Cyffro’r Hanner Marathon
3 Mawrth 2016
Oherwydd y galw yn dilyn cyhoeddi tîm Prydain Fawr ar gyfer y digwyddiad, mae cyfle arall i chi gofrestru ar gyfer ras dorfol Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd.
Gallai’r ras, a fydd yn digwydd ar ddydd Sadwrn 26 Mawrth fod y cyfarfod athletau mwyaf yng Nghymru ers Gemau’r Gymanwlad 1958. Rydym wedi sicrhau partneriaeth y bencampwriaeth, gan sicrhau amlygrwydd mawr yn y digwyddiad hwn sy’n cael ei ddarlledu ar draws y byd ar y BBC ac yn gyfle i ni i ddangos ein Prifysgol a’n dinas gyda’r llinell derfyn yn union y tu allan i’n hadeiladau.
Bydd miloedd o redwyr amatur, gan gynnwys 200 o staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr sy’n aelodau o Dîm Caerdydd, yn cael y cyfle i redeg yn ôl traed pencampwyr. Mae Mo Farah wedi cael ei gadarnhau fel llysgennad swyddogol y digwyddiad a bydd yr athletwyr Geoffrey Kamworor a Gladys Cherono o Kenya ymhlith y 200 o athletwyr elitaidd a ddisgwylir i redeg.
Bydd rhedwyr hefyd yn cael y cyfle i godi arian ar gyfer tri o achosion Prifysgol Caerdydd – cymorth i fyfyrwyr, ymchwil canser ac ymchwil dementia. Mae dros 30 o redwyr wedi cofrestru ar ein tudalennau JustGiving hyd yn hyn. Diolch!
Mae’r rhai hynny na allant efallai redeg y pellter (gan gynnwys fi) yn gallu dal i ymuno. Hyd yn hyn mae bron 240 o staff a myfyrwyr wedi ymuno fel gwirfoddolwyr swyddogol y ras i weithredu fel stiwardiaid, dosbarthwyr dŵr a marsialiaid ar y dechrau a’r diwedd. Mae Prifysgol Caerdydd hefyd wedi gweithio gyda’r IAAF a Run4Wales i ddarparu lleoedd mynediad am ddim, dillad a chymorth hyfforddiant i 500 o redwyr dibrofiad a rhedwyr am y tro cyntaf o rai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig. Aeth y lleoedd o fewn awr o gael eu cynnig a byddwn yn dilyn hynt rhai o’r rhedwyr hyn yn y cyfnod yn arwain at y ras ac ar y diwrnod.
Gydag iechyd y cyhoedd yn ffurfio rhan fawr o waith y ddau sefydliad, rydym wedi bod yn brysur yn hyrwyddo manteision ffordd iach, heini o fyw, ac mae tîm o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil i ddarganfod beth sy’n ysgogi pobl i redeg. Dylai’r canfyddiadau helpu trefnwyr rasys torfol i ddenu ystod ehangach o gyfranogwyr yn y dyfodol. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn yr astudiaeth yn cynnwys y 500 o redwyr am y tro cyntaf sy’n cael cynnig cyngor ar atal anafiadau a mynediad i weithdai wedi eu rhedeg gan Inspire Performance Sports a Thîm Ffisiotherapi Ymarfer Corff Prifysgol Caerdydd. Mae’r ymchwil yn cyd-fynd â rhaglen Trawsnewid Cymunedau y Brifysgol, sy’n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt mewn meysydd sy’n cynnwys iechyd, addysg a lles.
Ar gyfer yr holl rai sy’n rhedeg yn y digwyddiad, pob lwc gyda’r hyfforddiant! Mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod gwych.
Gallwch gymryd rhan drwy gofrestru yma ar gyfer y ras.
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014