{"id":93,"date":"2025-06-27T15:38:21","date_gmt":"2025-06-27T14:38:21","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/?p=93"},"modified":"2025-07-21T19:15:21","modified_gmt":"2025-07-21T18:15:21","slug":"blog-rheoli-eich-gyrfa-ymchwil","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/cy\/blog-rheoli-eich-gyrfa-ymchwil\/","title":{"rendered":"Blog: Rheoli eich Gyrfa Ymchwil"},"content":{"rendered":"<p>Mae&#8217;n hawdd colli golwg ar reoli ein gyrfa, yn enwedig pan fo&#8217;r yrfa honno eisoes yn ein cadw mor brysur!\u00a0 Gall fod yn anodd, os nad yn amhosibl, dod o hyd i\u2019r amser sydd ei angen arnom i adolygu a myfyrio ar ble\u2019r ydym ni a ble yr ydym am fod. Rydyn ni&#8217;n ymgolli cymaint yn ein gweithgareddau o ddydd i ddydd nes ein bod yn anghofio ein bod yn mynd i chwythu plwc os na fyddwn ni&#8217;n cymryd eiliad i gynllunio ymlaen llaw!<\/p>\n<p>Mae rheoli gyrfa\u2019n effeithiol yn cynnwys hunanfyfyrio ar eich taith gyrfa hyd yma a\u2019r cyfeiriad yr hoffech chi fynd, ac efallai y bydd angen ichi wneud rhai penderfyniadau sy\u2019n cael effaith ac a allai newid eich bywyd os ydych am newid y sefyllfa bresennol. Ond peidiwch \u00e2 phoeni, os ydych chi&#8217;n meddwl amdano, mae hyn yn rhywbeth rydych chi wedi bod yn ei wneud yn barod!\u00a0 Sut wnaethoch chi gyrraedd lle rydych chi heddiw, yn y swydd hon, yn y Brifysgol hon, yn y ddinas hon? Fe wnaethoch chi wneud penderfyniadau. Efallai eu bod wedi bod yn benderfyniadau heriol iawn a&#8217;ch cadwodd yn effro yn y nos, neu efallai eu bod wedi teimlo fel nad oeddent yn benderfyniadau o gwbl, yn debycach i ddilyniant naturiol. Y naill ffordd neu&#8217;r llall, rydych chi ar hyn o bryd yn profi canlyniad y penderfyniadau hynny.<\/p>\n<h2>Beth sy&#8217;n gweithio orau i chi?<\/h2>\n<p>Mae yna nifer o ddulliau o reoli gyrfa yn y tymor byr a&#8217;r tymor hwy ac mae&#8217;n bwysig eich bod chi&#8217;n dod o hyd i&#8217;r rhai sy&#8217;n gweithio i chi. Isod mae cwpl o awgrymiadau ond nid yw hwn yn rhestr hollgynhwysfawr o bell ffordd; os nad yw&#8217;r enghreifftiau hyn yn addas i chi yna rwy&#8217;n eich annog i ddefnyddio&#8217;r rhyngrwyd i ddod o hyd i rywbeth a fydd yn gweithio i chi. Ond pa bynnag ddulliau y byddwch chi&#8217;n dod o hyd iddyn nhw, byddwch \u00e2 meddwl agored a rhowch gyfle iddyn nhw!<\/p>\n<h3>Fframweithiau Rheoli Gyrfa<\/h3>\n<p>Mae&#8217;r rhain yn tueddu i fod yn eithaf llinol ac fel arfer yn cael eu llywio gan eich nodau a&#8217;ch dyheadau. Mae fframweithiau yn rhoi arweiniad ar sut i drefnu eich meddyliau am eich gyrfa ac yn eich galluogi i gynllunio&#8217;r hyn y gallai fod angen i chi ei wneud a phryd er mwyn eu gwireddu. I ddweud y gwir, er bod y rhan fwyaf o fframweithiau rheoli gyrfa yn seiliedig ar allbynnau ysgolheigaidd nid ydynt yn gymhleth fel arfer, ond gall y strwythur maen nhw&#8217;n ei ddarparu helpu i gynnal eich disgyblaeth a&#8217;ch penderfyniad o ran rheoli gyrfa a&#8217;ch cefnogi i gyrraedd lle rydych chi eisiau bod.<\/p>\n<p>Y fframwaith sy\u2019n taro tant fwyaf gyda mi yw <strong>GROW<\/strong>, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Syr John Whitmore a\u2019i gydweithwyr fel fframwaith ar gyfer sgyrsiau hyfforddi ond rwy\u2019n meddwl ei fod yn gweithio cystal yn y sefyllfa hon hefyd (gallech ddadlau bod rheoli gyrfa yn fath o hunan-hyfforddi!) . Mae&#8217;n sefyll am Nod (<em>Goal<\/em>), Realiti (<em>Reality<\/em>), Opsiynau (<em>Options<\/em>), a Ffordd Ymlaen (<em>Way-forward<\/em>) a gellir ei gymhwyso i gynllunio tymor byr a hirdymor.