{"id":261,"date":"2017-02-14T14:10:18","date_gmt":"2017-02-14T14:10:18","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/?p=261"},"modified":"2022-04-13T17:25:10","modified_gmt":"2022-04-13T16:25:10","slug":"dryswch-yng-nghymru-fydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/dryswch-yng-nghymru-fydd\/","title":{"rendered":"Dryswch yng Nghymru Fydd?"},"content":{"rendered":"<p><strong>Aled Morgan Hughes sy\u2019n ymateb i argymhellion diweddar gan Lywodraeth Cymru ar ddiwygio etholiadau cyngor sir\u2026<\/strong><\/p>\n<p>Dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, gyda thwf pwerau a chynrychiolaeth, does fawr amheuaeth i fap etholiadol Cymru ddod yn fwyfwy cymhleth. Dychmygwch, er enghraifft, neidio mewn car a gyrru o Gaernarfon i Aberystwyth. Gwibio heibio\u2019r chwedlonol Madiha Tandoori; <em>foot down<\/em> wrth drio pasio lori Mansel Davies ger Dolgellau; a gwedd\u00efo nad yw\u2019r Bont Dyfi ger Machynlleth dan dd\u0175r. Siwrne\u2019 ddigon hirwyntog drwy berfeddion un etholaeth Senedd Ewrop, 4 etholaeth San Steffan a\u2019r Cynulliad, 3 cyngor sir, 2 ranbarth Cynulliad, 2 awdurdod heddlu, a degau o gynghorau cymunedol lleol.<\/p>\n<p>Law yn llaw gyda\u2019r gwahanol haenau yma o gynrychiolaeth a fodolai yng Nghymru\u2019r unfed ganrif ar hugain, gwelir y systemau etholiadol hefyd yn amrywio. Ar gyfer Aelodau Seneddol Ewrop (caiff yn fuan eu halltudio i ebargofiant) defnyddir system rhannol-gyfrannol d\u2019Hondt. Ar gyfer y 40 Aelod Seneddol a chynghorwyr sir lleol, defnyddir system draddodiadol Cyntaf Heibio\u2019r Postyn. Ar gyfer y Cynulliad, ceir system gymysg Aelod Ychwanegol, gyda\u2019r 40 AC etholaethol yn cael eu hethol drwy\u2019r system Gyntaf Heibio\u2019r Postyn a\u2019r 20 rhanbarthol drwy system bleidiol gyfrannol Mr d\u2019Hondt. Tra, ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu, sydd wedi cael eu hethol yng Nghymru a Lloegr ers 2012, defnyddir system etholiadol o Bleidlais Atodol.<\/p>\n<p>Gyda bodolaeth 7 lefel gwahanol o gynrychiolaeth etholedig, a chymysg o 3 system etholiadol wahanol o bleidleisio, does fawr syndod ceir awgrym gan rai o ddryswch ac anwybodaeth gwleidyddol (<a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/2017\/02\/07\/political-knowledge-in-wales\/\">gweler erthygl ddiweddar fy nghyfaill, Jac Larner<\/a>) ymysg etholwyr Cymru. Caiff y dryswch yma yn aml ei danio ymhellach drwy natur newidiol ffiniau etholiadol. Er enghraifft, gweler etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn rhan o Gyngor Sir Gwynedd, ac felly\u2019n ardal naturiol o Ogledd Cymru- gan hefyd berthyn i awdurdodaeth Comisiynydd Heddlu\u2019r Gogledd. Er hyn, yn y Cynulliad, mae\u2019r etholaeth yn rhan o ranbarth ddaearyddol-enfawr, Gorllewin a Chanolbarth Cymru, ac nid rhanbarth Gogledd Cymru.<\/p>\n<p>Gan ystyried cyfansoddiad cymysg cynrychiolaeth Cymru, sioc oedd felly darllen ambell gynnig mewn <a href=\"http:\/\/gov.wales\/newsroom\/localgovernment\/2017\/170131-local-government-reform\/?lang=en\">papur gwyn diweddar gan Lywodraeth Cymru ar ddiwygio cynghorau sir<\/a>. Ynghyd \u00e2 chynyddu\u2019r bleidlais i bobl 16 ac 17 oed, amlinellai\u2019r papur argymhellion i awdurdodau lleol fedru ddewis system etholiadol ar gyfer eu hetholiadau cyngor.<\/p>\n<p>Byddai\u2019r cynlluniau yma\u2019n gweld cynghorau unigol yn cael dewis rhwng y system draddodiadol, Cyntaf Heibio\u2019r Postyn o bleidleisio, neu system fwy cyfrannol ei naws &#8211; y \u2018<em>Single Transferable Vote<\/em>\u2019 (STV). Dychmygwch unwaith eto felly ein taith ddychmygol o Gaernarfon i Aberystwyth. Drwy\u2019r argymhelliad, gall sefyllfa godi\u2019n hawdd lle, er enghraifft, gwelir Gwynedd yn mabwysiadu system STV, Powys yn parhau gyda\u2019r hen drefn Gyntaf Heibio\u2019r Postyn, cyn yna ddychwelyd yn \u00f4l i diriogaeth STV yng Ngheredigion. Nawr dychmygwch yr amrywiad systemol yma wedi ei ail-adrodd, ar hap a damwain, ar draws 22 cyngor sir Cymru. Smonach go iawn.