Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Cyflog cyfartal yn 45

27 Mawrth 2015

Dyna deitl araith y Farwnes Randerson neithiwr ac mae’n cyfeirio at y ffaith ei bod yn 45 mlynedd ers cyflwyno’r Ddeddf Cyflog Cyfartal. Roeddwn i’n hynod falch o lywio’r digwyddiad ac yn falchach byth o glywed sylw agoriadol y Farwnes fod ymweld â Phrifysgol Caerdydd fel dod adre’n ôl.

Amlinellodd y Farwnes ei gweledigaeth ar gyfer sicrhau cydraddoldeb i fenywod yn yr economi. Soniodd hi am daith cydraddoldeb gan ei chymharu â thaith a oedd wedi cychwyn yng Nghas-gwent ac ar y ffordd i Gaergybi. Er bod y daith yn arafach nag y byddem yn hoffi, ac nad ydyn ni wedi cyrraedd Caergybi o bell ffordd, rydyn ni’n dal i symud yn ein blaen. Tanlinellodd y Farwnes bwysigrwydd annog rhagor o ferched i astudio pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) a thynnodd sylw at y gwaith pwysig y mae’n Hathro Karen Holford ni’n ei wneud wrth fentora merched ifanc a’u hannog i fynd i faes peirianneg. Fe awgrymodd hi hyd yn oed ein bod ni’n clonio’r Athro Holford gannoedd o weithiau, ac yn bendant gallaf weld rai manteision i hynny!