<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Nod<\/strong> yw\u2019r weithred neu\u2019r canlyniad yr ydych am ei gyflawni, a gallai\u2019r rhain fod yn rhai tymor byr (nodau cysylltiedig \u00e2 thasg, nodau perfformiad, nodau cynnydd) neu dymor hwy (nodau gyrfa yn y pen draw). Rhai o\u2019r cwestiynau y gallech eu hystyried ar y cam hwn yw: Beth ydych chi am ei gyflawni? Beth yw eich diddordebau? Beth fydd yn rhoi boddhad a mwynhad swydd i chi? Os oedd unrhyw beth yn bosibl, sut fyddai hyn yn edrych ar eich cyfer chi?<\/li>\n<li><strong>Realiti<\/strong> yw pan fyddwch chi&#8217;n dod yn \u00f4l i lawr o\u2019r cymylau! Ar y cam hwn, rydych chi&#8217;n asesu eich sefyllfa bresennol o ran y camau a gymerwyd hyd yn hyn&#8230; felly ble ydych chi nawr a sut wnaethoch chi gyrraedd yno? Cwestiynau y gallech eu hystyried yw: Ble ydych chi o ran cyrraedd eich nod? Beth sy&#8217;n mynd yn dda? Beth allai fod yn mynd yn well? Beth\/ble mae&#8217;r rhwystrau? Beth sydd angen ei newid?<\/li>\n<li>Mae<strong> opsiynau<\/strong> yn cynnwys archwilio sut y gallwch symud o ble rydych chi (realiti) i ble rydych chi eisiau bod (nod). I wneud hyn, mae angen i chi wneud dadansoddiad bwlch rhwng y ddau gyflwr (a elwir weithiau yn Ddadansoddiad Anghenion Hyfforddi [TNA] neu Ddadansoddiad Anghenion Datblygu [DNA]). Pa wybodaeth, sgiliau, a\/neu brofiad sydd eu hangen arnoch i gyflawni eich nod(au) a pha rai o\u2019r rheini sydd gennych ar hyn o bryd? Sut gallwch chi fynd i\u2019r afael \u00e2 hynny? Mae cwestiynau y gallech eu hystyried yn cynnwys: Beth allwch chi ddechrau ei wneud i roi eich hun mewn sefyllfa well? Beth fyddai manteision ac anfanteision gwneud hynny? Beth fyddai&#8217;r goblygiadau? Beth fyddai&#8217;n digwydd pe baech chi&#8217;n gwneud dim byd? Pa ysbrydoliaeth allwch chi ei gymryd gan eraill?<\/li>\n<li><strong>\u00a0<\/strong><strong>Y ffordd ymlaen<\/strong> yn y b\u00f4n yw&#8217;r cynllun gweithredu sy&#8217;n deillio o&#8217;ch dadansoddiad bwlch. Beth ydych chi&#8217;n mynd i&#8217;w wneud mewn gwirionedd i&#8217;ch helpu i gyrraedd eich nod a phryd? Mae gweithgaredd \u00e2 phwrpas yn allweddol! Dylai eich cynllun fod yn bwrpasol i chi a dylai fanylu ar sut yr ydych yn mynd i gau unrhyw fylchau a nodwyd gennych, gan gynnwys sut yr ydych yn bwriadu dod o hyd i gyfleoedd hyfforddi a datblygu angenrheidiol a chael mynediad iddynt. Er mwyn eich cadw ar y trywydd iawn, dylai eich cynllun gynnwys cerrig milltir CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol). Adolygwch eich cynllun yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i\u2019r diben, a chynhaliwch gyfarfodydd rheolaidd gyda\u2019ch rheolwr llinell\/mentor i drafod eich cynnydd (nid mewn ADP yn unig!). Mae\u2019r cwestiynau hyn yn cynnwys: Beth ydych chi&#8217;n mynd i wneud? Beth yw eich amserlen? Sut byddwch chi&#8217;n cynnal momentwm? Faint o flaenoriaeth yw hyn? Beth allai fod yn rhwystr? A oes gennych gynllun wrth gefn?