Cafodd y Bwrdd bapur am wella llwybrau at annibyniaeth yrfaol. Bydd cofrestryddion y Coleg, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd yn mynd ati nawr i ystyried sut i ariannu’r argymhellion.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:
- Adroddiad misol am faterion ariannol
- Y newyddion diweddaraf am ymchwil ac arloesedd
- Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
- Y newyddion diweddaraf am y System Arloesedd
- Y newyddion diweddaraf am y gweithgareddau ymgysylltu
- Adroddiad misol y Prif Swyddog Gweithredu
- Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor