{"id":87,"date":"2016-09-27T12:35:16","date_gmt":"2016-09-27T12:35:16","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/?p=87"},"modified":"2022-04-13T17:25:11","modified_gmt":"2022-04-13T16:25:11","slug":"snap-crackle-pop-may-ar-cwestiwn-o-etholiad-brys","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/snap-crackle-pop-may-ar-cwestiwn-o-etholiad-brys\/","title":{"rendered":"Snap, Crackle, Pop? May a\u2019r Cwestiwn o Etholiad Brys"},"content":{"rendered":"<p><em>Gyda Chynhadledd Hydref y Ceidwadwyr yn cael ei gynnal yn Birmingham wythnos nesaf, Aled Morgan Hughes sy\u2019n ystyried Theresa May a\u2019r cwestiwn o etholiad cyffredinol brys\u2026<\/em><\/p>\n<p><strong>\u201c<em>I\u2019ve got the power!<\/em>\u201d bloeddia anthem rap y band <em>Snap!<\/em> o\u2019r 1990au. Llinell, mae\u2019n debyg, sydd bellach yn berthnasol i Brif Weinidog Prydain, Theresa May. Ers ymddiswyddiad syfrdanol David Cameron fis Mehefin, mae Prydain, dan deyrnasiad y ddynes\u00a0gyntaf i ddal y swydd ers Margaret Thatcher, wedi dod i \u201c<em>Witness the Strength<\/em>\u201d (c\u00e2n arall gan <em>Snap!<\/em>&#8211; googlwch o!) o\u2019i harweinyddiaeth. Serch hyn, gellir awgrymu i sibrydion o \u2018snap\u2019 gwahanol ei natur danseilio ei theyrnasiad hyd hyn- sef y galwadau am etholiad cyffredinol \u2018snap\u2019.<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019n debyg mae prif darddiad y galwadau am etholiad cyffredinol brys yw natur apwyntiad May i\u2019r swydd. Yn dilyn penderfyniad Andrea Leadsom- ei chyd-gystadleuwraig am arweinyddiaeth y Toriaid- i gamu o\u2019r adwy, apwyntiwyd May fel arweinydd ei phlaid, ac felly yn Brif Weinidog, yn ddigon diffwdan. Serch hynny, cyfarchwyd ei hapwyntiad i\u2019r swydd gydag anghydfod gan rai yn sgil y ffaith nad oedd May wedi arwain ei phlaid i fuddugoliaeth mewn etholiad cyffredinol.<\/p>\n<p>Un o nifer sydd wedi cwyno yw Jon Trickett, cydlynydd etholiadol Llafur, a ddadleuai ei bod yn \u201c<em>crucial<\/em>\u201d i Brydain gael Prif Weinidog \u201c<em><a href=\"http:\/\/labourlist.org\/2016\/07\/campaign-chief-trickett-demands-snap-election-amid-tory-chaos\/\">democratically elected<\/a><\/em>\u201d. Cefnogir y safbwynt hefyd gan Tim Farron, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, gan honni byddai penderfyniad gan May i beidio galw etholiad yn \u201c<em><a href=\"http:\/\/labourlist.org\/2016\/07\/campaign-chief-trickett-demands-snap-election-amid-tory-chaos\/\">ludicrous<\/a><\/em>\u201d. Yn y cyfamser, mae dros <a href=\"https:\/\/www.change.org\/p\/theresa-may-mp-call-for-new-general-election\">14,000 o aelodau o\u2019r cyhoedd <\/a>wedi arwyddo deiseb yn galw am etholiad- gan gyhuddo May o beidio hawlio \u201c<em>democratic mandate<\/em>\u201d i fod yn Brif Weinidog.<\/p>\n<p>Nid dyma\u2019r tro cyntaf i Brif Weinidog wynebu\u2019r fath alwadau chwaith. Yn 2007, wrth i Gordon Brown olynu Tony Blair, cafodd teimladau tebyg eu lleisio, gyda neb llai na Theresa May yn cyhuddo Brown o \u201c<em><a href=\"http:\/\/www.independent.co.uk\/news\/uk\/politics\/what-theresa-may-said-to-gordon-brown-after-he-refused-to-hold-a-general-election-in-2007-a7131071.html\">running scared<\/a><\/em>\u201d o alw etholiad brys!