<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Digwyddiad ar Hap Cynlluniedig (\u2018Planned Happenstance\u2019)<\/h3>\n<p>Mae\u2019r dull hwn o gynllunio gyrfa yn canolbwyntio ar fod yn agored (ac yn barod) i gyfleoedd sy\u2019n codi. Mae digwyddiad ar hap cynlluniedig yn pwysleisio bod y dyfodol yn anrhagweladwy a bod gan y rhan fwyaf o bobl (ie, y RHAN FWYAF o bobl) yrfaoedd sydd wedi cymryd tro annisgwyl lle mae digwyddiadau a chyfleoedd annisgwyl wedi codi.<\/p>\n<p>Y gwirionedd yw bod y dyfodol yn anrhagweladwy. Bydd pethau annisgwyl yn digwydd, megis peidio \u00e2 chael swydd yr oeddech wir ei heisiau neu ofyn i chi ymuno \u00e2 phrosiect a fydd yn ehangu eich maes ymchwil. Ond nid yw hyn yn golygu na allwch fod yn barod! Gellid gweld pob sefyllfa fel cyfle posib os yw\u2019r unigolyn mewn sefyllfa i adnabod y cyfle hwnnw ac yna i gymryd y camau angenrheidiol i fanteisio arno.<\/p>\n<p>Er mwyn defnyddio\u2019r dull digwyddiadau ar hap cynlluniedig, mae angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o\u2019r hyn sy\u2019n bwysig i chi a\u2019r hyn yr ydych ei eisiau o\u2019ch gyrfa, a deall y cryfderau a\u2019r sgiliau sydd gennych eisoes a pha mor gyflogadwy y maent yn eich gwneud chi. Mae rhwydweithio yn sgil\/gweithgaredd pwysig i&#8217;r rhai sy&#8217;n cymryd agwedd digwyddiadau ar hap cynlluniedig gan nad ydych byth yn gwybod o ble y daw eich cyfle nesaf&#8230;byddwch \u00e2 meddwl agored! Ewch at unrhyw ddigwyddiadau ar hap cynlluniedig gyda meddwl agored a cheisiwch weld newid fel her gadarnhaol, nid rhwystr!<\/p>\n<p>Wrth fabwysiadu&#8217;r dull hwn, mae&#8217;n aml yn ddefnyddiol edrych yn \u00f4l ar eich gyrfa hyd yn hyn i weld lle y digwyddodd cynnydd ac anfanteision ac i fyfyrio ar yr hyn oedd yn rhan o gynllun a&#8217;r hyn nad oedd. Cymerwch olwg ar yr <a href=\"https:\/\/thewellbeingthesis.org.uk\/planning-for-the-world-after\/the-importance-of-planned-happenstance\/\">adnoddau<\/a> hyn a ddatblygwyd gan Brifysgol Derby (a ariennir gan Research England a&#8217;r Swyddfa Myfyrwyr) sy&#8217;n adeiladu ar y gwaith gwreiddiol ar &#8216;<em>Planned Happenstanc<\/em>e&#8217; gan Mitchell, Levin a Krumboltz. Efallai y byddwch yn gweld y <a href=\"https:\/\/youtu.be\/wnTxLiauVt4\">gweminar<\/a> hwn gan Sarah Williams yn ddefnyddiol hefyd.<\/p>\n<h2>Ble wyt ti eisiau bod?<\/h2>\n<p>Ystyriaeth bwysig wrth reoli eich gyrfa yn y tymor hwy yw penderfynu ble rydych am i&#8217;r yrfa honno ddatblygu. Rydych chi&#8217;n gweithio yn y byd academaidd ar hyn o bryd ond ai dyna lle rydych chi wir eisiau bod? Ai dyma\u2019r amgylchedd sydd fwyaf addas i chi? Nid oes unrhyw atebion anghywir felly peidiwch \u00e2 bod ofn gofyn y cwestiynau hyn (ac eraill) i chi&#8217;ch hun o bryd i&#8217;w gilydd.<\/p>\n<h3>Gyrfa academaidd<\/h3>\n<p>Yn y byd academaidd, mae rheoli gyrfa yn dechrau gyda sefydlu pa fath o academydd yr hoffech chi fod. Ydych chi eisiau gweithio ar eich ymchwil yn unig, neu a hoffech chi addysgu? Ydych chi eisiau bod yn bennaeth ar d\u00eem mawr? Ydych chi\u2019n teimlo\u2019n gyfforddus mewn Prifysgol <a href=\"https:\/\/russellgroup.ac.uk\/about\/our-universities\/\">Gr\u0175p Russell<\/a> sy&#8217;n canolbwyntio ar ymchwil, neu a fyddai sefydliad ymchwil arbenigol yn fwy addas i chi? Sut fyddech chi\u2019n teimlo am ddod yn arweinydd strategol o fewn y Brifysgol, cynrychioli\u2019r gymuned academaidd ar bwyllgorau ac ati, neu efallai