Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 3 Hydref 2016

3 Hydref 2016
  • Nodwyd bod yr Is-Ganghellor wedi mynd i Grŵp Cynghori Ewropeaidd Cymru y Prif Weinidog ar 28 Medi 2016 yn ogystal â Gweithgor Brexit AU a gynhaliwyd nes ymlaen yr un diwrnod.
  • Nodwyd bod Ysgol y Biowyddorau wedi ennill gwobr arian Athena SWAN arian a bod yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddoniaeth Fferyllol wedi llwyddo i ddal ei gafael ar ei gwobr arian am flwyddyn arall.
  • Nodwyd llwyddiant Hanner Marathon Caerdydd.
  • Cafodd y Bwrdd bapur oedd yn crynhoi argymhellion Adolygiad Diamond, Yr Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru. Croesawyd yr argymhellion ac fe nodwyd, os caiff y rhain eu gweithredu’n llawn, y bydd yn golygu mai yng Nghymru fydd y system ariannu fwyaf blaengar yn y DU. Os caiff yr argymhellion eu derbyn, nodwyd na fyddai’r system ariannu newydd yn gallu cael ei chyflwyno tan 2018/19 ar y cynharaf.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am erthyglau a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caerdydd ar wefan The Conversation. Cytunwyd y gallai Caerdydd wneud gwell defnydd o’r adnodd a chytunwyd i sefydlu rhwydwaith anffurfiol o lysgenhadon academaidd.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Adroddiad misol yr Ystadau
  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd
  • Adroddiad am yr Amgylchedd Allanol