<\/p>\n<p><strong>Atalyddion Etholiad<\/strong><\/p>\n<p>Gan felly ail-godi\u2019r grachen o anfodlonrwydd ynghylch diffyg \u2018mandad democrataidd\u2019 Prif Weinidog, i ba raddau dylai May felly ystyried galw Etholiad Cyffredinol brys?<\/p>\n<p>Un atalydd cyfreithiol i\u2019r cam yw\u2019r \u2018<em>Fixed Term Parliament Act<\/em>\u2019 a gyflwynwyd yn 2011 gan y glymblaid Geidwadol\/Rhyddfrydol. Er bod ffyrdd i osgoi\u2019r rhwystr hwn (diddymu\u2019r ddeddf\/pleidlais ddiffyg hyder, ac yn y blaen), rwyf am barhau i ddadlau yn gyfansoddiadol, er y cyhuddiadau o\u2019i diffyg \u2018mandad democrataidd\u2019, nad oes angen i Theresa May alw etholiad brys.<\/p>\n<p><strong>Yn \u00f4l i\u2019r Dyfodol?<\/strong><\/p>\n<p>Serch y ffair o brotest a gwrthwynebiad ynghylch apwyntiad May, nodai\u2019r llyfrau hanes y ceir cynsail hanesyddol cryf i Brif Weinidogion \u2018anetholedig\u2019 ym Mhrydain. O\u2019r 27 Prif Weinidog, gan gynnwys May, sydd wedi teyrnasu ers tarddiad yr Ugeinfed Ganrif, daeth 14 ohonynt i rym heb y \u2018mandad democrataidd\u2019 o lwyddiant mewn Etholiad Cyffredinol. Gweler y duedd hon yn enwedig o drawiadol ymysg y Blaid Geidwadol, gyda 10 o\u2019u 17 Prif Weinidog ers 1900 yn cael eu dyrchafu i\u2019r swydd heb \u2018fandad democrataidd\u2019 yr etholfraint.<\/p>\n<figure class=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-34 aligncenter\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-content\/uploads\/sites\/509\/2016\/09\/prif-weinidog-300x295.jpg\" alt=\"prif weinidog\" width=\"300\" height=\"295\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-content\/uploads\/sites\/509\/2016\/09\/prif-weinidog-300x295.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-content\/uploads\/sites\/509\/2016\/09\/prif-weinidog-768x755.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-content\/uploads\/sites\/509\/2016\/09\/prif-weinidog-1024x1007.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-content\/uploads\/sites\/509\/2016\/09\/prif-weinidog-70x70.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-content\/uploads\/sites\/509\/2016\/09\/prif-weinidog.jpg 1074w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/figure>\n<p>O\u2019r nifer o Brif Weinidogion \u2018anetholedig\u2019 hyn, Anthony Eden, yn 1955, bu\u2019r unig un i alw Etholiad Cyffredinol \u2018snap\u2019 o ganlyniad i\u2019w ddiffyg mandad llywodraethu personol- gan ennill yr etholiad yn gyfforddus- serch cael ei ddisgrifio fel \u201c<em>one of the dullest post-war election<\/em>s\u201d!<\/p>\n<p><strong>Seneddol nid Arlywyddol<\/strong><\/p>\n<p>Yn ganolog i\u2019r ddadl yn erbyn yr angen i alw etholiad brys yw statws cyfansoddiadol Prydain fel cyfundrefn Seneddol, ac nid un Arlywyddol (fel profir ar draws yr Iwerdydd yn yr UDA).<\/p>\n<p>Yn fras, mewn systemau Seneddol, rhoddir y bwyslais yn ganolog ar y pleidiau gwleidyddol. Caiff Aelodau Seneddol eu hethol gan y cyhoedd i gynrychioli etholaethau lleol dan faner bleidiol, gyda\u2019r blaid fwyaf yn y Senedd yn llunio\u2019r llywodraeth. Gydag arweinydd y blaid Seneddol fwyaf felly\u2019n dod yn Brif Weinidog, caiff ei apwyntio i\u2019r swydd yn \u2018anuniongyrchol\u2019 i fendith y cyhoedd. Yn wir, yr unig rhai i bleidleisio am y Prif Weinidog yn \u2018uniongyrchol\u2019, fel petai, yw\u2019r trigolion yn ei etholaeth- megis y 0.0003% o\u2019r etholfraint bleidleisiodd am Theresa May yn etholaeth Maidenhead yn Etholiad Cyffredinol 2015.