hyd yn oed r\u00f4l fel uwch reolwr? Mae&#8217;r cwestiynau&#8217;n ymddangos yn ddiddiwedd\u2026<\/p>\n<p>Mae gyrfa academaidd yng Nghaerdydd yn cynnig 3 llwybr gyrfa, sef Ymchwil, Addysgu ac Ymchwil, ac Addysgu ac Ysgolheictod, ac mae modd symud rhwng y llwybrau hynny. Mae <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/your-performance\/academic-staff\">Academydd Caerdydd<\/a> yn manylu ar y disgwyliadau sy&#8217;n cwmpasu ein holl lwybrau academaidd ac yn dangos y sgiliau a&#8217;r meysydd gweithgaredd hynny y dylech ganolbwyntio ar eu datblygu, yn ogystal \u00e2&#8217;r meincnodau ar gyfer asesu staff academaidd fel rhan o&#8217;n <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/promotions-and-banding\/academic-promotion\">cynllun dyrchafiadau academaidd<\/a>. Er mwyn llwyddo o fewn unrhyw un o\u2019r llwybrau mae\u2019n arfer da edrych i\u2019r dyfodol 1\/5\/10 mlynedd i mewn i\u2019ch gyrfa a gwneud yn si\u0175r eich bod yn glir ynghylch ble mae angen i chi fod a beth sydd angen i chi fod yn ei wneud ar yr adegau hynny mewn perthynas \u00e2 disgwyliadau\u2019r Brifysgol. Bydd cael y nodau tymor hwy hynny yn eich helpu i gymryd camau priodol ar yr amser iawn i sicrhau eich bod yn gallu bodloni\u2019r gofynion hynny pan fo\u2019n bwysig.<\/p>\n<p>Bydd cael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch datblygiadau&#8217;r sector ehangach a pholis\u00efau addysg uwch, a deall y ffordd y mae gwaith prifysgolion yn cael ei fesur a&#8217;i asesu, gan gynnwys y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ac arolygon allweddol megis <a href=\"https:\/\/www.officeforstudents.org.uk\/publications\/national-student-survey-2025\/\">Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr<\/a> yn eich helpu gyda&#8217;ch gwaith cynllunio, a bydd hefyd yn rhoi cyd-destun pwysig i chi ar gyfer eich r\u00f4l bresennol.\u00a0 Mae bod yn ymwybodol o\u2019r wybodaeth ehangach hon, yr un mor bwysig ar gyfer datblygu yn eich gyrfa academaidd ag y mae bod yn ymwybodol o wybodaeth am ddatblygiadau ym maes eich disgyblaeth.<\/p>\n<p>Darganfyddwch fwy am yr opsiynau rydyn ni&#8217;n eu cynnig ar <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/supporting-your-work\/research-support\/how-we-support-research-staff\/professional-and-career-development-for-researchers\/pay-and-career-progression-for-research-staff\">gyfer dilyniant gyrfa i staff ymchwil<\/a> a&#8217;r ffyrdd rydyn ni&#8217;n eich cefnogi chi i <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/research-careers\/managing-your-research-career\">reoli eich gyrfa academaidd<\/a>.<\/p>\n<h3>Opsiynau Gyrfa Ehangach<\/h3>\n<p>Bydd hwn yn bwnc ar gyfer blog yn y dyfodol felly dim ond ei grybwyll y byddaf yma, ond efallai y byddwch yn penderfynu nad yw gyrfa academaidd yn addas i chi. Gall fod llawer o resymau pam eich bod yn dod i\u2019r casgliad hwn: efallai nad oeddech chi erioed wedi dymuno cael gyrfa academaidd yn y lle cyntaf ond wedi cael eich hannog i ddilyn y llwybr hwn, neu efallai eich bod wedi dadrithio \u00e2\u2019r hyn y mae\u2019n ei olygu i fod \u00e2 r\u00f4l academaidd, neu efallai nad yw pethau wedi mynd y ffordd yr ydych wedi dymuno ac nad ydych wedi gallu adeiladu&#8217;r profiad holl bwysig hwnnw. Beth bynnag yw&#8217;r rheswm neu&#8217;r rhesymau, cofiwch eu bod i gyd yn ddilys ac nad oes dim o&#8217;i le ar wneud y dewis hwnnw! Yn wir, mae dilyn gyrfa ar draws sectorau (ac yn \u00f4l eto) yn dod yn fwyfwy cyffredin, does ond rhaid edrych ar sgyrsiau academaidd ar &#8216;X&#8217; i weld hynny.