<\/p>\n<p>Mae\u2019n hanfodol nodi, nid barnu\u2019r syniad o ddiwygio etholiadau cyngor sir Cymru yr wyf, nac ychwaith dadlau yn erbyn system etholiadol STV. Hen stori yw hi bellach bod <a href=\"https:\/\/www.electoral-reform.org.uk\/sites\/default\/files\/Welsh-Assembly-Size-Matters.pdf\">gormod o gynghorwyr sir yng Nghymru<\/a>. Byddai symudiad unfrydol tuag at system megis STV yn fodd o gywiro hyn, ac yn rhywbeth i\u2019w groesawu wrth sicrhau cynrychiolaeth fwy cyfrannol. Fel profir yn amgylchfyd gwleidyddol aml-haenog yr Alban, ers i system STV gael ei orfodi ar yr holl gynghorau yn 2007, ceir sawl astudiaeth a honnai i\u2019r <a href=\"http:\/\/blogs.lse.ac.uk\/politicsandpolicy\/stv-scottish-local-elections-2012-clark\/\">cyhoedd ddeall a chefnogi\u2019r system newydd<\/a>.<\/p>\n<p>Does fawr amheuaeth bod angen ar Lywodraeth Cymru i wneud rhywbeth ynghylch \u00e2\u2019r cwestiwn o etholiadau cyngor sir yng Nghymru. Fodd bynnag, rhyw lipryn bach sydd yn naill yr un peth na\u2019r llall yw\u2019r argymhelliad diweddaraf yma. Cynnig gwag, gan gynrychioli ymgais wirfoddol o basio baich a chyfrifoldeb dros benderfyniad allweddol o ddwylo Llywodraeth Bae Caerdydd i actorion gwleidyddol isradd.<\/p>\n<p>Bydd y potensial am ddiffyg cydlyniant etholiadol drwy adael cynghorau ddewis systemau pleidleisio eu hunain ond yn sbarduno dryswch ar lawr gwlad. Penbleth ychwanegol mewn Cymru lle fodolai yn barod, drwy haenau niferus o wleidyddion a systemau etholiadol amrywiol, treiffl gorlawn o gynrychiolaeth. A hyn oll mewn cymdeithas sydd wedi ei lesteirio gan elfen o anwybodaeth wleidyddol sylfaenol ymysg rhengoedd o\u2019i phoblogaeth.<\/p>\n<p>Tra bod etholiadau a chynrychiolaeth o fewn cynghorau sir Cymru yn fater sy\u2019n crefu am ddiwygiad gan y Llywodraeth, ni fyddai\u2019r argymhelliad yma o\u2019r <em>pick and mix politics<\/em> yn gam adeiladol ymlaen i\u2019r cynghorau- nac ychwaith o gymorth i gyflwr democratiaeth ein gwlad.<\/p>\n<hr \/>\n<p><strong>Ers gorffen ysgrifennu\u2019r erthygl hon ddiwedd wythnos diwethaf, mae fy nghyfaill, a Tad Bedydd etholiadau Cymru, yr athro Roger Scully, hefyd wedi cyhoeddi <a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/electionsinwales\/2017\/02\/13\/welsh-government-white-paper-on-reforming-local-government\/\">erthygl ar y fater<\/a>.\u00a0<\/strong><strong>Dwy erthygl yn yr un wythnos am ddiwygio etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru! \u2018Dolig wirioneddol wedi dod yn gynnar!<\/strong><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/twitter.com\/AledMorganH\">@AledMorganH<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Aled Morgan Hughes sy\u2019n ymateb i argymhellion diweddar gan Lywodraeth Cymru ar ddiwygio etholiadau cyngor sir\u2026 Dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, gyda thwf pwerau a chynrychiolaeth, does fawr amheuaeth i [&hellip;]","protected":false},"author":1071,"featured_media":262,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[32,41],"tags":[13,34,8],"class_list":["post-261","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-elections","category-welsh-elections","tag-devolution","tag-elections","tag-welsh-politics"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p8iFWs-4d","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-content\/uploads\/sites\/509\/2017\/02\/blog.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/261","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1071"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=261"}],"version-history":[{"count":16,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/261\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":278,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/261\/revisions\/278"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/media\/262"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=261"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=261"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=261"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}