<\/p>\n<p>I\u2019r gwrthwyneb, mewn cyfundrefnau arlywyddol, yr unigolyn sydd yn ganolog- fel profir yn ddyddiol gan sylw\u2019r BBC i\u2019r ormes Arlywyddol yn yr UDA rhwng Clinton a Trump. Broliai Arlywydd fandad democrataidd cryf, gan gael ei ethol yn uniongyrchol gan etholfraint genedlaethol. Caiff Arlywydd ei ethol i weinyddu am gyfnod penodol o amser, ac felly\u2019n wahanol i Brif Weinidog, nid yw ei oroesiad yn ddibynnol ar gefnogaeth ei blaid wleidyddol yn y Senedd.<\/p>\n<p><strong>\u2018Hail to the Chief\u2019?<\/strong><\/p>\n<p>Serch y gwahaniaethau sylfaenol hyn rhwng cyfundrefnau Arlywyddol a Seneddol, ceir awgrym gan rai bod systemau Seneddol bellach yn datblygu nodweddion \u2018Arlywyddol\u2019. Gyda\u2019r broses yn cael ei labelu fel \u2018Presidentialization\u2019, honni\u2019r profir y ffenomena drwy dwf r\u00f4l a grym yr arweinydd mewn systemau Seneddol. Awgrymir gweler hyn mewn amryw o ffyrdd, megis; ymddangosiad dadleuon arweinyddol, twf sylw cyfryngol, a thwf adnoddau a grym yr arweinydd yn ei blaid wleidyddol. Gellir dadlau i\u2019r duedd unigolyddol yma hefyd gyd-fynd gyda\u2019r galwadau am etholiad brys, gyda\u2019r cyhuddiadau wedi eu selio ar ddiffyg mandad personol May i arwain llywodraeth.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, serch yr awgrymiadau hyn o drawsffurfiad, parhau fod yn fodel blaengar o wleidyddiaeth Seneddol gwna Prydain. Gyda\u2019r Ceidwadwyr yn parhau i fod y blaid fwyafrifol yn y Senedd, ac yn gefnogol o Brif Weinidogaeth May, dim llai na siarad gwag yw\u2019r galwadau hyn am etholiad cyffredinol \u2018snap\u2019 yn y cyd-destun yma.<\/p>\n<p>Bu i Theresa May yn ddiweddar wrthod alwadau am fath etholiad brys, gan bwysleisio na fydd yr etholiad nesaf yn cael ei gynnal tan 2020. Yn gyfansoddiadol, a hanesyddol, does dim amheuaeth yn fy marn i, ei bod yn llygaid ei lle.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gyda Chynhadledd Hydref y Ceidwadwyr yn cael ei gynnal yn Birmingham wythnos nesaf, Aled Morgan Hughes sy\u2019n ystyried Theresa May a\u2019r cwestiwn o etholiad cyffredinol brys\u2026 \u201cI\u2019ve got the power!\u201d [&hellip;]","protected":false},"author":1071,"featured_media":88,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":false,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[26],"tags":[27,30,29,28],"class_list":["post-87","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-british-politics","tag-conservative-party","tag-constitution","tag-presidentialization","tag-theresa-may"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p8iFWs-1p","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-content\/uploads\/sites\/509\/2016\/09\/may.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/87","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1071"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=87"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/87\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":97,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/87\/revisions\/97"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/media\/88"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=87"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=87"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=87"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}