<\/p>\n<p>Mae un o\u2019r heriau wrth wneud y penderfyniad hwn, rwy\u2019n meddwl, yn deillio o\u2019r ffaith bod bron popeth ar gyfer gyrfa academaidd yn ymwneud \u00e2\u2019r cymhwyster PhD. Cyfeirir atoch chi, fel unigolyn a chymuned, fel &#8216;postdocs&#8217;. Cyfeirir at eich swydd fel &#8216;postdoc&#8217;. Y tu allan i&#8217;r byd academaidd, mae&#8217;n ymddangos bod y pwyslais yn cael ei roi mwy ar y sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu datblygu yn ystod PhD yn hytrach nag ar y cymhwyster ei hun. Nid yn aml y gwelwch &#8216;\u00d4l-ddoethurol&#8217; mewn teitl swydd y tu allan i&#8217;r byd academaidd, hyd yn oed os yw PhD yn faen prawf hanfodol! Gall y neges bron yn isganfyddol hwn mai gyrfa academaidd yw&#8217;r hyn yr ydych i fod i&#8217;w wneud ar \u00f4l PhD fod yn eithaf pwerus, ac felly pan fyddwn yn penderfynu mynd yn groes i&#8217;r llif hwnnw gallwn deimlo ein bod wedi methu neu ein bod wedi gwastraffu ein hamser, pan nad yw&#8217;r naill na&#8217;r llall yn wir. Os ydych chi&#8217;n ystyried gyrfa y tu allan i&#8217;r byd academaidd, boed mewn ymchwil ai peidio, peidiwch \u00e2 theimlo&#8217;n ofn archwilio&#8217;r meddyliau hynny. Gall <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/cy\/home-2\/\">Llwybrau Gyrfa i Ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd<\/a> a\u2019r adnoddau <a href=\"https:\/\/prosper.liverpool.ac.uk\/\">Porth Ffyniant<\/a> newydd eich helpu i ddechrau hyn.<\/p>\n<p>Fel y dywedais, bydd hwn yn bwnc ar gyfer blog yn y dyfodol, ond yn y cyfamser gallwch ddarllen rhywbeth tebyg ar hyn gan ein cydweithwyr rhagorol ym <a href=\"https:\/\/theauditorium.blog\/2024\/02\/15\/where-do-narratives-of-failure-come-from\/\">Mhrifysgol Glasgow<\/a>.<\/p>\n<h2>Gair i gloi<\/h2>\n<p>Mae cael gyrfa am oes yn golygu bod angen newid parhaus (wedi&#8217;r cyfan, newid yw un o&#8217;r unig bethau sy\u2019n gyson mewn bywyd!). Mae mynd yn \u00f4l i edrych ar eich dewisiadau o ran eich gyrfa yn ddull a fydd o ddefnydd ar unrhyw gam o&#8217;ch gyrfa. Gall ystyried sut mae pobl yn gwneud dewisiadau gyrfa yn gyffredinol a myfyrio ar eich agwedd naturiol eich hun at newid a dewis eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth o&#8217;r hyn sy&#8217;n bwysig i chi a beth, os o gwbl, a allai fod yn eich dal yn \u00f4l.<\/p>\n<h2>Adnoddau ar gyfer Rheoli Gyrfa<\/h2>\n<p><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/cy\/home-2\/\">Llwybrau Gyrfa i Ymchwilwyr<\/a> \u2013 Mae&#8217;r adnodd hwn wedi&#8217;i greu i ddarparu ystod o adnoddau dysgu gyrfa rhyngweithiol a diddorol ar gyfer Ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd ar Ddechrau eu Gyrfa, boed yn fyfyrwyr neu\u2019n staff.