E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff ar gyfer Mis Hydref
31 Hydref 2014Annwyl gydweithiwr
Darllenais pa ddiwrnod fod y Frenhines wedi dechrau trydar. Gan nad ydw i’n trydar, alla i ddim honni bod yn arbenigwr ar y pwnc ond rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n cael ychydig o drafferth dygymod â’r syniad bod ein brenhines yn bwydo geiriau i’w ffôn am yr ymweliad diweddaraf neu bethau tebyg. Wedi dweud hynny, dydw i ddim mor allan ohoni nes sylweddoli nad y Frenhines fydd yn trydar: menter yw hon gan swyddfa gyfathrebu’r Palas ac mae hynny’n berffaith resymol. Gan fod y frenhiniaeth bob amser wedi ymaddasu i newidiadau cymdeithasol a thechnolegol, dydy trydar yn ddim mwy na’r cam diweddaraf yn y broses honno.
Yr hyn a wnaeth i mi feddwl am hynny oedd ein bod ni wrthi’n lansio blog Bwrdd Gweithredol y Brifysgol. Mae ef i’w weld yma. Y syniad yw y gall ein cydweithwyr weld yr holl weithgareddau gwahanol y mae aelodau’r Bwrdd yn eu cyflawni a chael cip ar y ffordd y mae pethau’n gweithio. Ond yn wahanol i’r e-bost hwn y bydda i’n ei lunio bob mis, caiff y mwyafrif o’r cyfraniadau i’r blog o dan fy enw eu llunio ar fy nghyfer i. Bydda i’n eu hadolygu ac, os bydd angen, yn eu golygu, ac ambell waith bydda i’n ysgrifennu fy rhai fy hun. Rwy’n credu mai dyna’r drefn arferol gan mwyaf a bydd gen i reolaeth olygyddol o hyd, ond mae’n bwysig i mi fod yn glir ynglŷn â’r materion hyn. Beth bynnag, gobeithio y cewch chi flas ar y blog – lle cewch chi gyfraniadau gan amrywiaeth o aelodau’r Bwrdd – ac yn ei gael yn ddefnyddiol.
Yn gynharach yn y mis fe siaradais mewn digwyddiad sy’n un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yn fy marn i: y derbyniad i ysgolheigion rhyngwladol. Fe wnes i gyfarfod â myfyrwyr o bedwar ban y byd yno. Yr Unol Daleithiau, Ghana, Tsieina, De Affrica ac India yw dim ond dyrnaid o’r gwledydd sy’n dod i’r meddwl. Roedd y myfyrwyr yno’n hynod lafar, disglair a difyr, ac yn ysbrydoliaeth. Atgoffodd hynny fi – er nad oes angen f’atgoffa – mai amrywiaeth ein myfyrwyr yw un o’r pethau sy’n ein gwneud ni’n gryf ac yn llwyddiannus. Ar hyn o bryd, brodorion o diroedd y tu hwnt i’r ynysoedd hyn yw chwarter ein myfyrwyr; yn wir, mae’r gyfran yn codi i ychydig dros hanner yn achos ein myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir. Mae hynny’n beth da. Gan mai prifysgol ydyn ni, mae angen i ni recriwtio’r myfyrwyr gorau a disgleiriaf – y rhai sydd â’r potensial i lwyddo ble bynnag y byddan nhw, boed yng nghymoedd y De neu ar gyfandir arall. Mae ymchwil UUK yn dangos yn eithaf clir bod y mwyafrif o bobl yn y wlad hon yn croesawu myfyrwyr rhyngwladol ac yn sylweddoli eu bod yn dod i’r wlad hon i astudio, ac efallai i weithio am gyfnod os gallan nhw, ac yna’n mynd adref i’w gwlad â set wych o sgiliau, addysg a phrofiad. Yn ystod cynadleddau’r pleidiau eleni, syndod oedd gweld y byddai hyd yn oed UKIP yn symud myfyrwyr o’r targed net ar gyfer mewnfudwyr. Mae’n debyg bod cytundeb eang â’r dadleuon rydyn ni fel sector wedi’u bod yn eu cyflwyno ynghylch fisâu myfyrwyr ac rwy’n gobeithio y gwelwn ni beth symud ynghylch hynny ar ôl yr etholiad cyffredinol.
Bu mis Hydref yn un mawr am lansiadau. Fe lansion ni System Arloesi Caerdydd yn Adeilad Hadyn Ellis, y pum prif brosiect ymgysylltu yn y Senedd, a Chynghrair GW4 yn Nhŷ’r Cyffredin. Denwyd llawer i bob un ohonyn nhw a bu’r sylwadau’n ffafriol. Am amrywiaeth o resymau, mae’n bwysig nid yn unig i ni arloesi, ymgysylltu a chydweithio ond i bobl weld ein bod ni’n gwneud hynny. Rwy’n sylweddoli, wrth gwrs, ein bod ni’n cyflawni’r mathau hynny o brosiectau ers blynyddoedd ond bellach rydyn ni’n arddel ymagwedd ymwybodol a strategol a gaiff ei bwydo i’n penderfyniadau buddsoddi ac a fydd yn weladwy iawn i bobl y tu allan. Bydd hyn i gyd yn ein helpu ni i wella’n safle’n hunain ac o fantais i iechyd, ffyniant a lles pobl yng Nghymru a thu hwnt.
Cyn cau, hoffwn ddweud ychydig eiriau am Gynllun Blwydd-dal y Prifysgolion (yr USS) gan fod y newidiadau arfaethedig iddo’n effeithio ar nifer fawr o gydweithwyr yn y Brifysgol a’i fod yn destun cynllun gan Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (yr UCU) i weithredu’n ddiwydiannol. Y pwynt cyntaf yw bod y materion dan sylw’n hynod gymhleth ac yn destun trafod ar lefel Prydain yn hytrach na chan brifysgolion unigol. Mae’r cynnig gan UUK y cytunwyd arno gan Grŵp yr USS o Fforwm Pensiynau y Cyflogwyr yn destun ymgynghoriad ac ni ellir cytuno arno ond gan y Cyd-Bwyllgor Negodi (y JNC), sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r cyflogwyr a’r UCU. Bydd angen i unrhyw gynnig gan y corff hwnnw fod yn destun cytundeb gan Ymddiriedolwyr yr USS a’r Rheoleiddiwr Pensiynau, a bydd yn destun ymgynghoriad ffurfiol â holl aelodau’r USS. Yn amodol ar y trafodaethau, go brin y byddai unrhyw newid yn dod i rym tan fis Ebrill 2016 o leiaf. Proses faith yw hon, felly, a hir fydd y trafod. Ond mae’n bwysig sylweddoli hyn: os na all y partïon perthnasol lunio cynllun sy’n datrys problem diffyg y cynllun, ac yn bodloni’r Rheoleiddiwr Pensiynau, gellir gorfodi datrysiad iddo a allai fod yn llai deniadol i’r aelodau nag y gallai’r naill ochr a’r llall ddymuno’i weld. Bydd hi er budd i ni i gyd, felly, i ddod i gytundeb.
Gyda dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014