

Ddydd Iau, 3 Tachwedd, fe deithiais i Fanceinion ar gyfer Innovate 2016. Digwyddiad blynyddol yw hwn a gynhelir gan yr Adran Masnach Ryngwladol ac Innovate UK a’i nod yw arddangos rhai o arloeswyr mwyaf cyffrous y DU i weddill y byd.
Roeddwn yn cynrychioli Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesedd De-orllewin Lloegr a De-ddwyrain Cymru (SWW-SIA) yn y digwyddiad. Mae SWW-SIA wedi dod â nifer o sefydliadau academaidd, dinesig ac economaidd pwysig ar draws ein rhanbarth ynghyd, gan gynnwys Cynghrair GW4, Prifysgol Gorllewin Lloegr, Prifysgol Plymouth, Llywodraeth Cymru, Partneriaethau Menter Lleol a sefydliadau a busnesau allweddol.
Uchafbwynt Innovate 2016 oedd araith gan Greg Clark, Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, a rannodd ei weledigaeth o strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU.
Yn ei araith, canolbwyntiodd Greg Clark ar thema ganolog: ‘y cysylltiad rhwng arloesedd a lle.’ Mae’n gysyniad sy’n berthnasol i Brifysgol Caerdydd a Chynghrair GW4 gan mai ein nod yw cynnal ymchwil arloesol sydd o les i’n cymunedau lleol ac sy’n gallu cystadlu’n fyd-eang.
Defnyddiodd y Gweinidog ei araith i lansio’r don gyntaf o Archwiliadau Gwyddoniaeth ac Arloesedd. Cyfeiriodd at y rhain fel tystiolaeth mai’r “dull cydweithio a arweinir yn lleol yw’r ffordd ymlaen”. Diolchodd y consortia am eu gwaith ac ymrwymodd i ddefnyddio’r adroddiadau hyn fel y sail dystiolaeth awdurdodol ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol.
I gonsortiwm SWW-SIA, roedd yr ymarfer yn gyfle unigryw i ddatblygu partneriaethau a chreu cysylltiadau newydd ymysg ein prifysgolion, sefydliadau mawr, Llywodraeth Cymru a Phartneriaethau Menter Lleol i fanteisio ar ein cryfderau ymchwil a diwydiannol.
Nododd yr archwiliad bod y rhanbarth yn gartref i sector awyrofod mwyaf y DU yn ogystal â diwydiannau modurol, niwclear ac adnewyddadwy morol. Amlygodd hefyd fod ein rhanbarth yn adnabyddus am ei harloesedd digidol: mae’n gartref i’r clwstwr dylunio silicon mwyaf y tu allan i UDA; mae mwy o arbenigedd am yr hinsawdd yno nag unrhyw ardal arall yn y byd; mae’n ganolbwynt ar gyfer y diwydiant microelectroneg ac mae’n enghraifft genedlaethol ar gyfer dinasoedd clyfar.
Rhaid i ni nawr barhau i wneud y gwaith pwysig hwn o ddiffinio De-orllewin Lloegr a De-ddwyrain Cymru fel rhanbarth pwerus sy’n gallu arwain y DU ym maes peirianneg a arloesedd, ac edrychaf ymlaen at ddatblygu’r momentwm hwn gyda’n partneriaid.