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.vitae.ac.uk\/researchers-professional-development\/about-the-vitae-researcher-development-framework\/about-the-vitae-researcher-development-framework\">Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae (RDF)<\/a> &#8211; Mae Vitae yn defnyddio&#8217;r RDF fel y pwynt cyfeirio ar gyfer eu holl gefnogaeth gyrfa ac mae ganddynt ystod o adnoddau i&#8217;ch helpu i ddeall a myfyrio ar eich gwerthoedd, cymhellion, arddulliau dysgu, a sgiliau. Mae llawer o wahanol <a href=\"https:\/\/www.vitae.ac.uk\/researchers-professional-development\/about-the-vitae-researcher-development-framework\/lenses-on-the-vitae-researcher-development-framework\">lensys<\/a> i&#8217;ch helpu i gael y gorau o&#8217;r RDF (<a href=\"https:\/\/vitae.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/Employability-Lens-Vitae-Researcher-Development-Framework-RDF.pdf\">mae&#8217;r lens Cyflogadwyedd<\/a> yn fan cychwyn da). Mae Vitae yn cynnig cymorth ychwanegol i&#8217;ch helpu i <a href=\"https:\/\/www.vitae.ac.uk\/researcher-careers\/career-management-for-researchers\">gynllunio a rheoli eich gyrfa<\/a>, gydag adran gyfan o adnoddau ac ymarferion y gallwch eu defnyddio a&#8217;u gwneud ar eich cyflymder eich hun, ynghyd ag adroddiadau ar &#8216;<a href=\"https:\/\/vitae.ac.uk\/resource\/careers-in-research\/what-do-researchers-do\/\">Beth mae Ymchwilwyr yn ei wneud?<\/a>&#8216; a &#8216;<a href=\"https:\/\/vitae.ac.uk\/resource\/careers-in-research\/research-career-stories\/\">Straeon gyrfa ymchwilwyr<\/a>&#8216;, y ddau wedi\u2019u diweddaru ddiwethaf yn 2022.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/prosper.liverpool.ac.uk\/\">Prosper<\/a> &#8211; Wedi&#8217;i leoli yn yr Academi, mae Prosper yn ddull newydd o ddatblygu gyrfa sy&#8217;n datgloi potensial \u2018postdocs\u2019 ffynnu mewn sawl llwybr gyrfa. Eu nod yn y pen draw yw agor y gronfa dalent enfawr sy&#8217;n bodoli o fewn y gymuned ymchwil \u00f4l-ddoethurol, er budd y \u2018postdocs\u2019 eu hunain, rheolwyr ymchwilwyr a phrif ymchwilwyr, cyflogwyr, ac economi ehangach y DU.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/careers-advice\/getting-a-job\/how-to-choose-a-career\">Rhagolygon<\/a> \u2013 Gall hyn fod o gymorth i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd a gallai\u2019r adnoddau sydd ar gael dawelu eich meddwl bod cynllunio gyrfa yn broses barhaus a\u2019i bod yn naturiol adolygu ac ailymweld \u00e2\u2019ch nodau ac amcanion yn rheolaidd!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae'n hawdd colli golwg ar reoli ein gyrfa, yn enwedig pan fo'r yrfa honno eisoes yn ein cadw mor brysur!\u00a0 Gall fod yn anodd, os nad yn amhosibl, dod o [&hellip;]","protected":false},"author":7011,"featured_media":179,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[71,69,65],"tags":[],"class_list":["post-93","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-datblygu-gyrfa","category-gyrfaoedd-amrywiol","category-hyrwyddo-datblygiad-proffesiynol"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/93","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7011"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=93"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/93\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":391,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/93\/revisions\/391"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/media\/179"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=93"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=93"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=93"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}