Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Ymweliad ymchwil â De Korea

25 Tachwedd 2014

Dros yr wythnos diwethaf rwyf wedi bod yn Ne Korea i fynychu cyfarfod o Rwydwaith Cyfleusterau Ymchwil Underground yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol. Mae’r Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol yn cwmpasu ystod o faterion cynaliadwyedd Geoamgylcheddol a ffocws pwysig o’n gwaith yw’r gwaredu daearegol, yn ddiogel, o wastraff niwclear lefel uchel.

Roedd llawer o bwyslais ar hyfforddi, datblygu codau asesu diogelwch a’r sgiliau a’r arbenigedd sydd eu hangen ar y sector. Roedd yr ymweliadau technegol i’r safleoedd yng Nghorea sy’n gyfrifol am waredu gwastraff yn hynod addysgiadol yn ogystal â’r seminarau a oedd yn canolbwyntio ar ddirnadaeth gyhoeddus y wlad tuag at reoli a gwaredu SNF. Roedd yr achlysur hefyd yn gyfle rhwydweithio defnyddiol iawn, gan ei fod wedi ei fynychu gan lawer o ymchwilwyr rhyngwladol a thrafodwyd cyfleoedd ymchwil yn eang.

Mae bod yn Ddirprwy Is-Ganghellor yn rôl sy’n eich amsugno ac un sy’n gyffrous iawn. Mae’n wych gallu cyfrannu at ddatblygiad strategol y Sefydliad tra hefyd yn cadw portffolio ymchwil weithgar iawn gyda’r Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol. Mae ymchwil wrth wraidd yr hyn a wnawn a daw hynny i’r amlwg yn ein haddysgu, yn y gwaith ffurfiannol rydym yn ei wneud ar gyfer ein myfyrwyr, yn ein hallbynnau ac wrth helpu i fynd i’r afael â materion byd-eang. Mae’r Brifysgol yn darparu llawer o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa ac rwyf wedi bod yn gysylltiedig â llawer o ymchwil arloesol ers ymuno â’r Brifysgol fel darlithydd ifanc. Yn 2013, dyfarnwyd i’r Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol, a leolir yn Ysgol Beirianneg y Brifysgol, Wobr Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach. Mae’r ganolfan wedi mynd i’r afael â’r etifeddiaeth o weithgaredd diwydiannol yn y gorffennol ac wedi darparu atebion i heriau ynni’r byd yn y dyfodol.