Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Blog Brexit a Chymru

5 Ebrill 2017

Mae’n debygol mai Brexit fydd y mater gwleidyddol ac economaidd a fydd yn cael y prif sylw dros y blynyddoedd nesaf. Bydd angen meddwl yn feirniadol, a chael dadl onest a barn eang er mwyn ein helpu i lunio dyfodol Cymru a’r DU wrth baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar y diwrnod y cychwynnwyd Erthygl 50, lansiwyd Blog Brexit newydd gennym: (https://blogs.cardiff.ac.uk/brexit/). Rydym am i’r blog gasglu arbenigedd am Brexit, gan ei fod yn ymwneud ag ymadawiad Cymru a’r DU o’r UE.

Oherwydd bod gennym eisoes gyfoeth o arbenigwyr ar faterion sy’n ymwneud â Brexit, rydym yn gobeithio mai’r blog hwn fydd y lle cyntaf y bydd pobl yn troi ato i ddarllen sylwadau gan arbenigwyr yn y maes hwn. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn llwyfan ar gyfer trafodaethau a dadansoddiadau manwl a fydd yn helpu i lywio ein dealltwriaeth o’r mater.

Mae ein post cyntaf gan yr arbenigwr ar bleidleisio, yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yn edrych ar beth y mae’r polau piniwn cyfredol yn ei ddweud wrthym am agweddau tuag at Brexit. Mae’n dod i’r casgliad nad oes newid amlwg ym marn y cyhoedd ers y refferendwm, a bod llawer gennym i’w ddeall eto am faint mae’r cyhoedd yn ei wybod ac yn ei ddeall ar faterion sy’n ymwneud â Brexit. Mae’n amlinellau sut y bydd ymchwil ansoddol a meintiol a ariennir gan y Brifysgol dros y blynyddoedd nesaf yn dechrau holi beth mae etholwyr Cymru yn ei wybod, ei deimlo a’i ddeall am Brexit mewn gwirionedd.

Rydym am i’r blog fod yn gymysgedd o sylwebaeth ac ymchwil, ac iddo gael ei lywio gan y materion pwysig sy’n cael eu trafod yn y maes hwn. Os ydych yn gwneud gwaith ymchwil neu’n gweithio yn y maes hwn, a hoffech gyfrannu at y blog, cysylltwch â Lowri Jones (joneslc3@caerdydd.ac.uk)