Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Diwrnod Strategaeth UCAS

25 Medi 2014

Fe es i Ddiwrnod Strategaeth UCAS gyda’r Is-Ganghellor heddiw. Yn y cyfarfod, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Llundain, buom ni’n pwyso a mesur y strategaeth ar gyfer 2010-2015ac yn ein hatgoffa’n hunain gymaint y mae’r cyd-destun a’r amgylchedd allanol wedi newid ers iddi gael ei chychwyn.

Treuliwyd llawer o’r diwrnod yn ystyried strategaeth newydd ar gyfer 2015-2020 – sut olwg a all fod arni, y weledigaeth uchelgeisiol y mae ei hangen mewn amgylchedd sy’n newid, a’r angen am lwyfan dynamig ac ymatebol i gyflawni’r strategaeth. Fel y Prif Ddirprwy Is-Ganghellor sydd â’r Adolygiad o Dderbyn Myfyrwyr yn fy mhortffolio, mae’n hanfodol i mi fynd i gyfarfodydd o’r fath am eu bod yn ein helpu ni i lunio’n hymagwedd yng Nghaerdydd a sicrhau’n bod ni’n dilyn trywydd y sector.