
- Cyflwynwyd i’r Bwrdd bapur a gynigiai Bolisi i’r Brifysgol ar Gyhoeddiadau Mynediad-Agored. Bydd y polisi’n fodd i’r Brifysgol gydymffurfio â gofynion y cyllidwyr ac i ymbaratoi’n dda ar gyfer cylch nesaf yr REF. Bydd y polisi’n helpu i hyrwyddo ymchwil y Brifysgol drwy drefnu i gynifer o allbynnau â phosibl fod ar gael i’r cyhoedd mor fuan â phosibl er mwyn hybu defnyddio ehangach ar yr ymchwil honno a chynyddu hyd yr eithaf nifer y cyfeiriadau ati. Cytunwyd y byddai’r polisi’n awr yn mynd ymlaen i’r Senedd i’w ystyried.
- Cytunodd y Bwrdd ar ymgynghoriad Ceidwadwyr Cymru ynghylch graddau Llwybr Cyflym. Cyn hir, trefnir i friffiad fod ar gael ar flog y Bwrdd i amlinellu safbwynt Caerdydd.
- Cytunodd y Bwrdd ar yr ymateb i Ddatganiad Monitro Blynyddol Terfynol CCAUC.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:
- Y Newyddion Diweddaraf am y Prosiectau Ystadau
- Adroddiad y Prif Ddirprwy Is-Ganghellor
- Adroddiad Misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd