Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Lansio Cynghrair GW4

29 Hydref 2014

Heno, fe siaradais ar ran y pedwar Is-Ganghellor adeg lansio Cynghrair GW4, yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae’r Gynghrair yn cyfuno cryfderau prifysgolion Bryste, Caerdydd, Caerfaddon a Chaerwysg ac yn creu corff digon mawr i lwyddo mewn amgylchedd ymchwilddwys mwyfwy cystadleuol. Bu’r lansiad, a gynhaliwyd dan ofal caredig y Farwnes Randerson, yn llwyddiant mawr iawn a chlod i’n staff ni oedd iddyn nhw drefnu digwyddiad hynod broffesiynol. Yr oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb AS, ynghyd â chynrychiolwyr o fyd diwydiant, byd busnes, y byd academaidd, mudiadau elusennol a’r sector cyhoeddus yn bresennol. Peth arbennig o braf oedd gweld cynifer o fyfyrwyr y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol (y DTP) yno. Arwydd cynnar o lwyddiant GW4 yw’r myfyrwyr hynny ac roeddwn i wrth fy modd o weld eu bod nhw’n gallu ymuno â ni. Lansiwyd y Gynghrair yn swyddogol gan Iain Gray, Prif Weithredwr Innovate UK (y Bwrdd Strategaeth Technoleg gynt), a draddododd araith lawn ysbrydoliaeth a chefnogaeth. Mae pob un o’r pedwar Is-Ganghellor yn cytuno mai cryfder GW4 yw’r gefnogaeth y mae hi wedi’i chael ledled pob un o’r pedair prifysgol, ac rwy’n ddiolchgar i bawb yng Nghaerdydd sydd wedi cyfrannu iddi. Edrychwn ymlaen yn awr at lansio GW4 yng Nghymru ac fe gynhelir y lansiad hwnnw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddiwedd mis Tachwedd.

 

I weld adroddiad llawn ar y digwyddiad, ewch i http://www.caerdydd.ac.uk/news/articles/universities-collaboration-celebrated-13722.html